Cynghorydd Seiberddiogelwch
21/12/22 15:00
Staff yr Heddlu – Cynghorydd Seiberddiogelwch, Troseddau Arbenigol
Gwahoddir ceisiadau am y swydd newydd ei sefydlu ar gyfer Cynghorydd Diogelu Seiberddiogelwch. Amcanion y rôl hon yw:
Lleihau effaith gyffredinol Seiberdroseddu yn ardal Heddlu De Cymru, grymuso'r gymuned drwy sicrhau ei bod yn ymwybodol o risgiau, bygythiadau ac effaith Seiberdroseddu a sut y gellir eu lliniaru. Darparu ystod eang o fentrau seiberddiogelwch gan gynnwys datrysiadau diogelwch technolegol, gweithgarwch lliniaru, ymddygiad defnyddwyr ac ymateb i ddigwyddiadau, er mwyn grymuso sefydliadau i ddiogelu eu hunain, gan wella gwydnwch ym mhob un o'r sectorau diwydiant ac mewn cymdeithas.
Bydd aelodau o'r tîm Diogelu yn gweithio mewn partneriaeth agos â sefydliadau o'r sector cyhoeddus a'r sector preifat er mwyn annog seilwaith 'diogelu drwy ddylunio' er mwyn diogelu busnesau'r DU rhag Seiberdroseddu.
Paratoi a rhoi cyflwyniadau o flaen cynulleidfaoedd byw er mwyn rhannu profiadau neu gyngor/arweiniad fel y bo'n briodol.
Gweithio gyda phartneriaid, er enghraifft Get Safe Online / Cyber Aware, i rannu negeseuon ar ddiogelwch ar-lein / Seiberddiogelwch drwy amrywiaeth o gyfryngau ar-lein ac all-lein.
Chwarae rhan hollbwysig wrth ddatblygu gallu i rwydweithio'n genedlaethol, gan dargedu bygythiad sylweddol i'r DU sy'n newid yn gyflym, wrth sicrhau bod negeseuon amserol ac awdurdodol yn cael eu rhannu ledled y Rhanbarth.
Nid yw'r swydd hon yn addas ar gyfer rhannu swydd/trefniadau gweithio rhan-amser oherwydd maint y tîm a'r angen am barhad a chostau staff.
Mae'n rhaid i'r ymgeisydd llwyddiannus fod yn fodlon cael ei fetio hyd at Lefel MV/SC
Os ydych yn rhan o Ymchwiliad sy'n mynd rhagddo ar hyn o bryd, ni fyddwch yn gymwys i wneud cais ar gyfer y rôl hon
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â DS 5324 Matthew Phillips
Ni ellir gwneud cais am y cyfle hwn.