Intern Fforensig Digidol

Heddlu De Cymru
Staff Heddlu
Trosedd Arbenigol
Portffolio Troseddau Arbenigol
Pen-y-bont ar Ogwr
SC3
£20,118
Llawn Amser
37
Tymor Sefydlog
12
2

08/01/23 15:00

Hoffech chi gael gyrfa heb ei hail? Os felly... YmunwchâNi

Mae Heddlu De Cymru yn dod â miloedd o bobl at ei gilydd sy'n rhannu'r un nod – cadw De Cymru'n ddiogel.

Rydym am sicrhau mai ni yw'r gorau am ddeall ac ymateb i anghenion ein cymunedau. I wneud hyn, mae angen i'r ymgeiswyr gorau posibl o amrywiaeth eang o gefndiroedd ymuno â'n teulu plismona.

Mae Interniaeth Heddlu De Cymru yn rhoi'r cyfle i chi brofi eich gwybodaeth academaidd mewn lleoliad ymarferol a phroffesiynol lle byddwch yn cael profiad gwaith a hyfforddiant gwerthfawr. Gallwch fod yn hyderus y cewch gymorth tîm arbenigol drwy'ch interniaeth a fydd yn eich annog i gyflawni eich potensial.

Bydd bod yn rhan o #TîmHDC yn cynnig profiad dysgu unigryw i chi lle byddwch yn cyfrannu at brosiectau bywyd go iawn mewn amgylchedd cymhleth ac amrywiol. Rydym yn gwerthfawrogi unigoliaeth ac yn annog syniadau newydd a chreadigrwydd a fydd yn cyfrannu at ein llwyddiant fel heddlu ac yn gwneud gwahaniaeth i gymdeithas.

Rydym yn cynnig cyfle cyffrous i Intern Fforenseg Ddigidol ymuno â ni am 12 mis. Bydd y rôl hon yn cynnig cyfle i chi gymryd rhan mewn amrywiaeth o dasgau a chael profiad gwerthfawr ym maes Fforenseg Ddigidol.

Byddwch yn casglu, yn adolygu ac yn dehongli amrywiaeth o ddata fforensig digidol er mwyn dod i gasgliadau a disgrifio pam mae sefyllfa wedi codi neu pam y gallai godi. Byddwch yn ymgymryd â gwaith archwilio fforensig a chasglu tystiolaeth a/neu gudd-wybodaeth o gyfrifiaduron, cyfryngau sy'n gysylltiedig â chyfrifiaduron a dyfeisiau digidol eraill sy'n cael eu canfod yn ystod ymchwiliadau.  Byddwch hefyd yn rhoi cyngor a chymorth technegol i swyddogion sy'n rhan o'r gwaith o ymchwilio i droseddau digidol yn ardal gyfan Heddlu De Cymru.

Bydd yr interniaeth yn dechrau ym mis Medi 2023 ac er mwyn bod yn gymwys mae'n rhaid eich bod yn gweithio tuag at radd mewn pwnc perthnasol sy'n ymwneud â Fforenseg Ddigidol, Neu wedi raddio o fewn y 3 mlynedd diwethaf . Bydd gennych wybodaeth am systemau gweithredu Microsoft Windows, OS X, iOS, Linux ac Android a dealltwriaeth dda o gyfraith droseddol, gan ganolbwyntio'n benodol ar ddeddfwriaeth troseddau cyfrifiadurol, gan gynnwys Deddf Rheoleiddio Pwerau Ymchwilio (RIPA), camddefnyddio cyfrifiaduron, y Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol (ECHR) a'r Ddeddf Diogelu Data.

 

Mae buddiannau niferus i weithio i Heddlu De Cymru, o gyfleoedd dysgu a datblygu i gynlluniau sy'n anelu at wella eich ffordd o fyw a'ch llesiant, yn ogystal â Chynllun Pensiwn Llywodraeth Leol / Cynlluniau Pensiwn yr Heddlu hael, gwyliau blynyddol â thâl, gweithio hyblyg a pholisïau cyfeillgar i deuluoedd a llawer mwy, cliciwch yma i gael rhagor o wybodaeth.

Cyfweliadau am y bost yma yn disgwyl ei fod yn Ionawr 2023  

Peidiwch â cholli'r cyfle gwych hwn, gwnewch gais heddiw ac ymunwch â #TîmHDC

 

Cliciwch yma i gael gwybodaeth am sut i gwblhau ein proses ymgeisio ar-lein'

Ni ellir gwneud cais am y cyfle hwn.