Intern Gwybodaeth Technolegol
08/01/23 15:00
Hoffech chi gael gyrfa heb ei hail? Os felly... YmunwchâNi
Mae Heddlu De Cymru yn dod â miloedd o bobl at ei gilydd sy'n rhannu'r un nod – cadw De Cymru'n ddiogel.
Rydym am sicrhau mai ni yw'r gorau am ddeall ac ymateb i anghenion ein cymunedau. I wneud hyn, mae angen i'r ymgeiswyr gorau posibl o amrywiaeth eang o gefndiroedd ymuno â'n teulu plismona.
Mae Interniaeth Heddlu De Cymru yn rhoi'r cyfle i chi brofi eich gwybodaeth academaidd mewn lleoliad ymarferol a phroffesiynol lle byddwch yn cael profiad gwaith a hyfforddiant gwerthfawr. Gallwch fod yn hyderus y cewch gymorth tîm arbenigol drwy'ch interniaeth a fydd yn eich annog gyflawni eich potensial.
Bydd bod yn rhan o #TîmHDC yn cynnig profiad dysgu unigryw i chi lle byddwch yn cyfrannu at brosiectau bywyd go iawn mewn amgylchedd cymhleth ac amrywiol. Rydym yn gwerthfawrogi unigoliaeth ac yn annog syniadau newydd a chreadigrwydd a fydd yn cyfrannu at ein llwyddiant fel heddlu ac yn gwneud gwahaniaeth i gymdeithas.
Rydym yn chwilio am unigolyn brwdfrydig a llawn cymhelliant i weithio yn yr Adran Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu i gefnogi nifer mawr o ddefnyddwyr, cwsmeriaid, cleientiaid a chyflenwyr, drwy ddarparu gweithrediadau technegol ar bob lefel o Seilwaith Menter ar Raddfa Fawr a Llwyfannau sy'n ategu parhad busnes ar gyfer gwasanaethau brys critigol 24/7, gyda chyfrifoldeb am ddarparu Gwasanaethau TG drwy fethodoleg a fframweithiau safonol
Bydd yr interniaeth yn dechrau fis Medi 2023 ac er mwyn bod yn gymwys bydd angen i chi fod wrthi'n astudio ar gyfer gradd mewn TG/Rheoli Busnes/Rheoli Prosiect neu gyfatebol ac yn chwilio i ehangu eich gwybodaeth yn y maes hwn. Neu wedi raddio o fewn y 3 mlynedd diwethaf
Mae buddiannau niferus i weithio i Heddlu De Cymru, o gyfleoedd dysgu a datblygu i gynlluniau sy'n anelu at wella eich ffordd o fyw a'ch llesiant, yn ogystal â Chynllun Pensiwn Llywodraeth Leol / Cynlluniau Pensiwn yr Heddlu hael, gwyliau blynyddol â thâl, gweithio hyblyg a pholisïau cyfeillgar i deuluoedd a llawer mwy, cliciwch yma i gael rhagor o wybodaeth.
Cyfweliadau am y bost yma yn disgwyl ei fod yn Ionawr 2023
Peidiwch â cholli'r cyfle gwych hwn, gwnewch gais heddiw ac ymunwch â #TîmHDC
Ni ellir gwneud cais am y cyfle hwn.