Swyddog Cymorth Prosiect yr Is-adran Gwasanaethau Digidol
22/12/22 15:00
Gwahoddir ceisiadau gan unigolion am swydd Swyddog Cymorth Prosiect ar gyfer yr Is-adran Gwasanaethau Digidol.
Bydd y rôl yn cynnwys rhoi cymorth cryf i'r timau sy'n rhan o'r gwaith o gyflwyno newid a bydd yn cynnwys gwaith cynllunio prosiect manwl, trefnu adnoddau, trefnu ac ysgrifennu cofnodion cyfarfodydd ac ati. Rydym yn chwilio am chwaraewr tîm cryf gyda pharodrwydd i gymryd cyfrifoldeb am waith wrth ddangos sgiliau cyfathrebu da.
Mae'n rhaid i'r ymgeisydd llwyddiannus fod yn fodlon cael ei fetio hyd at Lefel MV/SC
Os ydych yn rhan o Ymchwiliad sy'n mynd rhagddo ar hyn o bryd, ni fyddwch yn gymwys i wneud cais ar gyfer y rôl hon
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Rebekah Williams Rebekah.Williams@south-wales.police.uk
Ni ellir gwneud cais am y cyfle hwn.