Swyddog Datblygu ac Asesu Cudd-wybodaeth

Heddlu De Cymru
Staff Heddlu
WECTU - UCG
CTP Wales - CTIU
Pen-y-bont ar Ogwr
SO2
£36,996.00-£39,036.00
Llawn Amser
37
Parhaol
2

28/10/24 15:00

Ymgymryd â gwaith asesu a datblygu cudd-wybodaeth er mwyn nodi gwendidau, cyfleoedd diogelu a lleihau'r risg o niwed i gymunedau Cymru rhag Terfysgaeth ac Eithafiaeth Dreisgar.

Cael ac asesu gwybodaeth a chudd-wybodaeth newydd o dan y broses asesu y cytunwyd arni a nodi a datblygu cyfleoedd cudd-wybodaeth drwy nodi bylchau mewn cudd-wybodaeth a phennu tasgau ar gyfer asedau priodol er mwyn creu'r darlun cudd-wybodaeth gyflawn.

Cefnogi Rhwydwaith Gwrthderfysgaeth y DU drwy gydlynu gweithgarwch Plismona Gwrthderfysgaeth Cymru yn effeithiol yn ôl cyfarwyddyd er mwyn cefnogi Strategaeth Gwrthderfysgaeth y DU, Strategaeth Genedlaethol yr Heddlu ar gyfer Gwrthderfysgaeth a Rheoli Eithafiaeth a'r Strategaeth Rheoli Ranbarthol er mwyn atal, canfod ac amharu ar achosion o derfysgaeth ac eithafiaeth.

Rheoli, asesu ac ymdrin â'r holl wybodaeth a chudd-wybodaeth, gan gynnwys gwybodaeth gyfrinachol a chudd-wybodaeth gyfrinachol/sensitif, er mwyn nodi'r lefelau o fygythiad a risg, gan gynnwys penderfynu a gaiff ei datblygu, ei lledaenu, ei gwaredu neu ei storio. Sicrhau ansawdd pob darn o gudd-wybodaeth a geir neu a ddatblygir, er mwyn sicrhau ei bod yn cyrraedd y safonau ansawdd derbyniol, gan gynnwys addasu, graddio a thrin, a marciau GPMS.

O ganlyniad i ofynion gweithredol, nid yw'r rôl hon yn addas i weithwyr rhan amser/gweithwyr sy'n rhannu swyddi.

Os ydych yn rhan o Ymchwiliad gan yr Adran Safonau Proffesiynol ar hyn o bryd, ni fyddwch yn gymwys i wneud cais am y rôl hon.

Rhaid i'r Ymgeisydd llwyddiannus fod yn barod i ymgymryd â phroses fetio hyd at lefel Fetio Rheoli/Cliriad Diogelwch/Fetio Uwch.

Bydd hefyd angen cwblhau proses sefydlu diogelwch ychwanegol, sy'n cynnwys gwiriadau cyn-sgrinio o genedligrwydd a chysylltiadau tramor. Rhaid pwysleisio bod hyn yn ogystal â’r broses Fetio Uwch neu broses fetio rheoli’r heddlu. Rhaid i ymgeiswyr fod yn llwyddiannus yn y ddau gliriad er mwyn cael eu penodi i'r swydd hon. 

Cliciwch yma i gael gwybodaeth am sut i gwblhau ein proses ymgeisio ar-lein'

Ni ellir gwneud cais am y cyfle hwn.