Hyfforddwr Ymchwiliol
26/02/21 15:00
Bod yn gyfrifol am hyfforddi, gweinyddu a datblygu pob swyddog ac aelod o staff Heddlu De Cymru a chyrff allanol fel y bo angen. Defnyddio ei bwerau o dan y gyfraith i atal troseddau, ymchwilio iddynt a'u canfod. Llunio, darparu a chydlynu pob agwedd ar hyfforddiant Ymchwiliol gan gynnwys cyfweliadau Arbenigol a holl Gyrsiau PIP. Mae'r rôl wedi'i lleoli ym Mhen-y-bont ar Ogwr, ond bydd gofyn i'r ymgeisydd llwyddiannus weithio mewn lleoliadau hyfforddi ym Mhen-y-bont ar Ogwr, Abertawe a Chaerdydd pan fo angen.
Mae'r rôl yn gofyn bod yr ymgeisydd yn ymchwilydd profiadol. Byddai cymhwyster addysgu yn fanteisiol ond nid yw'n hanfodol gan y bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn cael cyfle ac amser i gyflawni Tystysgrif mewn Addysg a Hyfforddiant.
Byddai gwybodaeth am Seiberdroseddu a chynnal ymchwiliadau ar-lein yn fanteisiol hefyd.
Nid yw'r swydd hon yn addas ar gyfer rhannu swydd/gweithwyr rhan amser
Os yw eich swydd bresennol o fewn y Ganolfan Gwasanaethau Cyhoeddus, neu os cawsoch eich cyflogi ar ôl 1 Chwefror 2017, mae'n rhaid eich bod wedi cyflawni 2 flynedd o wasanaeth â deiliadaeth cyn gwneud cais am unrhyw rolau eraill.
Mae'n rhaid i'r ymgeisydd llwyddiannus fod yn fodlon cael ei fetio hyd at Lefel MV/SC.
Os ydych yn rhan o Ymchwiliad sy'n mynd rhagddo ar hyn o bryd, ni fyddwch yn gymwys i wneud cais ar gyfer y rôl hon
I gael rhagor o wybodaeth am y swydd wag hon, cysylltwch â Rhingyll Debi Gwynne 07967 672846
Ni ellir gwneud cais am y cyfle hwn.