Intern Gwasanaethau Gyfreithiol

Heddlu De Cymru
Staff Heddlu
Gwasanaethau Cyfreithiol
K Gwasanaethau Cyfreithiol ar y Cyd
Pencadlys, Pen-y-bont ar Ogwr
SC3
£20,118
Llawn Amser
37
Tymor Sefydlog
12
2

08/01/23 15:00

Hoffech chi gael gyrfa heb ei hail? Os felly... YmunwchâNi

Mae Heddlu De Cymru yn dod â miloedd o bobl at ei gilydd sy'n rhannu'r un nod – cadw De Cymru'n ddiogel.

Rydym am sicrhau mai ni yw'r gorau am ddeall ac ymateb i anghenion ein cymunedau. I wneud hyn, mae angen i'r ymgeiswyr gorau posibl o amrywiaeth eang o gefndiroedd ymuno â'n teulu plismona.

Mae Interniaeth Heddlu De Cymru yn rhoi'r cyfle i chi brofi eich gwybodaeth academaidd mewn lleoliad ymarferol a phroffesiynol lle byddwch yn cael profiad gwaith a hyfforddiant gwerthfawr. Gallwch fod yn hyderus y cewch gymorth tîm arbenigol drwy'ch interniaeth a fydd yn eich annog i gyflawni eich potensial.

Bydd bod yn rhan o #TîmHDC yn cynnig profiad dysgu unigryw i chi lle byddwch yn cyfrannu at brosiectau bywyd go iawn mewn amgylchedd cymhleth ac amrywiol. Rydym yn gwerthfawrogi unigoliaeth ac yn annog syniadau newydd a chreadigrwydd a fydd yn cyfrannu at ein llwyddiant fel heddlu ac yn gwneud gwahaniaeth i gymdeithas.

Rydym yn chwilio am unigolyn brwdfrydig a llawn cymhelliant i weithio yn ein tîm Cyd-wasanaethau Cyfreithiol am gyfnod o 12 mis. Yn ystod yr amser hwnnw byddwch yn cyflawni amrywiaeth o dasgau cymorth ac ymchwil er mwyn helpu gyda gwaith dadleuol a gwaith annadleuol y tîm (yn cynnwys contractau, cyflogaeth, eiddo masnachol, cyfraith plismona gweithredol ac ymgyfreitha). Mae'r Cyd-wasanaeth Cyfreithiol yn darparu cyngor i Heddlu Gwent a Heddlu De Cymru, ac felly efallai y bydd gofyn i chi weithio i'r ddau heddlu.
 
Bydd yr interniaeth yn dechrau ym mis Medi 2023 ac er mwyn bod yn gymwys byddwch wedi cwblhau gradd yn y Gyfraith neu wrthi'n astudio ar gyfer gradd o'r fath. Bydd angen i chi feddu ar sgiliau TGCh rhagorol a'r gallu i gasglu, llunio, prosesu a chyflwyno gwybodaeth mewn modd strwythuredig. Bydd angen i chi feddu ar sgiliau cyfathrebu rhagorol a bod yn ymchwilgar drwy reddf, yn hyderus i herio ac i gael eich herio, ond mewn modd proffesiynol. 

Mae buddiannau niferus i weithio i Heddlu De Cymru, o gyfleoedd dysgu a datblygu i gynlluniau sy'n anelu at wella eich ffordd o fyw a'ch llesiant, yn ogystal â Chynllun Pensiwn Llywodraeth Leol / Cynlluniau Pensiwn yr Heddlu hael, gwyliau blynyddol â thâl, gweithio hyblyg a pholisïau cyfeillgar i deuluoedd a llawer mwy, cliciwch yma i gael rhagor o wybodaeth.

Cyfweliadau am y bost yma yn disgwyl ei fod yn Ionawr 2023

Peidiwch â cholli'r cyfle gwych hwn, gwnewch gais heddiw ac ymunwch â #TîmHDC

 

Cliciwch yma i gael gwybodaeth am sut i gwblhau ein proses ymgeisio ar-lein'

Ni ellir gwneud cais am y cyfle hwn.