Intern/Lleoliad Gwaith Cyllid Corfforaethol

Heddlu De Cymru
Staff Heddlu
Cyllid ac Adnoddau
Portffolio Gwasanaethau Cyllid a Busnes
Pencadlys, Pen-y-bont ar Ogwr
SC3
£20,118
Llawn Amser
37
Tymor Sefydlog
12
2

08/01/23 15:00

Hoffech chi gael gyrfa heb ei hail? Os felly... YmunwchâNi

Mae Heddlu De Cymru yn dod â miloedd o bobl at ei gilydd sy'n rhannu'r un nod – cadw De Cymru'n ddiogel.

Rydym am sicrhau mai ni yw'r gorau am ddeall ac ymateb i anghenion ein cymunedau. I wneud hyn, mae angen i'r ymgeiswyr gorau posibl o amrywiaeth eang o gefndiroedd ymuno â'n teulu plismona.

Mae Interniaeth Heddlu De Cymru yn rhoi'r cyfle i chi brofi eich gwybodaeth academaidd mewn lleoliad ymarferol a phroffesiynol lle byddwch yn cael profiad gwaith a hyfforddiant gwerthfawr. Gallwch fod yn hyderus y cewch gymorth tîm arbenigol drwy'ch interniaeth a fydd yn eich annog i gyflawni eich potensial.

Bydd bod yn rhan o #TîmHDC yn cynnig profiad dysgu unigryw i chi lle byddwch yn cyfrannu at brosiectau bywyd go iawn mewn amgylchedd cymhleth ac amrywiol. Rydym yn gwerthfawrogi unigoliaeth ac yn annog syniadau newydd a chreadigrwydd a fydd yn cyfrannu at ein llwyddiant fel heddlu ac yn gwneud gwahaniaeth i gymdeithas.

Mae'r Adran Cyllid Corfforaethol yn gyfrifol am fonitro cyllideb flynyddol gwerth £346 miliwn. Mae ganddi amrywiaeth eang o rolau ar draws pedwar tîm: cyfrifon rheoli, cyfrifon ariannol, cydweithredu a'r trysorlys/cyflogres. Rydym yn rhoi cyngor a chymorth i'r Prif Gwnstabl a Chomisiynydd yr Heddlu a Throseddu wrth baratoi'r gyllideb flynyddol, gan fonitro gwariant yn ystod y flwyddyn, ac adrodd ar y sefyllfa ariannol yn rheolaidd drwy gydol y flwyddyn. Rydym hefyd yn sicrhau bod mwy na 5,500 o swyddogion a staff yn cael eu cyflog a'u treuliau ar amser bob mis; buddsoddi a rheoli balansau arian parod sylweddol; craffu ar wariant ar brosiectau cyfalaf sylweddol; a chefnogi gwaith cydweithio â heddluoedd a sefydliadau eraill ledled Cymru. Ein nod cyffredinol yw sicrhau bod yr Heddlu'n gwario arian cyhoeddus yn ddoeth i ddiogelu gwasanaethau plismona yn ein cymunedau.

Rydym yn cynnig cyfle cyffrous i Intern ymuno â'n Hadran Gyllid am gyfnod o 12 mis lle y byddwch yn rhoi cymorth a chyngor ariannol i adrannau eraill yn yr Heddlu er mwyn cefnogi Plismona Gweithredol. Bydd rhai o'r dyletswyddau hyn yn cynnwys:

  • Gweithio gyda chydweithwyr yn yr Heddlu a heddluoedd eraill yng Nghymru i fonitro ac adrodd ar wariant ar weithgareddau cydweithredu i uwch-swyddogion a phartneriaid; 
  • Craffu ar wariant i sicrhau bod y symiau cywir yn cael eu gwario ar y pethau cywir, ac yn y ffordd gywir gan ddefnyddio systemau a phrosesau mewnol; 
  • Gweithio gyda chydweithwyr yn yr adran gyllid i wella a datblygu ein systemau ariannol yn barhaus er mwyn sicrhau eu bod yn parhau i fod yn effeithlon ac yn effeithiol;
  • Sicrhau cydymffurfiaeth â safonau cyfrifyddu cenedlaethol a rhyngwladol, ynghyd â rheoliadau a phrosesau ariannol mewnol.

Bydd yr interniaeth yn dechrau fis Medi 2023 am gyfnod o 12 mis ac er mwyn bod yn gymwys bydd angen i chi fod wrthi'n astudio ar gyfer gradd berthnasol mewn Cyllid, Busnes neu Gyfrifyddiaeth, Neu wedi raddio o fewn y 3 mlynedd diwethaf

 

Mae buddiannau niferus i weithio i Heddlu De Cymru, o gyfleoedd dysgu a datblygu i gynlluniau sy'n anelu at wella eich ffordd o fyw a'ch llesiant, yn ogystal â Chynllun Pensiwn Llywodraeth Leol / Cynlluniau Pensiwn yr Heddlu hael, gwyliau blynyddol â thâl, gweithio hyblyg a pholisïau cyfeillgar i deuluoedd a llawer mwy, cliciwch yma i gael rhagor o wybodaeth.

 

Peidiwch â cholli'r cyfle gwych hwn, gwnewch gais heddiw ac ymunwch â #TîmHDC

 

Cliciwch yma i gael gwybodaeth am sut i gwblhau ein proses ymgeisio ar-lein'

Ni ellir gwneud cais am y cyfle hwn.