Commercial Solicitor

Heddlu De Cymru
Staff Heddlu
Gwasanaethau Cyfreithiol
K Gwasanaethau Cyfreithiol ar y Cyd
Pencadlys, Pen-y-bont ar Ogwr
PO5
£45375-£48546
Llawn Amser
37
Parhaol
2

09/02/23 15:00

CYFREITHIWR MASNACHOL PO5 £45,375.00-£48,546.00 

Mae Heddlu De Cymru yn awyddus i benodi Cyfreithiwr Masnachol llawn amser fel rhan o'i dîm Gwasanaethau Cyfreithiol ar y Cyd. Diben y rôl yw helpu i ddarparu gwasanaeth cyfreithiol cynhwysfawr i Brif Gwnstabliaid a Chomisiynwyr yr Heddlu a Throseddu Heddlu De Cymru a Heddlu Gwent. Bydd hyn yn cynnwys cynghori a drafftio cytundebau masnachol cymhleth yn aml, o gontractau caffael y cyhoedd i gytundebau cydweithio â sefydliadau sector cyhoeddus eraill.  

Mae'r Gwasanaethau Cyfreithiol ar y Cyd yn dîm Cydweithredol, yn cefnogi Heddlu De Cymru a Heddlu Gwent ac yn ymdrin ag amrywiaeth o feysydd cyfreithiol sy'n gysylltiedig â chyflogaeth, gweithrediadau, ymgyfreitha a materion cyfraith gorfforaethol sy'n effeithio ar blismona. 
Er mwyn bod yn llwyddiannus yn y rôl heriol hon rhaid eich bod yn gyfreithiwr neu'n  fargyfreithiwr cymwys  â thystysgrif ymarfer gyfredol a rhaid i chi allu dangos tystiolaeth o ddatblygiad proffesiynol parhaus. 


Cyfeiriwch at broffil y rôl i gael manylion llawn y cymwysterau, y sgiliau a'r wybodaeth sy'n ofynnol ar gyfer y swydd hon. 


Fel rôl fewnol, mae nifer o fuddianau yn gysylltiedig â gweithio i Heddlu De Cymru. Yn ogystal â gwneud gwir gyfraniad i ddiogelwch ein cymunedau a gweithio i sefydliad blaengar, arloesol a chynhwysol, bydd gyrfa yn Heddlu De Cymru yn cynnig cymaint yn fwy i chi. Ynghyd â chyflog cystadleuol a chynllun Pensiwn Llywodraeth Leol gwych y cyfrennir ato, rydym yn cynnig ystod eang o fuddiannau, o gyfleoedd dysgu a datblygu i arbedion a gostyngiadau ffordd o fyw. Mae gormod i'w rhestru yma, felly trowch at y ddolen hon i gael gwybod popeth sydd gennym i'w gynnig pan fyddwch yn ymuno â #TîmHDC.

Mae'n rhaid i'r ymgeisydd llwyddiannus fod yn fodlon cael ei fetio hyd at Lefel MV/SC

Os ydych yn rhan o Ymchwiliad sy'n mynd rhagddo ar hyn o bryd, ni fyddwch yn gymwys i wneud cais ar gyfer y rôl hon

I gael trafodaeth anffurfiol am y swydd hon ffoniwch Nicola White ar 01656 869476. 

Cliciwch yma i gael gwybodaeth am sut i gwblhau ein proses ymgeisio ar-lein'

Ni ellir gwneud cais am y cyfle hwn.