Uwch-ddatblygwr
13/12/22 15:00
Mae hwn yn gyfle gwych i ymgeiswyr sy'n awyddus i ymuno ag adran arbenigol sy'n gweithio ar gynhyrchion digidol.
Drwy ymuno â #TîmHDC byddwch yn dod yn rhan o heddlu blaenllaw, lle y bydd cyfle i chi gyfrannu syniadau newydd a gweithio i wneud gwahaniaeth mewn cymdeithas.
Mae Heddlu De Cymru yn croesawu'n benodol ymgeiswyr o grwpiau sydd wedi'u tangynrychioli.
Mae'r Adran Gwasanaethau Digidol yn gwasanaethu Heddlu Gwent a Heddlu De Cymru ac yn gyfrifol am wella ein gwasanaethau drwy ddefnyddio technoleg. Mae ein tîm yn gyfrifol am wneud y broses blismona yn fwy effeithlon, effeithiol ac yn well drwy gyflwyno technoleg ddigidol. Mae'r adran brysur yn cwmpasu'r holl brif raglenni digidol yn yr heddlu, o Dechnoleg Adnabod Wynebau i Systemau Cymhwyso Pwrpasol, Cyfweliadau Digidol a Thelemateg Fflyd, a llawer mwy.
Mae'r swydd Uwch-ddatblygwr E-Wasanaethau wedi'i lleoli yn ein tîm Ymchwilio a Datblygu mewnol, a bydd yn rhoi cyfle i ymgeiswyr arwain Cylch Oes Datblygu Meddalwedd ar gyfer cyfres o heriau y mae heddluoedd De Cymru a Gwent yn eu hwynebu yn y byd go iawn.
Ar raglenni Microsoft stack i ddatblygu datrysiadau (C#, .Net Core, Xamarin, gweinydd SQL, Azure) mae'r tîm yn dibynnu'n bennaf ac maent yn defnyddio DevOps i reoli'r broses gweithio.
Byddem yn croesawu unigolion sy'n meddu ar sgiliau a phrofiadau mewn mentora a datblygu datblygwyr meddalwedd llai profiadol yn benodol.
Noder y bydd yn rhaid i bob ymgeisydd gwblhau gwiriadau cyn cyflogi.
Ni fydd ymgeiswyr mewnol yn gymwys i wneud cais os byddant yn destun cyfyngiadau cyfnod neu'n rhan o un o Ymchwiliadau'r Adran Safonau Proffesiynol.
Mae'n rhaid i'r ymgeisydd llwyddiannus fod yn fodlon cael ei fetio hyd at Lefel MV/SC
Os ydych yn rhan o Ymchwiliad sy'n mynd rhagddo ar hyn o bryd, ni fyddwch yn gymwys i wneud cais ar gyfer y rôl hon
Os oes gennych unrhyw ymholiadau, cysylltwch â Jon Jones jon.jones@south-wales.police.uk
Ni ellir gwneud cais am y cyfle hwn.