Cynorthwyydd Cyfleusterau – Diogelwch

Heddlu De Cymru
Staff Heddlu
Stadau
Stadau a Chyfleusterau - Cyfleusterau
Arall
Pencadlys ac Uned 2
SC23
£19,149 - £21,399
Llawn Amser
37
Parhaol
2

13/12/22 15:00

Gwahoddir ceisiadau am swyddog diogelwch Ystadau – Mae cyfle wedi codi am  swydd swyddog diogelwch yn ein Pencadlys ym Mhen-y-bont ar Ogwr. Rhaid i chi feddu ar brofiad diogelwch, bod yn hyddysg mewn cyfrifiadura ac mewn defnyddio rhaglenni Microsoft.

Mae'n rhaid cael trwydded yrru ddilys a chyfredol i gyflenwi dros amser cinio mewn lleoliad ar wahân. Rhaid i chi allu gweithio fel tîm yn ogystal ag ar eich pen eich hun a gallu bod yn rhagweithiol a defnyddio eich menter eich hun, gan gadw'n bwyllog ac yn broffesiynol os byddwch yn delio â sefyllfa o wrthdaro.

 

Er mwyn sicrhau yr ymdrinnir â'r holl ymwelwyr a staff mewn modd effeithlon, mae darparu gwasanaeth rhagorol i gwsmeriaid yn hanfodol drwy'r amser.

 

 

 Wedi ei leoli yn y Swyddfa Ystadau, Pencadlys yr Heddlu, Pen-y-bont ar Ogwr.

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gweithio fel rhan o'r Tîm Ystadau a Chyfleusterau sydd hefyd yn darparu amrywiaeth eang o swyddogaethau gan gynnwys cymorth yn ymwneud ag Adnoddau Dynol, Cyllid/Cyllidebau, Iechyd a Diogelwch, Cydymffurfiaeth a Rheoli Eiddo.

Rhaid i'r ymgeisydd llwyddiannus fod yn barod i ymgymryd â phroses fetio hyd at lefel MV/SC.

Mae'r swydd wag hon yn addas ar gyfer rhannu swydd/gweithio rhan amser.

Os yw eich swydd bresennol yn y Ganolfan Gwasanaethau Cyhoeddus, neu os cawsoch eich cyflogi ar ôl 1 Chwefror 2017, mae'n rhaid eich bod wedi cyflawni dwy flynedd o wasanaeth â deiliadaeth cyn gwneud cais am unrhyw rolau eraill.

Os ydych yn rhan o Ymchwiliad yr Adran Safonau Proffesiynol ar hyn o bryd, ni fyddwch yn gymwys i wneud cais am y rôl hon.

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Rosemarie Williams ar 07967 838843

 

 

Cliciwch yma i gael gwybodaeth am sut i gwblhau ein proses ymgeisio ar-lein'

Ni ellir gwneud cais am y cyfle hwn.