Intern dadansoddwr partneriaeth a gwarchod diogelu
08/01/23 15:00
Hoffech chi gael gyrfa heb ei hail? Os felly... YmunwchâNi
Mae Heddlu De Cymru yn dod â miloedd o bobl at ei gilydd sy'n rhannu'r un nod – cadw De Cymru'n ddiogel.
Rydym am sicrhau mai ni yw'r gorau am ddeall ac ymateb i anghenion ein cymunedau. I wneud hyn, mae angen i'r ymgeiswyr gorau posibl o amrywiaeth eang o gefndiroedd ymuno â'n teulu plismona.
Mae Interniaeth Heddlu De Cymru yn rhoi'r cyfle i chi brofi eich gwybodaeth academaidd mewn lleoliad ymarferol a phroffesiynol lle byddwch yn cael profiad gwaith a hyfforddiant gwerthfawr. Gallwch fod yn hyderus y cewch gymorth tîm arbenigol drwy'ch interniaeth a fydd yn eich annog i gyflawni eich potensial.
Bydd bod yn rhan o #TîmHDC yn cynnig profiad dysgu unigryw i chi lle byddwch yn cyfrannu at brosiectau bywyd go iawn mewn amgylchedd cymhleth ac amrywiol. Rydym yn gwerthfawrogi unigoliaeth ac yn annog syniadau newydd a chreadigrwydd a fydd yn cyfrannu at ein llwyddiant fel heddlu ac yn gwneud gwahaniaeth i gymdeithas.
Mae gennym gyfle cyffrous i Intern Dadansoddi ymuno â'n Hadran Partneriaeth Diogelwch Cymunedol i weithio ar amrywiaeth o ddata perfformio a galw heddlu a phartneriaid.
Byddwch yn gyfrifol am gasglu a dadansoddi ystod eang o ddata'r heddlu a phartneriaethau a gaiff eu defnyddio er mwyn targedu cynlluniau datrys problemau yn well drwy'r timau plismona yn y gymuned, llywio ceisiadau am gyllid gan y Llywodraeth a gwella ein hymateb i bryderon diogelu.
Bydd y cyfle unigryw hwn yn rhoi'r profiadau gwerthfawr i chi o gasglu, adolygu a dehongli amrywiaeth o wybodaeth er mwyn disgrifio pam mae sefyllfa wedi codi neu pam y gallai godi
Bydd yr interniaeth yn dechrau fis Medi 2023 ac er mwyn bod yn gymwys bydd angen i chi fod wrthi'n astudio ar gyfer gradd mewn pwnc perthnasol, neu wedi raddio o fewn y 3 mlynedd diwethaf, ym maes ymchwil ansoddol a meintiol a dadansoddi ystadegau, Byddwch yn meddu ar sgiliau cyfrifiadurol ac yn fedrus wrth ddefnyddio rhaglenni Microsoft gan ddangos lefel uchel o allu cyfrifiadurol o ran prosesu geiriau, meddalwedd taenlen a chronfa ddata, gan gynnwys y gwaith cymhleth o drin data
Mae buddiannau niferus i weithio i Heddlu De Cymru, o gyfleoedd dysgu a datblygu i gynlluniau sy'n anelu at wella eich ffordd o fyw a'ch llesiant, yn ogystal â Chynllun Pensiwn Llywodraeth Leol / Cynlluniau Pensiwn yr Heddlu hael, gwyliau blynyddol â thâl, gweithio hyblyg a pholisïau cyfeillgar i deuluoedd a llawer mwy, cliciwch yma i gael rhagor o wybodaeth.
Cyfweliadau am y bost yma yn disgwyl ei fod yn Ionawr 2023
Peidiwch â cholli'r cyfle gwych hwn, gwnewch gais heddiw ac ymunwch â #TîmHDC
Ni ellir gwneud cais am y cyfle hwn.