19/03/24 15:00
Mynegeiwyr/Swyddogion Rheoli Data
Yr Heddlu: Heddlu De Cymru
Math o Rôl: Staff yr Heddlu
Maes Busnes: Uned Rheoli Data Genedlaethol
Lleoliad: Pen-y-bont ar Ogwr
Graddfa: SC5/6
Cyflog: £27,789.00 to £32,772.00ac 20% lwfans sifft
Llawn Amser/Rhan Amser: Llawn Amser (addas ar gyfer Rhannu Swydd)
Oriau Gwaith:37 (addas ar gyfer Rhannu Swydd)
Math o Gontract: Parhaol
Lefel ofynnol y gallu yn y Gymraeg: Lefel 2
Disgrifiad o'r Hysbysed Swydd:
Mae Heddlu De Cymru yn awyddus i recriwtio nifer o Fynegeiwyr/Swyddogion Rheoli Data i weithio yn ein Huned Rheoli Data Genedlaethol arloesol a dynamig.
Byddwch yn ffurfio rhan o dîm Mynegeiwr Rheoli Data, gan ddarparu gwasanaeth effeithlon, hyddysg ac effeithiol sy'n ymwneud â holl agweddau Gweinyddu ac Ymchwilio Rheoli Data. Byddwch yn gweithio ar draws sawl cronfa ddata, ymchwilio a chroes gyfeirio cudd-wybodaeth drwy gronfeydd data sicr a bydd disgwyl adnabod llinellau ymholi allweddol, a chodi'r wybodaeth hon yn ôl yr angen.
Mae hon yn swydd heriol lle mae angen unigolion unigryw a all weithio o dan bwysau, blaenoriaethu llwythi gwaith a bod yn flaengar. Yn gyfnewid am hyn, bydd gennych swydd a fydd yn cynnig llawer o foddhad lle byddwch yn gwneud cyfraniad sylweddol at ddiogelu cymunedau De Cymru, a thrwy'r Deyrnas Unedig gyfan.
Bydd deiliaid y swydd yn gweithio rota sifft o ddydd Llun i ddydd Gwener. Yn unol â'r patrwm sifft hwn byddwch yn derbyn 20% lwfans sifft.
Mae'r swydd hon yn addas ar gyfer rhannu swydd.
Mae'n hanfodol bod yr ymgeiswyr yn barod i gwblhau'r cliriad diogelwch ehangach a'r broses fetio ddatblygedig yn llwyddiannus. Bydd hefyd angen i ddeiliaid y swydd gwblhau proses sefydlu diogelwch ychwanegol yn llwyddiannus. Mae rhan ohoni'n gofyn am wiriadau cenedligrwydd a chysylltiadau tramor cyn sgrinio.
Bydd hefyd yn ofynnol eich bod wedi byw yn y DU am o leiaf 10 mlynedd er mwyn bod yn addas ar gyfer y lefel o fetio sy'n ofynnol.
Noder, os ydych yn destun ymchwiliad PSD parhaus, efallai y bydd eich apwyntiad neu leoliad yn y rôl yn cael eu gohirio wrth aros am ganlyniad. Bydd p'un a yw'r rôl yn cael ei chadw'n agored yn cael ei hystyried fesul achos
Mae'n rhaid i'r ymgeisydd llwyddiannus fod yn fodlon cael ei fetio hyd at Lefel MV/SC/DV
Yn ogystal â phroses fetio uwch a phroses fetio rheoli’r heddlu, rhaid pwysleisio bod yn rhaid i ymgeiswyr gyflawni'r ddau gliriad i ymgymryd â'r swydd hon, a chwblhau a phasio'r Cwrs Hyfforddi Cenedlaethol gofynnol hefyd.
Os bydd angen unrhyw help o ran y cwrs a'r broses recriwtio, byddwn yn cynnal gweithdy ar y diwrnod isod a all fod o ddiddordeb i chi:
Gweithdy ddydd Llun 4 Mawrth 2024 am 6:00 pm yn:
Canolfan Ddysgu'r Heddlu
Pencadlys Heddlu De Cymru
Heol y Bont-faen
Pen-y-bont ar Ogwr
CF31 3SU
Cofrestrwch eich diddordeb drwy e-bostio HR.Helpdesk@south-wales.police.uk
Er mwyn gwneud cais cwblhewch y ffurflen gais ar-lein.
Ni ellir gwneud cais am y cyfle hwn.