Intern Cudd-wybodaeth a Thasgu

Heddlu De Cymru
Staff Heddlu
Gweithrediadau Arbenigol
Pen-y-bont ar Ogwr
SC3
£20,118
Llawn Amser
37
Tymor Sefydlog
12
2

21/04/23 15:00

Hoffech chi gael gyrfa heb ei hail? Os felly... YmunwchANi

Mae Heddlu De Cymru yn dod â miloedd o bobl at ei gilydd sy'n rhannu'r un nod – cadw De Cymru'n ddiogel.

Rydym am sicrhau mai ni yw'r gorau am ddeall ac ymateb i anghenion ein cymunedau. I wneud hyn, mae angen i'r ymgeiswyr gorau posibl o amrywiaeth eang o gefndiroedd ymuno â'n teulu plismona.

Mae Interniaeth Heddlu De Cymru yn rhoi cyfle i chi brofi eich gwybodaeth academaidd mewn lleoliad ymarferol a phroffesiynol lle byddwch yn cael profiad gwaith a hyfforddiant gwerthfawr. Gallwch fod yn hyderus, drwy gydol eich interniaeth, y cewch eich cefnogi gan dîm arbenigol a fydd yn eich annog i gyflawni eich potensial.

Bydd bod yn rhan o #TîmHDC yn cynnig profiad dysgu unigryw i chi lle byddwch yn cyfrannu at brosiectau bywyd go iawn mewn amgylchedd cymhleth ac amrywiol. Rydym yn gwerthfawrogi unigoliaeth ac yn annog syniadau newydd a chreadigrwydd a fydd yn cyfrannu at ein llwyddiant fel heddlu ac yn gwneud gwahaniaeth i gymdeithas.

Mae gennym gyfle cyffrous ar gyfer Intern Cudd-wybodaeth a Gorchwyl i ymuno â ni am 12 mis lle byddwch yn cynorthwyo a chefnogi'r broses o integreiddio Microsoft 365 yn orchwyl weithredol, lle byddwch yn defnyddio dadansoddeg data, ac offer cudd-wybodaeth er mwyn cefnogi penderfyniadau busnes.

Bydd yr interniaeth yn dechrau ym mis Medi 2023 ac er mwyn bod yn gymwys mae'n rhaid i chi fod yn gweithio tuag at radd mewn pwnc, er enghraifft, Mathemateg, Peirianneg, Data Gwyddoniaeth, Cyfrifiadureg, Neu wedi raddio o fewn y 3 mlynedd diwethaf.

Byddwch yn hyddysg mewn cyfrifiadura ac yn gallu defnyddio rhaglenni Microsoft, gyda gwybodaeth am Microsoft 365 mewn amgylchedd busnes, yn benodol Microsoft Teams a Microsoft Lists, ac mae gwybodaeth am Microsoft Power BI yn fanteisiol. Bydd eich sgiliau cyfathrebu ardderchog yn cau'r bwlch rhwng iaith dechnegol ac iaith fusnes, gan sicrhau y rhennir dealltwriaeth.

 

Mae buddiannau niferus i weithio i Heddlu De Cymru, o gyfleoedd dysgu a datblygu i gynlluniau sy'n anelu at wella eich ffordd o fyw a'ch llesiant, yn ogystal â Chynllun Pensiwn Llywodraeth Leol / Cynlluniau Pensiwn yr Heddlu hael, gwyliau blynyddol â thâl, gweithio hyblyg a pholisïau cyfeillgar i deuluoedd a llawer mwy, cliciwch yma  i gael rhagor o wybodaeth.

 Cyfweliadau am y bost yma yn disgwyl ei fod yn Ionawr 2023

Peidiwch â cholli'r cyfle gwych hwn, gwnewch gais heddiw ac ymunwch â #TîmHDC

 

Cliciwch yma i gael gwybodaeth am sut i gwblhau ein proses ymgeisio ar-lein'

Ni ellir gwneud cais am y cyfle hwn.