24/11/25 15:00
Hoffech chi gael gyrfa heb ei hail? Os felly... Ymunwch â Ni
Mae Heddlu De Cymru yn dod â miloedd o bobl ynghyd sydd â'r un nod – cadw De Cymru yn ddiogel.
Rydym am sicrhau mai ni yw'r gorau am ddeall ac ymateb i anghenion ein cymunedau. Er mwyn gwneud hyn, mae angen i'r ymgeiswyr gorau o amrywiaeth eang o gefndiroedd wneud cais i ymuno â'n teulu plismona.
Rydym yn chwilio am rywun i #YmunoÂNi fel Cludwr yn ein Hadran Ystadau a Chyfleusterau. Ai chi yw'r un rydym yn chwilio amdano?
Y tîm/adran y byddwch yn ymuno ag ef/hi:
Lleolir yn: Swyddfa'r Storfeydd Canolog, PEN-Y-BONT AR OGWR
Mae cyfle cyffrous wedi codi yn Heddlu De Cymru ar gyfer Cludwr rhan amser ar sail barhaol. Bydd yn ychwanegu at ein tîm Storfeydd Canolog cryf yn yr adran Ystadau. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn sicrhau y caiff eitemau critigol, fel cyflenwadau gweithredol, lifrau a chyfarpar eu cyflenwi'n brydlon i swyddogion ac adrannau ym mhob rhan o Heddlu De Cymru er mwyn eu galluogi i gyflawni eu dyletswyddau heb oedi na tharfu.
Y rôl a'ch prif gyfrifoldebau:
Sicrhau y caiff post, deunydd ysgrifennu, cyflenwadau gweithredol a lifrau eu cludo'n ddiogel, yn effeithlon ac yn amserol ym mhob rhan o Heddlu De Cymru, wrth gefnogi'r gwaith o ddarparu gwasanaeth cludo, lifrai a rheoli cyfarpar proffesiynol. Rhan amser, 18.5 awr.
Pa sgiliau a phrofiad y mae angen i chi eu cynnig i'r rôl:
Yr ymgeisydd llwyddiannus:
Noder, rhaid i'r ymgeisydd llwyddiannus fod yn barod i ymgymryd â phroses fetio hyd at y lefel RV ofynnol
Sylwch, os ydych yn ymgeisydd mewnol ac yn destun ymchwiliad parhaus i PSD, efallai y bydd oedi cyn i'ch penodiad neu leoliad yn y rôl gael ei ohirio hyd nes y bydd canlyniad. Bydd p'un a yw'r rôl yn agored yn cael ei hystyried fesul achos
Mae sawl mantais i weithio i Heddlu De Cymru, o gyfleoedd dysgu a datblygu i gynlluniau y bwriedir iddynt wella eich ffordd o fyw a'ch llesiant, yn ogystal â Chynllun Pensiwn Llywodraeth Leol / Cynlluniau Pensiwn yr Heddlu sy'n hael iawn, gwyliau blynyddol â thâl, gweithio hyblyg a pholisïau sy'n ystyriol o deuluoedd a llawer mwy, cliciwch yma i gael rhagor o wybodaeth.
Os hoffech gael rhagor o wybodaeth am y rôl, cysylltwch â Judith Williams ar 07870 913857
Ai dyma'r tro cyntaf i chi wneud cais am rôl gyda Heddlu De Cymru? Gwnewch yn siŵr eich bod yn darllen ein canllawiau ar wneud cais er mwyn cael cynghorion ac awgrymiadau defnyddiol ynglŷn â'r ffurflen gais a'r hyn i'w ddisgwyl, cliciwch yma i gael rhagor o wybodaeth.
Ni ellir gwneud cais am y cyfle hwn.