Goruchwyliwr Ymchwilio Safleoedd Troseddau

Heddlu De Cymru
Staff Heddlu
Uned Ymchwiliadau Gwyddonol ar y Cyd
Portffolio Troseddau Arbenigol
Tyllgoed
SO2
£33,360 - £35,307
Llawn Amser
37
Parhaol
2

15/12/22 15:00

Gwahoddir ceisiadau ar gyfer rôl Goruchwyliwr Ymchwilydd Safleoedd Troseddau (CSI) wedi'i lleoli yng Nghanolfan Ymchwilio Safleoedd Troseddau y Tyllgoed, Caerdydd. Mae'r rôl yn rhan o Uned Ymchwilio Gwyddonol ar y Cyd sy'n darparu gwasanaethau cymorth fforensig i Heddlu De Cymru a Heddlu Gwent.

Bydd yn ofynnol i chi arwain, goruchwylio a rheoli gwaith yr Ymchwilwyr Lleoliadau Troseddau ac Ymchwilwyr Safleoedd Troseddau Cyffredin gan fonitro eu cynnydd, eu perfformiad a'u datblygiad wrth sicrhau ansawdd pob agwedd ar swyddogaethau'r adran.Bydd yn ofynnol i chi gymryd rhan mewn pob math o ymchwiliadau safleoedd mewn rôl Goruchwylio ac fel Rheolwr Safleoedd Troseddau (CSM), a lle'n hyfforddedig, y rôl Cydlynydd Safleoedd Troseddau (CSC) mewn perthynas â llofruddiaethau ac achosion troseddau mawr eraill.

Bydd yn ofynnol i'r ymgeisydd llwyddiannus gydlynu'r defnydd o Ymchwilwyr Safleoedd Troseddau lleol a rhanbarthol yn effeithiol ac effeithlon. Mynychu safleoedd troseddau cyffredin a throseddau difrifol a lle bo'n ofynnol, mynychu digwyddiadau eraill lle mae angen Cydlynydd neu reolwr safleoedd troseddau. Cynnal ymchwiliadau yn unol â gweithdrefnau'r heddlu, gan sicrhau cydymffurfiaeth â System Rheoli Ansawdd, ISO 17020, codau Rheoleiddiwr Gwyddoniaeth Fforensig, ILAC G-19 a deddfwriaeth berthnasol arall.

 

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn meddu ar ddealltwriaeth glir o rôl yr Uned Ymchwilio Fforensig ac archwiliadau fforensig technegol cyfredol, gyda'r gallu i adnabod ac unioni unrhyw arferion gwaith anghywir neu anghyflawn. Byddwch yn gallu cyfathrebu a chyflwyno gwybodaeth yn effeithiol i ystod eang o bobl, gan ddefnyddio sgiliau negodi gwych. Mae'r gallu i ddefnyddio eich menter eich hun, gweithio o dan bwysau a threfnu a blaenoriaethu llwythi gwaith yn angenrheidiol yn ogystal â meddu ar wybodaeth dda am ofynion iechyd a diogelwch.

 

Bydd yn ofynnol i chi weithio i ganllawiau a gweithdrefnau, meddu ar hunangymhelliant a bod â'r gallu i ddangos sgiliau goruchwylio cryf. Mae'r gallu i adnabod gwybodaeth sensitif a dilyn polisi cyfleoedd cyfartal Heddlu De Cymru yn angenrheidiol ac yn gymhwyster Rheolwr Safleoedd Troseddau cydnabyddedig cenedlaethol. Os nad ydych eisoes wedi derbyn hyfforddiant, bydd yn ofynnol i chi fynychu a chwblhau cwrs hyfforddi Cydlynwyr Safleoedd Troseddau yn llwyddiannus.

Mae meddu ar drwydded yrru lawn yn angenrheidiol gan fod teithio ledled ardal yr heddlu a rhanbarth De Cymru a Gwent yn ofynnol er mwyn cwblhau aseiniadau mewn modd amserol a gweithio'n hyblyg.

Cliciwch yma i gael gwybodaeth am sut i gwblhau ein proses ymgeisio ar-lein'

Ni ellir gwneud cais am y cyfle hwn.