Intern Dadansoddwr Cudd-Wybodaeth a Dadansoddeg Data

Heddlu De Cymru
Staff Heddlu
Pen-y-bont ar Ogwr
SC3
£20,118
Llawn Amser
37
Tymor Sefydlog
12
2

08/01/23 15:00

Hoffech chi gael gyrfa heb ei hail? Os felly... YmunwchANi

Mae Heddlu De Cymru yn dod â miloedd o bobl at ei gilydd sy'n rhannu'r un nod – cadw De Cymru'n ddiogel.

Rydym am sicrhau mai ni yw'r gorau am ddeall ac ymateb i anghenion ein cymunedau. I wneud hyn, mae angen i'r ymgeiswyr gorau posibl o amrywiaeth eang o gefndiroedd ymuno â'n teulu plismona.

Mae Interniaeth Heddlu De Cymru yn rhoi cyfle i chi brofi eich gwybodaeth academaidd mewn lleoliad ymarferol a phroffesiynol lle byddwch yn cael profiad gwaith a hyfforddiant gwerthfawr. Gallwch fod yn hyderus, drwy gydol eich interniaeth, y cewch eich cefnogi gan dîm arbenigol a fydd yn eich annog i gyflawni eich potensial.

Bydd dod yn rhan o #TîmHDC yn cynnig profiad dysgu unigryw i chi lle byddwch yn cyfrannu at brosiectau go iawn mewn amgylchedd cymhleth ac amrywiol. Rydym yn gwerthfawrogi unigoliaeth ac yn annog syniadau newydd a chreadigrwydd a fydd yn cyfrannu at ein llwyddiant fel heddlu ac yn gwneud gwahaniaeth i gymdeithas.

Mae gennym gyfle cyffrous ar gyfer Intern Dadansoddi Gwybodaeth a Data i ymuno â ni am 12 mis lle byddwch yn cefnogi anghenion dadansoddol llawer o adrannau gweithredol ac ymchwilio gan gynnwys Troseddau Mawr, Uned Troseddau Cyfundrefnol a Diogelu'r Cyhoedd.

Byddwch yn rhan o sawl prosiect i gynorthwyyo'r tîm Dadansoddi Gwybodaeth ac Ymchwilio i ddarparu ei holl amcanion. Bydd y rhain yn cynnwys:

  • Datblygu prosesau a wneir yn awtomataidd i gasglu cudd-wybodaeth a gwybodaeth o HOLMES (system rheoli lladdiadau) i system troseddau a chudd-wybodaeth yr heddlu, sy'n fwy hygyrch a chwiliadwy.

 

  • Datblygu offer casglu, glanhau a chysylltu er mwyn helpu i gyfuno data o systemau partneriaid i un casgliad cydlynol o ddata.

 

  • Datblygu offer ac algorithmau cloddio data i gynyddu'r dasg o groesgyfeirio data cyfathrebu o ddyfeisiau amrywiol ar draws ystod eang o ymchwiliadau er mwyn helpu i adnabod cysylltiadau a llwybrau ymholi newydd.

 

Bydd yr interniaeth yn cychwyn fis Medi 2023 ac er mwyn bod yn gymwys mae'n rhaid i chi fod yn gweithio tuag at radd mewn pwnc perthnasol, er enghraifft, Mathemateg, Peirianneg, Data Gwyddoniaeth, Cyfrifiadureg, Technegol, Ymchwil a Dadansoddi ac rydym yn awyddus i ehangu eich gwybodaeth yn y maes hwn, Neu wedi raddio o fewn y 3 mlynedd diwethaf . Er mwyn ymgymryd â'r rôl hon mae'n rhaid i chi fod yn barod i gael eich fetio hyd at lefel SC/MV.

Mae buddiannau niferus i weithio i Heddlu De Cymru, o gyfleoedd dysgu a datblygu i gynlluniau sy'n anelu at wella eich ffordd o fyw a'ch llesiant, yn ogystal â Chynllun Pensiwn Llywodraeth Leol / Cynlluniau Pensiwn yr Heddlu hael, gwyliau blynyddol â thâl, gweithio hyblyg a pholisïau cyfeillgar i deuluoedd a llawer mwy, cliciwch yma  i gael rhagor o wybodaeth.

Cyfweliadau am y bost yma yn disgwyl ei fod yn Ionawr 2023  

Peidiwch â cholli'r cyfle gwych hwn, gwnewch gais heddiw ac ymunwch â #TîmHDC

 

Cliciwch yma i gael gwybodaeth am sut i gwblhau ein proses ymgeisio ar-lein'

Ni ellir gwneud cais am y cyfle hwn.