All Wales Substance Misuse Strategy Lead
05/12/22 17:00
Mae'r rôl hon, sef Arweinydd Cymru gyfan, yn rôl newydd a chyffrous a bydd yn darparu arweinyddiaeth a chyfeiriad cyffredinol i'r gwaith o ddatblygu strategaeth cyffuriau ac alcohol ar lefel genedlaethol, gan sicrhau bod cyfeiriad polisi strategol a gweithredol ar draws y pedwar heddlu a'r pedwar Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu yn gydgysylltiedig, yn effeithiol ac yn arloesol. Diben y rôl fydd helpu i atgyfnerthu'r ymateb cyffredinol i gyffuriau ledled Cymru, gan leihau achosion o niwed a thrais cysylltiedig i unigolion a chymunedau.
Bydd y rôl yn gyfrifol am bennu strategaeth ar sail Cymru gyfan, gan bennu blaenoriaethau, datblygu a rheoli prosiectau a chomisiynu gweithgareddau. Gan weithio mewn partneriaeth â phob rhan o'r tirlun cyffuriau cenedlaethol, ac yn atebol i'r Bwrdd Gweithredu Cenedlaethol ar gyfer Gwenwyn Cyffuriau, y Bwrdd Plismona yng Nghymru a Bwrdd Plismona a Phartneriaeth Cymru. Bydd yn cynnig cyfle i ddylanwadu ar lefel uwch ac i chwarae rhan allweddol yn yr uchelgais i weithredu mewn ffordd drawsnewidiol ac uchelgeisiol yng Nghymru.
Mewn partneriaeth, bydd yn cynnwys creu seilwaith a goruchwylio'r rhaglen waith yng Nghymru er mwyn rhoi systemau trin effeithiol ar waith a'n galluogi i gyflawni blaenoriaethau a chanlyniadau y bwriedir iddynt arwain at ganlyniadau iechyd y cyhoedd cadarnhaol gan wasanaethau a gomisiynir gan y pedwar heddlu a'r pedwar Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu.
Mae'r gallu i siarad Cymraeg o fantais ond ni chaiff ei ystyried yn hanfodol.
I gael rhagor o wybodaeth a thrafodaeth anffurfiol, cysylltwch â Rhian Williams (Rhian.Williams3@south-wales.police.uk)
Ni ellir gwneud cais am y cyfle hwn.