Graduate Trainee - Digital Forensic Investigator

Heddlu De Cymru
Staff Heddlu
Trosedd Arbenigol
Portffolio Troseddau Arbenigol
Pen-y-bont ar Ogwr
6SO1
£27,432
Llawn Amser
37
Tymor Sefydlog
24
2

08/01/23 15:00

Hoffech chi gael gyrfa heb ei hail? Os felly... YmunwchâNi

 

Mae Heddlu De Cymru yn dod â miloedd o bobl ynghyd sydd â'r un nod – cadw De Cymru yn ddiogel.

Rydym am sicrhau mai ni yw'r gorau am ddeall ac ymateb i anghenion ein cymunedau. I wneud hyn, mae angen i'r ymgeiswyr gorau posibl o amrywiaeth eang o gefndiroedd ymuno â'n teulu plismona.

Bydd dod yn rhan o #TîmHDC yn cynnig profiad dysgu unigryw i chi lle byddwch yn cyfrannu at brosiectau go iawn mewn amgylchedd cymhleth ac amrywiol. Rydym yn gwerthfawrogi unigoliaeth ac yn annog syniadau newydd a chreadigrwydd a fydd yn cyfrannu at ein llwyddiant fel heddlu ac yn gwneud gwahaniaeth i gymdeithas.

 

Mae'n bleser gan Heddlu De Cymru lansio ein Rhaglen i Raddedigion 2023. Rydym yn chwilio am bobl ag amrywiaeth o wahanol sgiliau a phrofiadau sy'n arloesol, yn llawn cymhelliant ac yn uchelgeisiol. Yn anad dim, rydym yn chwilio am unigolion talentog sy'n awyddus i fod yn arweinwyr y dyfodol ac sydd am ymuno â'n tîm llwyddiannus.

Rydym yn chwilio am berson graddedig brwdfrydig a llawn cymhelliant i ymuno â'n Tîm Fforenseg Ddigidol. Drwy'r cyfle unigryw hwn cewch brofiad ymarferol yn ymwneud ag amrywiaeth o dasgau a phrosiectau mewn amgylchedd plismona digidol dynamig. Byddwch yn meithrin dealltwriaeth o'r ffordd y caiff archwiliadau fforensig o dechnoleg ddigidol eu cynnal ac yn helpu i nodi, atal a chanfod gweithgarwch troseddol.

 
Mae ein Rhaglen i Raddedigion dan Hyfforddiant yn rhoi'r cyfle i chi feithrin profiad gwaith hanfodol mewn maes gwaith o'ch dewis, a bydd hefyd yn rhoi cyfle i chi ennill cymhwyster proffesiynol ac ychwanegu at y cymwysterau academaidd sydd gennych eisoes.

Byddwch hefyd yn elwa ar y cyfle i feithrin nifer o sgiliau eraill gan gynnwys sgiliau arwain, meddwl yn feirniadol a meithrin timau, a chymryd rhan yn rhaglenni hyfforddiant Heddlu De Cymru sydd eisoes ar waith.

Caiff unrhyw astudio proffesiynol ei ariannu'n llawn, a byddwch yn cael yr amser sydd ei angen i sicrhau bod modd i chi gwblhau astudio o'r fath.

Byddwch yn elwa ar rwydwaith o gefnogaeth ac anogaeth gan reolwyr llinell a fydd yn eich tywys drwy eich rôl ac astudiaethau proffesiynol ac a fydd yn penodi 'cyfaill' i gynorthwyo'r broses o ymgyfarwyddo â'ch rôl newydd a chynnig cefnogaeth barhaus drwy gydol y rhaglen. Gallwn eich sicrhau ein bod ni yr un mor frwdfrydig â chi ynglŷn â'ch datblygiadau.

Bydd y rhaglen yn dechrau ym mis Medi 2023 ac mae'n rhaid eich bod yn gweithio tuag at radd sy'n ymwneud â maes arbenigol Fforenseg Ddigidol gyda gradd ddisgwyliedig o 2:1 neu uwch neu wedi graddio o fewn tair blynedd. Mae'n rhaid i chi feddu ar wybodaeth am systemau gweithredu Microsoft Windows, OS X, iOS, LINUX ac Android, ac yn gallu cwblhau gwaith ymchwil ar-lein i nodi cyfleoedd ymchwilio. Byddwch gennych wybodaeth gadarn am gyfraith droseddol, gan ganolbwyntio'n benodol ar ddeddfwriaeth troseddau cyfrifiadurol, gan gynnwys Deddf Rheoleiddio Pwerau Ymchwilio (RIPA), Deddf Camddefnyddio Cyfrifiaduron, y Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol (ECHR) a'r Ddeddf Diogelu Data.

Mae sawl mantais i weithio i Heddlu De Cymru, o gyfleoedd dysgu a datblygu i gynlluniau sydd â'r nod o wella eich ffordd o fyw a'ch llesiant, yn ogystal â Chynllun Pensiwn Llywodraeth Leol / Cynlluniau Pensiwn yr Heddlu sy'n hael iawn, gwyliau blynyddol â thâl, gweithio hyblyg a pholisïau sy'n ystyriol o deuluoedd a llawer mwy, cliciwch yma i gael rhagor o wybodaeth.

 

Cyfweliadau am y bost yma yn disgwyl ei fod yn Ionawr 2023  

 

Peidiwch â cholli'r cyfle gwych hwn – Gwnewch gais heddiw!

 

Cliciwch yma i gael gwybodaeth am sut i gwblhau ein proses ymgeisio ar-lein'

Ni ellir gwneud cais am y cyfle hwn.