Ymchwilydd Data Fflyd
21/10/24 15:00
Hoffech chi gael gyrfa heb ei hail? Os felly... Ymunwch â Ni
Mae Heddlu De Cymru yn dod â miloedd o bobl ynghyd sydd â'r un nod – cadw De Cymru'n ddiogel.
Rydym am sicrhau mai ni yw'r gorau am ddeall ac ymateb i anghenion ein cymunedau. Er mwyn gwneud hyn, mae angen i'r ymgeiswyr gorau o amrywiaeth eang o gefndiroedd wneud cais i ymuno â'n teulu plismona.
Rydym yn chwilio am rywun i #YmunoÂNi fel Ymchwilydd Data Fflyd yn ein Hadran Rheoli Fflyd ym Mhen-y-bont ar Ogwr. Ai chi yw'r un rydym yn chwilio amdano?
Y tîm/Adran y byddwch yn ymuno ag ef/hi:
Byddwch yn gweithio i'r Rheolwr Gweithrediadau Fflyd ac yn cynhyrchu gwaith i'r Tîm Rheoli Fflyd. Mae'r adran yn goruchwylio'r gwaith o weinyddu a chynnal a chadw tua 1,000 o gerbydau ledled ardal yr heddlu.
O fewn yr Adran Fflyd, mae 12 technegydd, 4 gweinyddwr a'r tîm rheoli.
Mae'r adran yn gweithredu polisi gweithio hyblyg gyda chymysgedd o weithio yn y swyddfa a gweithio gartref.
Y rôl a'ch prif gyfrifoldebau:
Bydd y rôl yn hanfodol er mwyn rhoi adroddiadau i'r Uwch Dîm Rheoli sydd wedi'u cynhyrchu o gronfa ddata'r Adran Fflyd a ffynonellau eraill, er mwyn helpu i wella cynhyrchiant ac i sicrhau arbedion i Heddlu De Cymru
Bydd yn ofynnol i chi gyflwyno'r data mewn fformat clir a chryno oherwydd gallant gael eu cyflwyno'n ddiweddarach gan Bennaeth y Fflyd yn ystod cyfarfodydd Prif Swyddogion.
Rhaid i chi ddangos ymagwedd ddadansoddol ragorol at eich gwaith a fydd yn hanfodol i'r rôl.
Bydd yn rhaid i chi ddarparu amryw o adroddiadau sy'n ymwneud â cherbydau fflyd yr heddlu a byddant yn ofynnol ar sail wythnosol a misol.
Cyflwyno data perthnasol ar gyfer ceisiadau Rhyddid Gwybodaeth.
Pa sgiliau a phrofiad y mae angen i chi eu cynnig i'r rôl:
Dylech feddu ar y gallu i gasglu a dadansoddi data a gwybodaeth yn gywir a dylech allu llunio adroddiadau perfformiad ar eich canfyddiadau.
Rhaid i chi allu dangos y gallu i ymchwilio, coladu, dadansoddi a rhannu data a gasglwyd mewn modd proffesiynol.
Rhaid i chi allu rheoli eich llwyth gwaith eich hun.
Rhaid i chi feddu ar lefel uchel o sgiliau cyfathrebu ysgrifenedig a llafar.
Mae’r rol hon yn addas ar gyfer gweithwyr rhan amser/thaglen swydd.
Mae'n rhaid i'r ymgeisydd llwyddiannus fod yn fodlon cael ei fetio hyd at Lefel RV.
Noder, os ydych yn destun ymchwiliad PSD parhaus, efallai y bydd eich apwyntiad neu leoliad yn y rôl yn cael eu gohirio wrth aros am ganlyniad. Bydd p'un a yw'r rôl yn cael ei chadw'n agored yn cael ei hystyried fesul achos
Mae sawl mantais i weithio i Heddlu De Cymru, o gyfleoedd dysgu a datblygu i gynlluniau y bwriedir iddynt wella eich ffordd o fyw a'ch llesiant, yn ogystal â Chynllun Pensiwn Llywodraeth Leol/Cynlluniau Pensiwn yr Heddlu sy'n hael iawn, gwyliau blynyddol â thâl, gweithio hyblyg a pholisïau sy'n ystyriol o deuluoedd a llawer mwy, cliciwch yma i gael rhagor o wybodaeth.
Os hoffech gael rhagor o wybodaeth am y rôl, cysylltwch â Dan Dare-Edwards ar 07970476638
Mae'r rôl hon yn cau ar 21/10/24 - gwnewch gais heddiw ac ymunwch â Thîm HDC!
Ai dyma'r tro cyntaf i chi wneud cais am rôl gyda Heddlu De Cymru? Gwnewch yn siŵr eich bod yn darllen ein canllawiau ar wneud cais er mwyn cael cynghorion ac awgrymiadau defnyddiol ynglŷn â'r ffurflen gais a'r hyn i'w ddisgwyl, cliciwch yma i gael rhagor o wybodaeth. Noder, rhaid i'r ymgeisydd llwyddiannus fod yn barod i ymgymryd â phroses fetio hyd at y lefel ofynnol.
Proses didoli papur 21 Hydref
Dyddiad y cyfweliad 6 Tachwedd
Ni ellir gwneud cais am y cyfle hwn.