All Wales Quality Assurance Advisor.

Heddlu Gogledd Cymru
Staff Heddlu
NPCC
Arall
POB
£38,064 - £41,517
Hybrid – gellir cyflawni’r rôl hon o gartref yn amlach na pheidio.
Llawn Amser
37
Tymor Sefydlog
2

12/12/22 12:00

A ydych yn chwilio am her newydd? A oes gennych brofiad mewn Gwaith Ieuenctid a Diogelu?

Yma yn Heddlu Gogledd Cymru, rydym yn chwilio am rywun i ymuno a ni ar gytundeb dwy flynedd llawn amser i weithio ar y cyd a phedwar heddlu Cymru mewn swydd heriol ond sydd eto'n werth chweil fel Ymgynghorydd Sicrwydd Ansawdd Cymru Gyfan.

Yn atebol i Arweinydd Cyngor Cenedlaethol Prif Swyddogion yr Heddlu (CCPSH) ac yn gweithio gyda phob un o'r Swyddogion Cyfrifol Dynodedig yng Nghymru, byddwch yn cymell ac yn cyflawni newid er mwyn sicrhau'r lefel safonau uchaf ar gyfer y rhaglenni Cadetiaid Heddlu Gwirfoddol a Gwirfoddolwyr Ieuenctid yr Heddlu.

Gan roi cyngor arbenigol a strategol i uwch arweinwyr ledled plismona, byddwch yn arwain gweithredu prosesau cyson, diogel a chynaliadwy yn y rhaglenni ieuenctid ledled y pedwar heddlu gan gryfhau llwybrau i bobl ifanc o gefndiroedd heriol. 

Rydym yn chwilio am rywun sydd â phrofiad o reoli o fewn gwaith ieuenctid, sgiliau sefydliadol a chyfathrebu rhagorol gyda lefel uwch o hunan ysgogiad a brwdfrydedd i ddylanwadu. Dylai'r unigolyn iawn fod a'r gallu i weithio o bell gan y bydd y rôl hon yn y cartref gyda gofyn yn benodol am weithio ledled pedwar heddlu Cymru. 

Bydd dyletswyddau eraill yn cynnwys, ond nid yn gyfyngedig i

  • Briffio arweinydd CCPSH Cymru ar gyfer Cadetiaid Heddlu Gwirfoddol a Gwirfoddolwyr Ieuenctid yr Heddlu yn rheolaidd a pharatoi adroddiadau i Grŵp Prif Swyddogion Cymru
  • Cyflwyno Panel Ieuenctid cenedlaethol newydd er mwyn galluogi ein pobl ifanc i leisio sut maent eisiau newid a siapio diwylliant diogelu wrth sicrhau y cydnabyddir ac y dethlir ymdrechion pob aelod.
  • Gweithio mewn partneriaeth gyda'r sector Gwaith Ieuenctid a rhanddeiliaid allweddol eraill yng Nghymru er mwyn cyflawni uchelgeisiau a rennir a gofynion rheoleiddio.
  • Sicrhau y delir yr ymdriniaeth arloesol hon, gan fynd ati i gynnwys y bobl ifanc wrth ddatblygu'r fframwaith ar gyfer gwerthuso a'r gweithgarwch o'i blaid.

Fel Gwasanaeth Heddlu sy'n gweithredu rhaglenni Cadetiaid Heddlu Gwirfoddol a Gwirfoddolwyr Ieuenctid yr Heddlu, rydym wedi ymroi i ddiogelu a gwarchod holl blant, pobl ifanc ac oedolion mewn perygl. Er mwyn sicrhau bod hyn yn digwydd, rydym yn glynu at Bolisi Recriwtio Mwy Diogel y Cadetiaid Heddlu Gwirfoddol Cenedlaethol.

Mae'r rôl hon yn amodol ar gliriad DBS uwch a fetio llawn yr heddlu.

Ystyrir y rôl wedi'i heithrio o Ddeddf Adfer Troseddwyr 1974 oherwydd y cyswllt agos gyda phobl ifanc yn rheolaidd a'r ymddiriedaeth a roddir ynddoch chi. 

Trinnir yr holl wybodaeth a roddwch yn gyfrinachol a'i rheoli yn unol a deddfwriaeth a chanllawiau diogelu data perthnasol. Mae gennych hawl gyfreithiol i gael mynediad at wybodaeth amdanoch chi.

Ceir gwybodaeth am y rhaglen Cadetiaid Heddlu Gwirfoddol/Gwirfoddolwyr Ieuenctid yr Heddlu  yma

Beth fyddaf ei angen ar gyfer rôl Ymgynghorydd Sicrwydd Ansawdd Cymru Gyfan?

  • Wedi addysgu i lefel gradd a/neu brofiad proffesiynol perthnasol ar lefel rheoli o fewn gwaith ieuenctid
  • Arbenigedd strategol o'r sector gwaith ieuenctid gan gynnwys profiad o fonitro a gwerthuso ansawdd y strategaeth gwaith ieuenctid a chyflawni
  • Profiad o weithredu safonau diogelu fel y Marc Ansawdd ar gyfer Gwaith Ieuenctid yng Nghymru
  • Hanes profedig o weithredu i Egwyddorion a Dibenion Gwaith Ieuenctid yng Nghymru
  • Profiad o gydlynu gweithgarwch ledled grwpiau rhanddeiliaid eang
  • Profiad o reoli prosiectau ac ysgrifennu adroddiadau strategol
  • Profiad o hyfforddiant gwaith ieuenctid yng Nghymru, un ai drwy gymryd rhan a/neu gyflawni
  • Sgiliau trefnu, rhyngbersonol a chyfathrebu ysgrifenedig a llafar effeithiol gwych. Gallu gweithio o bell a hunan ysgogiad a menter bersonol, gydag ychydig o oruchwyliaeth.
  • Sgiliau gwneud penderfyniadau effeithiol, gan weithio gyda galwadau cymhleth a chystadleuol, gan flaenoriaethu'n effeithiol
  • Gallu gweithio gydag ychydig o oruchwyliaeth a bodloni dyddiadau cau

Beth yw ein manteision   

Yma yn Heddlu Gogledd Cymru rydym yn gwerthfawrogi ein gweithwyr ac rydym yn darparu digon o gymorth a hyfforddiant i sicrhau eich bod yn rhagori yn eich rôl, ochr yn ochr â derbyn budd-daliadau fel:  

  • Bydd gan bob dechreuwr newydd ffrind/mentor i'ch cefnogi pan fyddwch yn ymuno
  • 25 diwrnod o wyliau blynyddol ynghyd ag 8 gŵyl banc
  • Mynediad i gampfeydd a dosbarthiadau ffitrwydd ar y safle
  • Opsiwn i ddod yn aelod o UNSAIN, yr undeb gwasanaethau cyhoeddus
  • Gostyngiadau gan wahanol fanwerthwyr drwy'r Cynllun Golau Glas
  • Cynllun Beicio i'r Gwaith
  • Gweithio Hybrid/Ystwyth (dibynnydd rôl)
  • Cefnogaeth gan ein Canolfan Iechyd a Lles gan gynnwys Swyddogion Lles, Cwnsela, Ffisiotherapydd a Chefnogwyr Cymheiriaid Iechyd Meddwll a pheeidio ag anghofio ein ci lles
  • Cynllun pensiwn
  • Cyfleon gwaith hyblyg
  • Hawliau cyfnod mamolaeth/tadolaeth/mabwysiadu hael
  • Darpariaeth salwch hael 

Mae Heddlu Gogledd Cymru yn sefydliad dwyieithog ac ar gyfer y rôl hon, bydd angen i chi ddangos sgiliau Cymraeg Llafar Lefel 2, sy'n golygu eich bod yn gallu rhoi a gofyn am fanylion personol a gwybodaeth sylfaenol; i wneud ceisiadau syml a dweud ychydig o ymadroddion amdanoch chi'ch hun yn Gymraeg. Cewch wybod mwy drwy ymweld â'n  Tudalen Adnoddau Cymraeg

Gweithredu Positif  

Os ydych yn perthyn i grŵp ethnig Du, Asiaidd neu Leiafrifoedd Ethnig  eraill(BAME), LHDT+ neu os oes gennych anabledd – efallai y gallwn gynnig cymorth Gweithredu’n Bositif i chi. Ewch i'n tudalen Gweithredu’n Bositif i ddysgu mwy am sut mae hyn yn gweithio a'n hymrwymiad i gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant.   

Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd 

Rydym yn cael ein cydnabod fel cyflogwr hyderus o ran anabledd, ein nod yw recriwtio a chadw pobl anabl, a phobl â chyflyrau iechyd, am eu sgiliau a'u talent. Gallwch nodi ar eich ffurflen gais a oes angen unrhyw gymorth neu addasiadau arnoch i'ch galluogi i wneud y gwaith, neu i'ch cynorthwyo gyda'ch cais. 

Os byddwch yn ymuno â ni gydag anabledd neu gyflwr meddygol, ein nod yw eich cefnogi fel y gallwch gyflawni eich rôl yn effeithiol. Lle bo'n bosibl, byddwn yn trefnu addasiadau rhesymol fel y gallwch wneud hyn. 

 

Sut ydych chi'n gwneud cais 

Bydd proffil y swydd yn dweud popeth sydd angen i chi ei wybod am y swydd a pha sgiliau y bydd angen i chi eu defnyddio.  

Mae llunio rhestr fer yn seiliedig ar eich datganiad i gefnogi eich cais. Sicrhewch eich bod yn rhoi tystiolaeth o enghreifftiau penodol lle mae’n bosibl o sut mae eich profiad, eich cymwysterau, eich sgiliau a’ch gallu yn bodloni’r meini prawf sylfaenol/arbennig a/neu ofynion hanfodol y rôl. 

Dyddiad cau: 12/12/2022 

Os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch, cysylltwch â Thîm Recriwtio Heddlu Gogledd Cymru: SSF.Recruitment@northwales.police.uk neu 01492 804699. 

 

2
Cliciwch yma am canllawiau defnyddwyr (PDF) bydd yn eich cynorthwyo chi gyda’n proses ymgeisio ar-lein.

Ni ellir gwneud cais am y cyfle hwn.