Intern Aswiriannau Eiddo
10/02/23 15:00
Hoffech chi gael gyrfa heb ei hail? Os felly... YmunwchâNi
Mae Heddlu De Cymru yn dod â miloedd o bobl at ei gilydd sy'n rhannu'r un nod – cadw De Cymru'n ddiogel.
Rydym am sicrhau mai ni yw'r gorau am ddeall ac ymateb i anghenion ein cymunedau. I wneud hyn, mae angen i'r ymgeiswyr gorau posibl o amrywiaeth eang o gefndiroedd ymuno â'n teulu plismona.
Mae Interniaeth Heddlu De Cymru yn rhoi'r cyfle i chi brofi eich gwybodaeth academaidd mewn lleoliad ymarferol a phroffesiynol lle byddwch yn cael profiad gwaith a hyfforddiant gwerthfawr. Gallwch fod yn hyderus y cewch gymorth tîm arbenigol drwy'ch interniaeth a fydd yn eich annog i gyflawni eich potensial.
Bydd bod yn rhan o #TîmHDC yn cynnig profiad dysgu unigryw i chi lle byddwch yn cyfrannu at brosiectau bywyd go iawn mewn amgylchedd cymhleth ac amrywiol. Rydym yn gwerthfawrogi unigoliaeth ac yn annog syniadau newydd a chreadigrwydd a fydd yn cyfrannu at ein llwyddiant fel heddlu ac yn gwneud gwahaniaeth i gymdeithas.
Rydym yn cynnig cyfle cyffrous i Intern ymuno â'n Tîm Rheoli Sicrwydd Eiddo am gyfnod o 12 mis lle y byddwch yn darparu cymorth mewn perthynas ag adolygu prosesau system Rheoli Eiddo a'r archwiliad o system o'r fath er mwyn sicrhau ei bod yn effeithlon ac yn effeithiol. Byddwch eich dyletswyddau yn cynnwys helpu gydag amrywiaeth lawn o gyfrifoldebau sy'n ymwneud â rheoli ac archwilio prosiectau, gan gynnwys gweithredu, cynllunio, dadansoddi polisi, archwilio ac arolygu, a datblygu fframwaith perfformiad.
Byddwch yn cyfrannu at ymchwilio i faterion gan gynnig argymhellion i wella prosesau er mwyn goresgyn y rhain.
Bydd yr interniaeth yn dechrau ym mis Medi 2023 ac er mwyn bod yn gymwys byddwch wrthi'n astudio ar gyfer gradd mewn disgyblaeth berthnasol ym maes Archwilio neu Reoli Prosiect, Neu wedi raddio o fewn y 3 mlynedd diwethaf
Mae buddiannau niferus i weithio i Heddlu De Cymru, o gyfleoedd dysgu a datblygu i gynlluniau sy'n anelu at wella eich ffordd o fyw a'ch llesiant, yn ogystal â Chynllun Pensiwn Llywodraeth Leol / Cynlluniau Pensiwn yr Heddlu hael, gwyliau blynyddol â thâl, gweithio hyblyg a pholisïau cyfeillgar i deuluoedd a llawer mwy, cliciwch yma i gael rhagor o wybodaeth.
Cyfweliadau am y bost yma yn disgwyl ei fod yn Ionawr 2023
Peidiwch â cholli'r cyfle gwych hwn, gwnewch gais heddiw ac ymunwch â #TîmHDC
Ni ellir gwneud cais am y cyfle hwn.