Intern Gwasanaethau Cyfiawnder-Canolbwyntio ar Dioddefwyr

Heddlu De Cymru
Staff Heddlu
Porthcawl
SC3
£20,118
Llawn Amser
37
Tymor Sefydlog
12
2

08/01/23 15:00

 

 

Hoffech chi gael gyrfa heb ei hail? Os felly... YmunwchâNi

 

Mae Heddlu De Cymru yn dod â miloedd o bobl at ei gilydd sy'n rhannu'r un nod – cadw De Cymru'n ddiogel.

 

Rydym am sicrhau mai ni yw'r gorau am ddeall ac ymateb i anghenion ein cymunedau. I wneud hyn, mae angen i'r ymgeiswyr gorau posibl o amrywiaeth eang o gefndiroedd ymuno â'n teulu plismona.

Mae Interniaeth Heddlu De Cymru yn rhoi'r cyfle i chi brofi eich gwybodaeth academaidd mewn lleoliad ymarferol a phroffesiynol lle byddwch yn cael profiad gwaith a hyfforddiant gwerthfawr. Gallwch fod yn hyderus y cewch gymorth tîm arbenigol drwy'ch interniaeth a fydd yn eich annog i gyflawni eich potensial.

 

Bydd bod yn rhan o #TîmHDC yn cynnig profiad dysgu unigryw i chi lle byddwch yn cyfrannu at brosiectau bywyd go iawn mewn amgylchedd cymhleth ac amrywiol. Rydym yn gwerthfawrogi unigoliaeth ac yn annog syniadau newydd a chreadigrwydd a fydd yn cyfrannu at ein llwyddiant fel heddlu ac yn gwneud gwahaniaeth i gymdeithas.

 

Mae gennym gyfle cyffrous ar gyfer intern i ymuno â'n prosiect Canolbwyntio ar Ddioddefwyr am gyfnod o 12 mis lle byddwch yn darparu cymorth gweinyddol o ddydd i ddydd, cymorth prosiect a dyletswyddau ymchwil sy'n canolbwyntio ar gymorth a chysylltu â dioddefwyr.

 

Mae'r cyfle unigryw hwn yn rhoi profiad gwerthfawr i chi gyfrannu at amcanion allweddol o fewn cynllun darparu'r Prif Gwnstabliaid, drwy gydweithio i adnabod gwelliant parhaus a fydd yn gwella cyswllt a chymorth dioddefwyr.


Bydd yr interniaeth yn dechrau fis Medi 2023 ac er mwyn bod yn gymwys bydd angen i chi fod wrthi'n astudio ar gyfer gradd mewn  Rheoli Busnes, Seicoleg, Troseddeg, Neu wedi raddio o fewn y 3 mlynedd diwethaf

. Mae'n rhaid i chi feddu ar sgiliau TGCh rhagorol a'r gallu i lunio adroddiadau cynhwysfawr, rhesymegol a strwythuredig o ansawdd uchel. Bydd angen i chi allu delio â materion sensitif a chyfrinachol a gorfodi diogelwch data.

 

Mae buddiannau niferus i weithio i Heddlu De Cymru, o gyfleoedd dysgu a datblygu i gynlluniau sy'n anelu at wella eich ffordd o fyw a'ch llesiant, yn ogystal â Chynllun Pensiwn Llywodraeth Leol / Cynlluniau Pensiwn yr Heddlu hael, gwyliau blynyddol â thâl, gweithio hyblyg a pholisïau cyfeillgar i deuluoedd a llawer mwy, cliciwch yma i gael rhagor o wybodaeth.

Cyfweliadau am y bost yma yn disgwyl ei fod yn Ionawr 2023   

Peidiwch â cholli'r cyfle gwych hwn, gwnewch gais heddiw ac ymunwch â #TîmHDC

 

 

Cliciwch yma i gael gwybodaeth am sut i gwblhau ein proses ymgeisio ar-lein'

Ni ellir gwneud cais am y cyfle hwn.