Intern Uned Ymchwiliad Cyd Gwyddonol

Heddlu De Cymru
Staff Heddlu
Uned Ymchwiliadau Gwyddonol ar y Cyd
Pen-y-bont ar Ogwr
SC3
£20,118
Llawn Amser
37
Tymor Sefydlog
12
2

08/01/23 15:00

Hoffech chi gael gyrfa heb ei hail? Os felly... YmunwchâNi

Mae Heddlu De Cymru yn dod â miloedd o bobl ynghyd sydd â'r un nod – cadw De Cymru yn ddiogel.

Rydym am sicrhau mai ni yw'r gorau am ddeall ac ymateb i anghenion ein cymunedau. I wneud hyn, mae angen i'r ymgeiswyr gorau posibl o amrywiaeth eang o gefndiroedd ymuno â'n teulu plismona.

Mae Interniaeth Heddlu De Cymru yn rhoi cyfle i chi brofi eich gwybodaeth academaidd mewn lleoliad ymarferol a phroffesiynol lle byddwch yn cael profiad gwaith a hyfforddiant gwerthfawr. Gallwch fod yn hyderus, drwy gydol eich interniaeth, y cewch eich cefnogi gan dîm arbenigol a fydd yn eich annog i gyflawni eich potensial.

Bydd bod yn rhan o #TîmHDC yn cynnig profiad dysgu unigryw i chi lle byddwch yn cyfrannu at brosiectau bywyd go iawn mewn amgylchedd cymhleth ac amrywiol. Rydym yn gwerthfawrogi unigoliaeth ac yn annog syniadau newydd a chreadigrwydd a fydd yn cyfrannu at ein llwyddiant fel heddlu ac yn gwneud gwahaniaeth i gymdeithas.

Mae gennym gyfle cyffrous i Intern Fforensig i ymgysylltu a chefnogi meysydd amrywiol o waith Fforensig o fewn adrannau arbenigol yr Uned Ymchwilio Gwyddonol ar y Cyd (JSIU). Mae'r JSIU yn cynnwys sawl adran arbenigol fel Adnabod Safleoedd Troseddau, Adnabod Olion Bysedd, Esgidiau, Cyffuriau a Delweddu Fforensig Arbenigol.

Pwrpas yr interniaeth yw helpu ymgeiswyr i ychwanegu at astudiaethau academaidd blaenorol sy'n ymwneud â phynciau fforensig lle caiff ymgeiswyr llwyddiannus brofiad ymarferol mewn amgylchedd gwaith ymchwiliadau fforensig go iawn. Cliciwch yma am ragor o wybodaeth

Bydd yr interniaeth yn dechrau fis Medi 2023 ac er mwyn bod yn gymwys bydd angen i chi fod wrthi'n astudio ar gyfer gradd mewn pwnc perthnasol ac yn awyddus i ehangu eich gwybodaeth yn y maes hwn, Neu wedi raddio o fewn y 3 mlynedd diwethaf

Mae sawl mantais i weithio i Heddlu De Cymru, o gyfleoedd dysgu a datblygu i gynlluniau sydd â'r nod o wella eich ffordd o fyw a'ch llesiant, yn ogystal â Chynllun Pensiwn Llywodraeth Leol / Cynlluniau Pensiwn yr Heddlu sy'n hael iawn, gwyliau blynyddol â thâl, gweithio hyblyg a pholisïau sy'n ystyriol o deuluoedd a llawer mwy, cliciwch yma i gael rhagor o wybodaeth.

Cyfweliadau am y bost yma yn disgwyl ei fod yn Ionawr 2023

Peidiwch â cholli'r cyfle gwych hwn, gwnewch gais heddiw ac ymunwch â #TîmHDC

 

Cliciwch yma i gael gwybodaeth am sut i gwblhau ein proses ymgeisio ar-lein'

Ni ellir gwneud cais am y cyfle hwn.