Asiant Desg Gwasanaeth
13/12/22 15:00
Mae Heddlu De Cymru yn awyddus i recriwtio Asiant Desg Gwasanaeth i weithio yn yr Adran Gwasanaethau Cwsmeriaid TGCh, gan ddarparu gwasanaeth datrys cyswllt cyntaf ac ymateb i anghenion defnyddwyr sy'n ymwneud â systemau TGCh/Rheoli Gwybodaeth a sicrhau bod Heddlu De Cymru yn manteisio ar y buddiannau y gellir eu cyflawni o'r systemau hyn.
Bydd gofyn i'r ymgeisydd llwyddiannus hefyd ddarparu cymorth ymarferol ac i ddefnyddio dull gweithredu rhagweithiol wrth roi cyngor a chymorth technegol ar gyfer systemau megis Microsoft Office Suite a systemau penodedig yr heddlu, ynghyd â darparu adroddiadau cynnydd rheolaidd. Bydd cyfle hefyd i gymryd rhan yn y broses o roi systemau newydd ar waith ac i helpu gyda phrosiectau arbennig o ran datblygu systemau technegol.
Mae'r swydd hon yn addas ar gyfer rhannu swydd/gweithwyr rhan amser.
Mae'n rhaid i'r ymgeisydd llwyddiannus fod yn barod i ymgymryd â phroses fetio hyd at lefel MV/SC.
I gael rhagor o wybodaeth cysylltwch â Wendy Smith ar 01656 655555 est 20888.
Ni ellir gwneud cais am y cyfle hwn.