Prif Ddadansoddwr Cymorth – Y Swyddfa Docynnau Ganolog

Heddlu De Cymru
Staff Heddlu
Technolegau Gwybodaeth a Chyfathrebu
Technolegau Cyfathrebiadau Gwybodaeth
Forest Grove Trefforest (CTO)
PO2
£37.074 - £39.942
Llawn Amser
37
Tymor Sefydlog
18
2

08/12/22 15:00

Mae Adran TGCh Heddlu De Cymru yn awyddus i recriwtio Prif Ddadansoddwr Cymorth i weithio yn Swyddfa Docynnau Ganolog yr Heddlu, Trefforest.

 

Bydd yn ofynnol i'r ymgeisydd llwyddiannus ddarparu cymorth ymarferol o ddydd i ddydd a mynd ati'n rhagweithiol i ddarparu cymorth technegol i gefnogi llwyfannau defnyddwyr terfynol pwrpasol a sicrhau gweithrediad effeithlon yr adran. Mae'r meysydd gwaith yn cynnwys gweinyddion a systemau gweithredu cyfyngedig HOTA a rhaglenni sy'n integreiddio â chyfrifiaduron a rhwydweithiau'r heddlu.

 

Dylai'r ymgeisydd llwyddiannus feddu ar ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o arferion gorau diogelwch TG ac yn gallu cysylltu sawl system drwy sgriptio a rhaglennu.Rôl ddatblygu yw hon a fydd yn gweithio ar amcanion technolegol sefydledig, a dylai'r ymgeisydd llwyddiannus feddu ar y sgiliau a'r galluoedd i wella a datblygu'r atebion hyn ymhellach.Rhaid i'r unigolyn fod yn gyfarwydd â defnyddio caledwedd HP PC, systemau gweithredu bwrdd gwaith a systemau gweithredu gweinydd Microsoft, datrysiadau rheoli dyfeisiau a meddu ar sgiliau datrys problemau rhagorol. Bydd angen iddo hefyd feddu ar wybodaeth am y gwahanol galedwedd, meddalwedd, perifferolion, a thechnolegau cyflwyno a chefnogi cymwysiadau a ddefnyddir gan yr Heddlu.

 

Mae'n rhaid i'r ymgeisydd llwyddiannus fod yn barod i ymgymryd â phroses fetio hyd at lefel SC/MV.

 

Mae meddu ar drwydded yrru lawn yn hanfodol ar gyfer y rôl hon.

 

Nid yw'r swydd hon yn addas ar gyfer rhannu swydd/gweithwyr rhan amser oherwydd yr angen i sicrhau parhad y llwyth gwaith a chynnal perchnogaeth prosiectau sy'n mynd rhagddynt.

 

Os yw eich swydd bresennol o fewn y Ganolfan Gwasanaethau Cyhoeddus, neu os cawsoch eich cyflogi ar ôl 1 Chwefror 2017, mae'n rhaid eich bod wedi cyflawni 2 flynedd o wasanaeth â deiliadaeth cyn gwneud cais am unrhyw rolau eraill.

 

I gael rhagor o wybodaeth cysylltwch â Jon Clewlow drwy ffonio: 01656 869211 est 70474.

Cliciwch yma i gael gwybodaeth am sut i gwblhau ein proses ymgeisio ar-lein'

Ni ellir gwneud cais am y cyfle hwn.