Cyfreithiwr Eiddo Masnachol
20/12/22 15:00
CYFREITHIWR EIDDO MASNACHOL PO5 £45,375.00-£48,546.00
Mae Heddlu De Cymru yn awyddus i benodi Cyfreithiwr Masnachol llawn amser fel rhan o'i dîm Gwasanaethau Cyfreithiol ar y Cyd. Diben y rôl yw helpu i ddarparu gwasanaeth cyfreithiol cynhwysfawr i Brif Gwnstabliaid a Chomisiynwyr yr Heddlu a Throseddu Heddlu De Cymru a Heddlu Gwent. Bydd hyn yn cynnwys cynghori a drafftio ar gytundebau eiddo masnachol cymhlethol, gan gynnwys gwaredu tir, prydlesi a phrosiectau datblygu.
Mae'r Gwasanaethau Cyfreithiol ar y Cyd yn dîm Cydweithredol, yn cefnogi Heddlu De Cymru a Heddlu Gwent ac yn ymdrin ag amrywiaeth o feysydd cyfreithiol sy'n gysylltiedig â chyflogaeth, gweithrediadau, ymgyfreitha a materion cyfraith gorfforaethol sy'n effeithio ar blismona.
Er mwyn bod yn llwyddiannus yn y rôl heriol hon rhaid eich bod yn gyfreithiwr neu'n fargyfreithiwr cymwys â thystysgrif ymarfer gyfredol a rhaid i chi allu dangos tystiolaeth o ddatblygiad proffesiynol parhaus.
Cyfeiriwch at broffil y rôl i gael manylion llawn y cymwysterau, y sgiliau a'r wybodaeth sy'n ofynnol ar gyfer y swydd hon.
Fel rôl fewnol, mae nifer o fuddianau yn gysylltiedig â gweithio i Heddlu De Cymru. Yn ogystal â gwneud gwir gyfraniad i ddiogelwch ein cymunedau a gweithio i sefydliad blaengar, arloesol a chynhwysol, bydd gyrfa yn Heddlu De Cymru yn cynnig cymaint yn fwy i chi. Ynghyd â chyflog cystadleuol a chynllun Pensiwn Llywodraeth Leol gwych y cyfrennir ato, rydym yn cynnig ystod eang o fuddiannau, o gyfleoedd dysgu a datblygu i arbedion a gostyngiadau ffordd o fyw. Mae gormod i'w rhestru yma, felly trowch at y ddolen hon i gael gwybod popeth sydd gennym i'w gynnig pan fyddwch yn ymuno â #TîmHDC.
Tâl, Buddiannau a Gwobrwyau | Heddlu De Cymru (south-wales.police.uk)
I gael trafodaeth anffurfiol am y swydd hon ffoniwch Nicola White ar 01656 869476.
Ni ellir gwneud cais am y cyfle hwn.