Arweinydd Gallu Biometreg

Heddlu De Cymru
Swyddog Heddlu - Mewnolion
Isdran Gwasanaethau Digidol
Isadran Gwasanaethau Digidol
Pencadlys, Pen-y-bont ar Ogwr
Prif Arolygydd
Dros Dro
2

15/12/22 15:00

Cyfle am secondiad cyffrous am hyd at 12 mis yn Heddlu De Cymru fel rhan o dîm newydd sbon a gaiff ei greu i fod ar flaen y gad o ran llywio prosesau i fabwysiadu biometreg sy'n dod i'r amlwg ym maes plismona.

Rydym yn chwilio am dîm dynamig o arbenigwyr, a gefnogir gan drefniadau gweithio ystwyth, ar gyfer y Swyddogaeth Fiometreg Genedlaethol (NBF). Bydd y tîm arbenigol yn cefnogi'r gwaith o adolygu, dylunio a datblygu cynigion ar gyfer gallu gorfodi'r gyfraith cydlynol mewn perthynas â biometreg yn y DU, gyda phwyslais penodol ar fiometreg sy'n dod i'r amlwg a datblygiad strwythurau traddodiadol.

I ddechrau bydd ffocws ar helpu heddluoedd i roi proses Adnabod Wynebau Ôl-weithredol ar waith drwy gefnogi timau gweithredu lleol a rhanbarthol i gyflawni'r manteision gweithredol a'r arbedion ariannol sylweddol sy'n gysylltiedig â defnyddio'r dechnoleg hon. Bydd y tîm arbenigol hwn hefyd yn darparu swyddogaeth gydgysylltu i gefnogi Bwrdd Strategaeth Fiometreg Genedlaethol Cyngor Cenedlaethol Prif Swyddogion yr Heddlu, ei raglen yn ogystal â strwythurau is-bwyllgorau.

Arweinydd Gallu Biometreg – Prif Arolygydd

Arwain y gwaith o adolygu, dylunio a datblygu cynigion ar gyfer gallu gorfodi'r gyfraith cydlynol mewn perthynas â biometreg yn y DU, gyda phwyslais penodol ar fiometreg sy'n dod i'r amlwg a datblygiad strwythurau traddodiadol. Gweithio'n agos gyda chadeirydd Bwrdd Strategaeth Fiometreg Genedlaethol Cyngor Cenedlaethol Prif Swyddogion yr Heddlu, sef y Prif Gwnstabl Jeremy Vaughan.

Rhaid i'r ymgeisydd llwyddiannus fod ar lefel Prif Arolygydd a meddu ar brofiad o arwain prosiectau dyrys, gweithio mewn partneriaeth ar lefel uwch yn ogystal â meddu ar ddealltwriaeth gadarn o fiometreg sy'n dod i'r amlwg a goblygiadau cysylltiedig o dan GDPR y DU a Deddf Diogelu Data 2018.

Nodwch y lleoliad a ffefrir gennych ar ycais. Noder efallai y bydd oedi wrth ryddhau ymgeiswyr llwyddiannus o'ch UnedReoli Sylfaenol bresennol i ddechrau'r rôl hon.

Byddwch yn ymwybodol, osydych wedi bod yn llwyddiannus ar fyrddau dyrchafu'r heddlu o'r dyddiad y caiffy dyrchafiad/penodiad ei gadarnhau, nad ydych yn gymwys mwyach i wneud cais am unrhywrolau eraill/arbenigol.

Os ydych wedi cael eichdyrchafu yn Rhingyll/Arolygydd, rhaid eich bod wedi cwblhau eich Asesiad yn yGwaith cyn eich bod yn gymwys i wneud cais am rolau arbenigol.

Rhaid i chi fod yn Gwnstabl parhaol (ac wedicwblhau cyfnod prawf o ddwy flynedd).

Os ydych yn Drosglwyddai, mae'n rhaid eichbod wedi cwblhau dwy flynedd o wasanaeth gyda Heddlu De Cymru cyn gwneud caisam unrhyw rolau arbenigol.

Os ydych yn rhan o Ymchwiliad sy'n mynd rhagddo ar hyn o bryd, ni fyddwch yn gymwys i wneud cais ar gyfer y rôl hon

Mae'n rhaid i'r ymgeisydd llwyddiannus fod ynbarod i ymgymryd â phroses fetio hyd at lefel MV/SC.

Darparwch dystiolaeth sy'n dangos eich addasrwydd ar gyfer y rôl benodol yr hoffech wneud cais amdani yn unol â'r proffiliau rôl amgaeedig.

 Os bydd angen unrhyw wybodaeth bellach arnoch mewn perthynas â'r prosiect neu'r rolau, cysylltwch â'r Prif Arolygydd Scott Lloyd (scott.lloyd@south-wales.police.uk)

Cliciwch yma i gael gwybodaeth am sut i gwblhau ein proses ymgeisio ar-lein'

Ni ellir gwneud cais am y cyfle hwn.