Cynorthwyydd Gweinyddol – Uned Cymorth Cyfiawnder Troseddol
28/10/24 15:00
Hoffech chi gael gyrfa heb ei hail? Os felly... Ymunwch â Ni
Mae Heddlu De Cymru yn dod â miloedd o bobl ynghyd sydd â'r un nod – cadw De Cymru'n ddiogel.
Rydym am sicrhau mai ni yw'r gorau am ddeall ac ymateb i anghenion ein cymunedau. Er mwyn gwneud hyn, mae angen i'r ymgeiswyr gorau o amrywiaeth eang o gefndiroedd wneud cais i ymuno â'n teulu plismona.
Rydym yn chwilio am rywun i #YmunoÂNi fel Cynorthwyydd Gweinyddol yn ein Huned Cymorth Cyfiawnder Troseddol. Ai chi yw'r un rydym yn chwilio amdano?
Y tîm/Adran y byddwch yn ymuno ag ef/hi:
Yr Uned Cymorth Cyfiawnder Troseddol – tîm bach wedi'i leoli ar hyn o bryd yng Ngorsaf Heddlu Pontypridd, sy'n cynnwys 15 o gynorthwywyr gweinyddol yn ogystal ag un adolygydd achos, a chânt eu goruchwylio gan un arweinydd tîm.
Y rôl a'ch prif gyfrifoldebau:
Mae'r rôl yn cwmpasu amrywiaeth o brosesau. Rydym yn darparu gwasanaeth cymorth gweinyddol i'r Heddlu a'i bartneriaid cyfiawnder troseddol, gan gynnwys Llysoedd Ynadon, Llysoedd y Goron a Gwasanaeth Erlyn y Goron, lle bydd dyletswyddau hefyd yn cynnwys ymholiadau dros y ffôn a gohebiaeth gan gyfreithwyr yr erlyniad.
Pa sgiliau a phrofiad y mae angen i chi eu cynnig i'r rôl:
Mae’r rol hon yn addas ar gyfer gweithwyr rhan amser/thaglen swydd
Byddwch yn unigolyn trefnus a hyblyg, sy'n meddu ar lygad craff iawn a sgiliau gwasanaeth cwsmeriaid rhagorol yn ogystal â gwybodaeth am ddefnyddio rhaglenni Microsoft a phrofiad o'u defnyddio i safon uchel.
Mae sawl mantais i weithio i Heddlu De Cymru, o gyfleoedd dysgu a datblygu i gynlluniau y bwriedir iddynt wella eich ffordd o fyw a'ch llesiant, yn ogystal â Chynllun Pensiwn Llywodraeth Leol/Cynlluniau Pensiwn yr Heddlu sy'n hael iawn, gwyliau blynyddol â thâl, gweithio hyblyg a pholisïau sy'n ystyriol o deuluoedd a llawer mwy, cliciwch yma i gael rhagor o wybodaeth.
Os hoffech gael rhagor o wybodaeth am y rôl, cysylltwch â Karen Evans – Arweinydd y Tîm Gweithredol – 07773 624529 neu Nicky Clement – Rheolwr yr Uned Gweithredol - 01443 743680.
Mae’r rol hon yn addas ar gyfer gweithwyr rhan amser/thaglen swydd.
Mae'n rhaid i'r ymgeisydd llwyddiannus fod yn fodlon cael ei fetio hyd at Lefel RV.
Noder, os ydych yn destun ymchwiliad PSD parhaus, efallai y bydd eich apwyntiad neu leoliad yn y rôl yn cael eu gohirio wrth aros am ganlyniad. Bydd p'un a yw'r rôl yn cael ei chadw'n agored yn cael ei hystyried fesul achos
Ai dyma'r tro cyntaf i chi wneud cais am rôl gyda Heddlu De Cymru? Gwnewch yn siŵr eich bod yn darllen ein canllawiau ar wneud cais er mwyn cael cynghorion ac awgrymiadau defnyddiol ynglŷn â'r ffurflen gais a'r hyn i'w ddisgwyl, cliciwch yma i gael rhagor o wybodaeth. Noder, rhaid i'r ymgeisydd llwyddiannus fod yn barod i ymgymryd â phroses fetio hyd at y lefel ofynnol.
Mae'n rhaid i'r ymgeisydd llwyddiannus fod yn fodlon cael ei fetio hyd at Lefel RV
Noder, os ydych yn destun ymchwiliad PSD parhaus, efallai y bydd eich apwyntiad neu leoliad yn y rôl yn cael eu gohirio wrth aros am ganlyniad. Bydd p'un a yw'r rôl yn cael ei chadw'n agored yn cael ei hystyried fesul achos
Ni ellir gwneud cais am y cyfle hwn.