Intern Datblygydd Gwasanaeth Digidol

Heddlu De Cymru
Staff Heddlu
Isdran Gwasanaethau Digidol
Isadran Gwasanaethau Digidol
Pen-y-bont ar Ogwr
SC3
£20,118
Llawn Amser
37
Tymor Sefydlog
12
2

08/01/23 15:00

Hoffech chi gael gyrfa heb ei hail? Os felly... YmunwchâNi

Mae Heddlu De Cymru yn dod â miloedd o bobl at ei gilydd sy'n rhannu'r un nod – cadw De Cymru'n ddiogel.

Rydym am sicrhau mai ni yw'r gorau am ddeall ac ymateb i anghenion ein cymunedau. I wneud hyn, mae angen i'r ymgeiswyr gorau posibl o amrywiaeth eang o gefndiroedd ymuno â'n teulu plismona.

Mae Interniaeth Heddlu De Cymru yn rhoi'r cyfle i chi brofi eich gwybodaeth academaidd mewn lleoliad ymarferol a phroffesiynol lle byddwch yn cael profiad gwaith a hyfforddiant gwerthfawr. Gallwch fod yn hyderus y cewch gymorth tîm arbenigol drwy'ch interniaeth a fydd yn eich annog i gyflawni eich potensial.

Bydd bod yn rhan o #TîmHDC yn cynnig profiad dysgu unigryw i chi lle byddwch yn cyfrannu at brosiectau bywyd go iawn mewn amgylchedd cymhleth ac amrywiol. Rydym yn gwerthfawrogi unigoliaeth ac yn annog syniadau newydd a chreadigrwydd a fydd yn cyfrannu at ein llwyddiant fel heddlu ac yn gwneud gwahaniaeth i gymdeithas.

Mae cyfle cyffrous wedi codi ar gyfer Intern Datblygu i weithio yn ein tîm Ymchwil a Datblygu mewnol, a chewch gyfle i chi fod yn rhan o bob agwedd ar Gylch Oes Datblygu Meddalwedd ar gyfer cyfres o heriau y mae heddlu De Cymru a heddlu Gwent yn eu hwynebu yn y byd go iawn.

Gallwch ddisgwyl cael cyfle i weithio gyda chwsmeriaid mewnol a rhanddeiliaid ar ddylunio manylebau, ysgrifennu a phrofi cod, datblygu apiau ar gyfer y we ac ar gyfer ffonau symudol i'w defnyddio'n fewnol ac i'r cyhoedd eu defnyddio, cefnogi'r broses o reoli gwaith a deall yr hyn sy'n rhan o weithio yn y tîm a'i reoli.

Bydd yr interniaeth yn dechrau ym mis Medi 2023 ac i fod yn gymwys dylech fod yn gweithio tuag at radd mewn Technoleg Gwybodaeth neu gymhwyster cyfatebol, ac yn bwriadu cymryd blwyddyn allan o'ch astudiaethau am gyfnod o 12 mis, neu wedi raddio o fewn y 3 mlynedd diwethaf

Mae buddiannau niferus i weithio i Heddlu De Cymru, o gyfleoedd dysgu a datblygu i gynlluniau sy'n anelu at wella eich ffordd o fyw a'ch llesiant, yn ogystal â Chynllun Pensiwn Llywodraeth Leol / Cynlluniau Pensiwn yr Heddlu hael, gwyliau blynyddol â thâl, gweithio hyblyg a pholisïau cyfeillgar i deuluoedd a llawer mwy, cliciwch yma i gael rhagor o wybodaeth.

Cyfweliadau am y bost yma yn disgwyl ei fod yn Ionawr 2023   

Peidiwch â cholli'r cyfle gwych hwn, gwnewch gais heddiw ac ymunwch â #TîmHDC

 

Cliciwch yma i gael gwybodaeth am sut i gwblhau ein proses ymgeisio ar-lein'

Ni ellir gwneud cais am y cyfle hwn.