Cynghorydd Oruchwylydd Diogelwch Gwrthderfysgaeth

Heddlu De Cymru
Staff Heddlu
WECTU - UCG
CTP Wales - CTIU
Pen-y-bont ar Ogwr
PO2
£35484 - £38376
Llawn Amser
37
Parhaol
2

02/03/21 15:00

Gwahoddir ceisiadau am rôl Goruchwylydd Diogelwch Gwrthderfysgaeth yn Uned Eithafiaeth a Gwrthderfysgaeth Cymru.

Gweithio fel rhan o'r tîm Gwrthderfysgaeth Cenedlaethol yn Uned Eithafiaeth a Gwrthderfysgaeth Cymru, gan gyfrannu at yr ymdrech i gryfhau'r amddiffynfeydd cenedlaethol, cynnal strategaethau gwrthderfysgaeth a rhoi cyngor gwrthderfysgaeth arbenigol ar ddiogelwch i gwsmeriaid mewnol ac allanol yn ardal Heddlu De Cymru.

Mae'n hanfodol bod yr ymgeisydd yn barod i gwblhau'r cliriad diogelwch manylach neu'r broses fetio (uwch) yn llwyddiannus.

Bydd hefyd angen cwblhau proses sefydlu diogelwch ychwanegol, sy'n cynnwys gwiriadau cyn-sgrinio o genedligrwydd a chysylltiadau tramor. Rhaid pwysleisio bod hyn yn ogystal â’r broses Fetio Uwch neu broses fetio rheoli’r heddlu. Rhaid i ymgeiswyr fod yn llwyddiannus yn y ddau gliriad er mwyn cael eu penodi i'r swydd hon.

 

Os yw eich swydd bresennol o fewn y Ganolfan Gwasanaethau Cyhoeddus, neu os cawsoch eich cyflogi ar ôl 1 Chwefror 2017, mae'n rhaid eich bod wedi cyflawni 2 flynedd o wasanaeth â deiliadaeth cyn gwneud cais am unrhyw rolau eraill.

Mae'n rhaid i'r ymgeisydd llwyddiannus fod yn fodlon cael ei fetio hyd at Lefel DV/MV/SC.

Os ydych yn rhan o Ymchwiliad sy'n mynd rhagddo ar hyn o bryd, ni fyddwch yn gymwys i wneud cais ar gyfer y rôl hon

 

Cliciwch yma i gael gwybodaeth am sut i gwblhau ein proses ymgeisio ar-lein'

Ni ellir gwneud cais am y cyfle hwn.