Intern Dysgu Technoleg Gwella

Heddlu De Cymru
Staff Heddlu
Gwasanaethau Dysgu a Datblygu
Pen-y-bont ar Ogwr
SC3
£20,118
Llawn Amser
37
Tymor Sefydlog
12
2

15/02/23 16:00

Hoffech chi gael gyrfa heb ei hail? Os felly... YmunwchâNi

Mae Heddlu De Cymru yn dod â miloedd o bobl at ei gilydd sy'n rhannu'r un nod – cadw De Cymru'n ddiogel.

Rydym am sicrhau mai ni yw'r gorau am ddeall ac ymateb i anghenion ein cymunedau. I wneud hyn, mae angen i'r ymgeiswyr gorau posibl o amrywiaeth eang o gefndiroedd ymuno â'n teulu plismona.

Mae Interniaeth Heddlu De Cymru yn rhoi'r cyfle i chi brofi eich gwybodaeth academaidd mewn lleoliad ymarferol a phroffesiynol lle byddwch yn cael profiad gwaith a hyfforddiant gwerthfawr. Gallwch fod yn hyderus y cewch gymorth tîm arbenigol drwy'ch interniaeth a fydd yn eich annog i gyflawni eich potensial.

Bydd bod yn rhan o #TîmHDC yn cynnig profiad dysgu unigryw i chi lle byddwch yn cyfrannu at brosiectau bywyd go iawn mewn amgylchedd cymhleth ac amrywiol. Rydym yn gwerthfawrogi unigoliaeth ac yn annog syniadau newydd a chreadigrwydd a fydd yn cyfrannu at ein llwyddiant fel heddlu ac yn gwneud gwahaniaeth i gymdeithas.

Mae gennym gyfle cyffrous i Intern ymuno â'n Hadran Dysgu a Datblygu fel Intern Cyfoethogi Dysgu Drwy Dechnoleg am gyfnod o 12 mis, lle y byddwch yn dylunio, yn adeiladu ac yn cefnogi prosiectau dysgu ar-lein, gan gynnwys e-ddysgu, fideo, podlediadau a defnyddio fideo 360-gradd.

Yn ystod eich interniaeth, byddwch yn dysgu sgiliau Datblygwr Cyfoethogi Dysgu Drwy Dechnoleg, gan gefnogi pob agwedd ar Gylch Bywyd Datblygu E-ddysgu, dynwaredwr digwyddiadau critigol Hydra a sganio gorwelion ar gyfer cyfleoedd newydd.

Bydd yr interniaeth yn dechrau ym mis Medi 2023 ac er mwyn bod yn gymwys byddwch wrthi'n astudio ar gyfer gradd mewn Cyfoethogi Dysgu Drwy Dechnoleg neu gwrs TGCh, Neu wedi raddio o fewn y 3 mlynedd diwethaf. Mae'n rhaid i chi feddu ar sgiliau TG rhagorol a gwybodaeth am adnoddau datblygu a dylunio e-ddysgu. Byddwch yn deall dulliau cyfoethogi dysgu drwy dechnoleg ac addasu clipiau fideo gan ddefnyddio Final Cut Pro neu Adobe Premiere.

Mae buddiannau niferus i weithio i Heddlu De Cymru, o gyfleoedd dysgu a datblygu i gynlluniau sy'n anelu at wella eich ffordd o fyw a'ch llesiant, yn ogystal â Chynllun Pensiwn Llywodraeth Leol / Cynlluniau Pensiwn yr Heddlu hael, gwyliau blynyddol â thâl, gweithio hyblyg a pholisïau cyfeillgar i deuluoedd a llawer mwy, cliciwch yma i gael rhagor o wybodaeth.

Cyfweliadau am y bost yma yn disgwyl ei fod yn Ionawr 2023

Peidiwch â cholli'r cyfle gwych hwn, gwnewch gais heddiw ac ymunwch â #TîmHDC

 

Cliciwch yma i gael gwybodaeth am sut i gwblhau ein proses ymgeisio ar-lein'

Ni ellir gwneud cais am y cyfle hwn.