Intern Gwaith Fforensig Digidol a Seiber

Heddlu De Cymru
Staff Heddlu
Uned Seiber Ranbarthol
K Uned Seiber Ranbarthol
Pen-y-bont ar Ogwr
SC3
£19,452 - £20,706
Llawn Amser
37
Tymor Sefydlog
12
2

04/08/21 15:00

Gwahoddir ceisiadau ar gyfer rôl Intern Gwaith Fforensig Digidol a Seiber yn yr Uned Seiberdroseddu Ranbarthol sy'n rhan o Uned Troseddau Cyfundrefnol Ranbarthol Tarian. Mae'r rôl hon yn fan cychwyn delfrydol i rywun sy’n dechrau ei yrfa yn y maes seiber a gwaith fforensig ddigidol. 

Rhaid i ymgeiswyr fod yn barod i ymgymryd â phroses fetio hyd at Lefel MV/SC.  

Rhaid i ymgeiswyr fod yn barod i deithio a mynychu cyrsiau fel rhan o'u datblygiad proffesiynol.  

Rhaid i'r ymgeisydd llwyddiannus feddu ar drwydded yrru lawn y DU gan y bydd ei ddyletswyddau yn ei gwneud yn ofynnol iddo deithio i gyfarfodydd ac ymrwymiadau, ac yn ôl.

Croesawir ceisiadau gan aelodau o grwpiau wedi'u tangynrychioli.

 

Os yw eich swydd bresennol o fewn y Ganolfan Gwasanaethau Cyhoeddus, neu os cawsoch eich cyflogi ar ôl 1 Chwefror 2017, mae'n rhaid eich bod wedi cyflawni 2 flynedd o wasanaeth â deiliadaeth cyn gwneud cais am unrhyw rolau eraill.

Os ydych yn rhan o Ymchwiliad sy'n mynd rhagddo ar hyn o bryd, ni fyddwch yn gymwys i wneud cais ar gyfer y rôl hon

I gael rhagor o wybodaeth ynglŷn â'r rôl hon, cysylltwch â Mike Yeo ar 01656 869211  neu mike.yeo2@south-wales.police.uk

Cliciwch yma i gael gwybodaeth am sut i gwblhau ein proses ymgeisio ar-lein'

Ni ellir gwneud cais am y cyfle hwn.