Rheolaeth Adnoddau Dynol

Heddlu De Cymru
Staff Heddlu
Adnoddau Dynol
K Adnoddau Dynol
Pen-y-bont ar Ogwr
SO1
£27,432
Llawn Amser
37
Tymor Sefydlog
24
2

08/01/23 15:00

Hoffech chi gael gyrfa heb ei hail? Os felly... YmunwchâNi

Mae Heddlu De Cymru yn dod â miloedd o bobl ynghyd sydd â'r un nod – cadw De Cymru yn ddiogel.

Rydym am sicrhau mai ni yw'r gorau am ddeall ac ymateb i anghenion ein cymunedau. I wneud hyn, mae angen i'r ymgeiswyr gorau posibl o amrywiaeth eang o gefndiroedd ymuno â'n teulu plismona.

Bydd bod yn rhan o #TîmHDC yn cynnig profiad dysgu unigryw i chi lle byddwch yn cyfrannu at brosiectau bywyd go iawn mewn amgylchedd cymhleth ac amrywiol. Rydym yn gwerthfawrogi unigoliaeth ac yn annog syniadau newydd a chreadigrwydd a fydd yn cyfrannu at ein llwyddiant fel heddlu ac yn gwneud gwahaniaeth i gymdeithas.

Mae'n bleser gan Heddlu De Cymru lansio ein Rhaglen i Raddedigion 2023. Rydym yn chwilio am bobl ag amrywiaeth o wahanol sgiliau a phrofiadau sy'n arloesol, yn llawn cymhelliant ac yn uchelgeisiol. Yn anad dim, rydym yn chwilio am unigolion talentog sy'n awyddus i fod yn arweinwyr y dyfodol ac sydd am ymuno â'n tîm llwyddiannus.

Mae Heddlu De Cymru yn ymdrechu at fodel gweithlu ac amgylchedd gweithio lle mae gennym y bobl gywir yn gwneud y pethau cywir yn y ffordd gywir.

Mae'r tîm Adnoddau Dynol yn gwireddu hyn, drwy ddenu, datblygu a chadw'r bobl orau.

Rydym yn chwilio am berson Graddedig brwdfrydig a llawn cymhelliant i weithio yn ein Tîm Adnoddau Dynol hynod brysur lle y byddwch yn cael cyfle i gynorthwyo'r gwaith o gyflawni ystod o brosiectau a gwasanaethau mewn timau amrywiol o fewn yr adran, gan gynnwys Adnoddau, Cyflog a Chydnabyddiaeth.

Gallwch ddisgwyl cael eich herio yn ddyddiol a chael y cyfle i ddefnyddio eich gwybodaeth academaidd, gan ennill profiad gwaith gwerthfawr sy'n ychwanegu at eich gyrfa barhaus yn yr adran Adnoddau Dynol.

Mae ein Rhaglen i Raddedigion dan Hyfforddiant yn rhoi'r cyfle i chi feithrin profiad gwaith hanfodol mewn maes gwaith o'ch dewis, a bydd hefyd yn rhoi cyfle i chi ennill cymhwyster proffesiynol CIPD ac ychwanegu at y cymwysterau academaidd sydd gennych eisoes unwaith y byddwch wedi cwblhau eich cynllun datblygu graddedigion yn llwyddiannus.

Byddwch hefyd yn elwa ar y cyfle i feithrin nifer o sgiliau eraill gan gynnwys sgiliau arwain, meddwl yn feirniadol a meithrin timau, a chymryd rhan yn rhaglenni hyfforddiant Heddlu De Cymru sydd eisoes ar waith.

Caiff unrhyw astudio proffesiynol ei ariannu'n llawn, a byddwch yn cael yr amser sydd ei angen i sicrhau bod modd i chi gwblhau astudio o'r fath.

Byddwch yn elwa ar rwydwaith o gefnogaeth ac anogaeth gan reolwyr llinell a fydd yn eich tywys drwy eich rôl ac astudiaethau proffesiynol ac a fydd yn penodi 'cyfaill' i gynorthwyo'r broses o ymgyfarwyddo â'ch rôl newydd a chynnig cefnogaeth barhaus drwy gydol y rhaglen. Gallwn eich sicrhau ein bod ni yr un mor frwdfrydig â chi ynglŷn â'ch datblygiadau.

Bydd yr interniaeth yn dechrau fis Medi 2023 ac er mwyn bod yn gymwys bydd angen i chi fod wrthi'n astudio ar gyfer gradd mewn Rheoli Adnoddau Dynol ac yn awyddus i ehangu eich gwybodaeth yn y maes hwn.

Mae buddiannau niferus i weithio i Heddlu De Cymru, o gyfleoedd dysgu a datblygu i gynlluniau sy'n anelu at wella eich ffordd o fyw a'ch llesiant, yn ogystal â Chynllun Pensiwn Llywodraeth Leol / Cynlluniau Pensiwn yr Heddlu hael, gwyliau blynyddol â thâl, gweithio hyblyg a pholisïau cyfeillgar i deuluoedd a llawer mwy, cliciwch yma i gael rhagor o wybodaeth.

Cyfweliadau am y bost yma yn disgwyl ei fod yn Ionawr 2023

Peidiwch â cholli'r cyfle gwych hwn, gwnewch gais heddiw ac ymunwch â #TîmHDC

 

Cliciwch yma i gael gwybodaeth am sut i gwblhau ein proses ymgeisio ar-lein'

Ni ellir gwneud cais am y cyfle hwn.