Intern Adnoddau Dynol Iechyd a Diogelwch

Heddlu De Cymru
Staff Heddlu
Adnoddau Dynol
K Adnoddau Dynol
Pen-y-bont ar Ogwr
SC3
£20,118
Llawn Amser
37
Tymor Sefydlog
12
2

08/01/23 15:00

Hoffech chi gael gyrfa heb ei hail? Os felly... YmunwchâNi

Mae Heddlu De Cymru yn dod â miloedd o bobl at ei gilydd sy'n rhannu'r un nod – cadw De Cymru'n ddiogel.

Rydym am sicrhau mai ni yw'r gorau am ddeall ac ymateb i anghenion ein cymunedau. I wneud hyn, mae angen i'r ymgeiswyr gorau posibl o amrywiaeth eang o gefndiroedd ymuno â'n teulu plismona.

Mae Interniaeth Heddlu De Cymru yn rhoi'r cyfle i chi brofi eich gwybodaeth academaidd mewn lleoliad ymarferol a phroffesiynol lle byddwch yn cael profiad gwaith a hyfforddiant gwerthfawr. Gallwch fod yn hyderus y cewch gymorth tîm arbenigol drwy'ch interniaeth a fydd yn eich annog i gyflawni eich potensial.

Bydd bod yn rhan o #TîmHDC yn cynnig profiad dysgu unigryw i chi lle byddwch yn cyfrannu at brosiectau bywyd go iawn mewn amgylchedd cymhleth ac amrywiol. Rydym yn gwerthfawrogi unigoliaeth ac yn annog syniadau newydd a chreadigrwydd a fydd yn cyfrannu at ein llwyddiant fel heddlu ac yn gwneud gwahaniaeth i gymdeithas.

Rydym yn cynnig cyfle cyffrous i Intern ymuno â'n Tîm Iechyd Galwedigaethol, Diogelwch a Llesiant am gyfnod o 12 mis lle y byddwch yn darparu cyfuniad o gymorth busnes a chymorth dadansoddol i'r tîm. Byddwch yn cyfrannu at ddarnau allweddol o waith, gan gynnwys prosiectau Diogelwch y Gweithlu ar ymosodiadau ar swyddogion a staff, gwelliannau i'r system adrodd electronig, datblygu data diogelwch perfformiad allweddol ac adolygiadau o ddiogelwch sefydliadol.

Bydd cyfle i chi gael profiad gwerthfawr a datblygu eich gwybodaeth am ddiogelwch, gan weithio ar brosiectau sy'n ymwneud â diogelwch mewn plismona a chyfrannu at y gwaith o ymchwilio i ddigwyddiadau ac ymosodiadau.


Bydd yr interniaeth yn dechrau ym mis Medi 2023 ac er mwyn bod yn gymwys byddwch wrthi'n astudio ar gyfer gradd Iechyd Galwedigaethol a Diogelwch neu gymhwyster cyfatebol, Neu wedi raddio o fewn y 3 mlynedd diwethaf

 

Rydych yn meddu ar sgiliau cyfathrebu rhagorol ac yn dangos lefel uchel o allu cyfrifiadurol o ran prosesu geiriau, meddalwedd taenlenni a chronfeydd data, gan gynnwys y gwaith cymhleth o drin data ac yn gallu rhoi syniadau cysyniadol ar waith yn effeithiol.

Byddwch yn gallu delio â materion sensitif a chyfrinachol a gorfodi diogelwch data a llunio adroddiadau cynhwysfawr, rhesymegol a strwythuredig o ansawdd uchel.

 

Mae buddiannau niferus i weithio i Heddlu De Cymru, o gyfleoedd dysgu a datblygu i gynlluniau sy'n anelu at wella eich ffordd o fyw a'ch llesiant, yn ogystal â Chynllun Pensiwn Llywodraeth Leol / Cynlluniau Pensiwn yr Heddlu hael, gwyliau blynyddol â thâl, gweithio hyblyg a pholisïau cyfeillgar i deuluoedd a llawer mwy, cliciwch yma i gael rhagor o wybodaeth.

Cyfweliadau am y bost yma yn disgwyl ei fod yn Ionawr 2023   

Peidiwch â cholli'r cyfle gwych hwn, gwnewch gais heddiw ac ymunwch â #TîmHDC

 

Cliciwch yma i gael gwybodaeth am sut i gwblhau ein proses ymgeisio ar-lein'

Ni ellir gwneud cais am y cyfle hwn.