Intern Swyddfa y Grwner
08/01/23 15:00
Hoffech chi gael gyrfa heb ei hail? Os felly... YmunwchANi
Mae Heddlu De Cymru yn dod â miloedd o bobl at ei gilydd sy'n rhannu'r un nod – cadw De Cymru'n ddiogel.
Rydym am sicrhau mai ni yw'r gorau am ddeall ac ymateb i anghenion ein cymunedau. I wneud hyn, mae angen i'r ymgeiswyr gorau posibl o amrywiaeth eang o gefndiroedd ymuno â'n teulu plismona.
Mae Interniaeth Heddlu De Cymru yn rhoi cyfle i chi brofi eich gwybodaeth academaidd mewn lleoliad ymarferol a phroffesiynol lle byddwch yn cael profiad gwaith a hyfforddiant gwerthfawr. Gallwch fod yn hyderus, drwy gydol eich interniaeth, y cewch eich cefnogi gan dîm arbenigol a fydd yn eich annog i gyflawni eich potensial.
Bydd dod yn rhan o #TîmHDC yn cynnig profiad dysgu unigryw i chi lle byddwch yn cyfrannu at brosiectau go iawn mewn amgylchedd cymhleth ac amrywiol. Rydym yn gwerthfawrogi unigoliaeth ac yn annog syniadau newydd a chreadigrwydd a fydd yn cyfrannu at ein llwyddiant fel heddlu ac yn gwneud gwahaniaeth i gymdeithas.
Mae gennym gyfle cyffrous ar gyfer Intern Cymorth Crwner i ymuno â'n Hadran Gwasanaethau Cyfiawnder am gyfnod o 12 mis lle byddwch yn darparu cymorth i'r Swyddogion Crwner drwy fonitro a chydgysylltu tasgau a blaenoriaethau a ddyrennir rhwng adnoddau'r Crwner ac asiantaethau partner. Byddwch yn helpu Crwner EF drwy roi eu dyletswyddau amddiffyn cyfreithiol a chyhoeddus ar waith a darparu cymorth o fewn y llys
Bydd yr interniaeth yn dechrau fis Medi 2023 ac er mwyn bod yn gymwys bydd angen i chi fod wrthi'n astudio ar gyfer gradd mewn pwnc perthnasol, neu wedi raddio o fewn y 3 mlynedd diwethaf, a all gynnwys Plismona, y Gyfraith neu Droseddeg. Bydd gennych sgiliau cyfathrebu rhagorol a phrofiad mewn gwasanaeth cwsmeriaid a'r gallu i ddefnyddio pob pecyn Microsoft a TGCh.
Mae buddiannau niferus i weithio i Heddlu De Cymru, o gyfleoedd dysgu a datblygu i gynlluniau sy'n anelu at wella eich ffordd o fyw a'ch llesiant, yn ogystal â Chynllun Pensiwn Llywodraeth Leol / Cynlluniau Pensiwn yr Heddlu hael, gwyliau blynyddol â thâl, gweithio hyblyg a pholisïau cyfeillgar i deuluoedd a llawer mwy, cliciwch yma i gael rhagor o wybodaeth.
Cyfweliadau am y bost yma yn disgwyl ei fod yn Ionawr 2023
Peidiwch â cholli'r cyfle gwych hwn, gwnewch gais heddiw ac ymunwch â #TîmHDC
Ni ellir gwneud cais am y cyfle hwn.