Intern Gwasanaethau Corfforaethol a Digwyddiadau

Heddlu De Cymru
Staff Heddlu
Gwasanaethau Corfforaethol
Pencadlys, Pen-y-bont ar Ogwr
SC3
£20,118
Llawn Amser
37
Tymor Sefydlog
12
2

08/01/23 15:00

Hoffech chi gael gyrfa heb ei hail? Os felly... YmunwchâNi

Mae Heddlu De Cymru yn dod â miloedd o bobl ynghyd sydd â'r un nod – cadw De Cymru yn ddiogel.

Rydym am sicrhau mai ni yw'r gorau am ddeall ac ymateb i anghenion ein cymunedau. I wneud hyn, mae angen i'r ymgeiswyr gorau posibl o amrywiaeth eang o gefndiroedd ymuno â'n teulu plismona.

Mae Interniaeth Heddlu De Cymru yn rhoi'r cyfle i chi brofi eich gwybodaeth academaidd mewn lleoliad ymarferol a phroffesiynol lle byddwch yn cael profiad gwaith a hyfforddiant gwerthfawr. Gallwch fod yn hyderus y cewch gymorth tîm arbenigol drwy'ch interniaeth a fydd yn eich annog i gyflawni eich potensial.

Bydd bod yn rhan o #TîmHDC yn cynnig profiad dysgu unigryw i chi lle byddwch yn cyfrannu at brosiectau bywyd go iawn mewn amgylchedd cymhleth ac amrywiol. Rydym yn gwerthfawrogi unigoliaeth ac yn annog syniadau newydd a chreadigrwydd a fydd yn cyfrannu at ein llwyddiant fel heddlu ac yn gwneud gwahaniaeth i gymdeithas.

Mae gennym gyfle cyffrous i Weinyddwr Gwasanaethau a Digwyddiadau Corfforaethol ymuno â ni am gyfnod o 12 mis, lle y byddwch yn darparu gwasanaeth cymorth gweinyddol i'r adran Gwasanaethau Corfforaethol, gan ddarparu cefnogaeth sefydliadol a gweinyddol i bortffolio digwyddiadau'r heddlu.

Bydd yr interniaeth yn dechrau fis Medi 2023 ac er mwyn bod yn gymwys, bydd angen i chi fod wrthi'n astudio ar gyfer gradd mewn pwnc perthnasol, neu wedi raddio o fewn y 3 mlynedd diwethaf, a all gynnwys Rheoli Prosiect neu Ddigwyddiadau, Marchnata neu Gyfathrebu. Bydd gennych sgiliau cyfathrebu rhagorol a phrofiad mewn rheoli prosiect a'r gallu i ddefnyddio pob pecyn Microsoft a TG.

Mae sawl mantais i weithio i Heddlu De Cymru, o gyfleoedd dysgu a datblygu i gynlluniau sydd â'r nod o wella eich ffordd o fyw a'ch llesiant, yn ogystal â Chynllun Pensiwn Llywodraeth Leol/Cynlluniau Pensiwn yr Heddlu sy'n hael iawn, gwyliau blynyddol â thâl, gweithio hyblyg a pholisïau sy'n ystyriol o deuluoedd a llawer mwy, cliciwch yma i gael rhagor o wybodaeth.

Cyfweliadau am y bost yma yn disgwyl ei fod yn Ionawr 2023

Peidiwch â cholli'r cyfle gwych hwn, gwnewch gais heddiw ac ymunwch â #TîmHDC

 

Cliciwch yma i gael gwybodaeth am sut i gwblhau ein proses ymgeisio ar-lein'

Ni ellir gwneud cais am y cyfle hwn.