Rheolwr Cyflawni Buddiannau Gallu Biometreg

Heddlu De Cymru
Staff Heddlu
Isdran Gwasanaethau Digidol
Isadran Gwasanaethau Digidol
Pencadlys, Pen-y-bont ar Ogwr
PO5
£45, 375 – £48,546
Llawn Amser
37
Dros Dro
5

15/12/22 15:00

Cyfle am secondiad cyffrous am hyd at 12 mis yn Heddlu De Cymru fel rhan o dîm newydd sbon a gaiff ei greu i fod ar flaen y gad o ran llywio prosesau i fabwysiadu biometreg sy'n dod i'r amlwg ym maes plismona.

Rydym yn chwilio am dîm dynamig o arbenigwyr, a gefnogir gan drefniadau gweithio ystwyth, ar gyfer y Swyddogaeth Fiometreg Genedlaethol (NBF). Bydd y tîm arbenigol yn cefnogi'r gwaith o adolygu, dylunio a datblygu cynigion ar gyfer gallu gorfodi'r gyfraith cydlynol mewn perthynas â biometreg yn y DU, gyda phwyslais penodol ar fiometreg sy'n dod i'r amlwg a datblygiad strwythurau traddodiadol.

I ddechrau bydd ffocws ar helpu heddluoedd i roi proses Adnabod Wynebau Ôl-weithredol ar waith drwy gefnogi timau gweithredu lleol a rhanbarthol i gyflawni'r manteision gweithredol a'r arbedion ariannol sylweddol sy'n gysylltiedig â defnyddio'r dechnoleg hon. Bydd y tîm arbenigol hwn hefyd yn darparu swyddogaeth gydgysylltu i gefnogi Bwrdd Strategaeth Fiometreg Genedlaethol Cyngor Cenedlaethol Prif Swyddogion yr Heddlu, ei raglen yn ogystal â strwythurau is-bwyllgorau.

Rheolwr Cyflawni Buddiannau Gallu Biometreg   PO 5 (£45, 375 – £48,546)

Mae hwn yn gyfle cyffrous i ddarparu gwasanaeth cyfryngau cynhwysfawr sy'n cefnogi Biometreg mewn plismona gweithredol, gosod cyfeiriad strategol a llywio'r strategaeth gyfathrebu.

Bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus addysg hyd at lefel gradd gyda phrofiad neu gymhwyster academaidd neu broffesiynol mewn astudiaethau cyfryngau, cysylltiadau cyhoeddus, newyddiaduraeth neu bwnc cysylltiedig e.e. CAM, CIM, NCTJ. Rhaid gallu gweithio dan bwysau, yn unol â therfynau amser, arfer barn a sicrhau cyfrinachedd llwyr wrth ymdrin â gwybodaeth sensitif, gyda sgiliau cyfathrebu llafar ac ysgrifenedig rhagorol a'r gallu i arwain cyfranogaeth mewn ymgyrchoedd a mentrau.

Mae'n rhaid i'r ymgeisydd llwyddiannus fod yn fodlon cael ei fetio hyd at Lefel MV/SC.

Os ydych yn rhan o Ymchwiliad sy'n mynd rhagddo ar hyn o bryd, ni fyddwch yn gymwys i wneud cais ar gyfer y rôl hon.

Darparwch dystiolaeth sy'n dangos eich addasrwydd ar gyfer y rôl benodol yr hoffech wneud cais amdani yn unol â'r proffiliau rôl amgaeedig. 

Os bydd angen unrhyw wybodaeth bellach arnoch mewn perthynas â'r prosiect neu'r rolau, cysylltwch â'r Prif Arolygydd Scott Lloyd (scott.lloyd@south-wales.police.uk).

Cliciwch yma i gael gwybodaeth am sut i gwblhau ein proses ymgeisio ar-lein'

Ni ellir gwneud cais am y cyfle hwn.