Uwch-ddadansoddwr Darparu Gwasanaethau TGCh
10/03/23 15:00
Y rôl
Rydym yn chwilio am Uwch-ddadansoddwr Darparu Gwasanaethau profiadol i ymuno â'n Hadran TGCh yn Heddlu De Cymru. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn atebol i'r Rheolwr Gwasanaethau Cwsmeriaid ac yn gyfrifol am sicrhau y darperir gwasanaethau TG o ansawdd uchel i gwsmeriaid mewnol, gan weithio'n agos gyda'r tîm rheoli gwasanaethau er mwyn sicrhau y darperir gwasanaethau TG yn unol â lefelau gwasanaeth y cytunwyd arnynt.
Cyfrifoldebau:
- Sicrhau y darperir gwasanaethau TG o ansawdd uchel i gwsmeriaid mewnol
- Gweithio'n agos gyda'r tîm rheoli gwasanaethau er mwyn sicrhau y darperir gwasanaethau TG yn unol â lefelau gwasanaeth y cytunwyd arnynt
- Monitro perfformiad gwasanaethau, a chymryd camau priodol i ddatrys problemau a gwella gwasanaethau
- Rheoli a chydlynu prosesau rheoli digwyddiadau, problemau a newid
- Gweithredu fel pwynt cyswllt ar gyfer materion sy'n ymwneud â gwasanaethau a materion a uwchgyfeirir
- Nodi gwelliannau i brosesau a gweithdrefnau darparu gwasanaethau a'u rhoi ar waith
- Monitro ac adrodd ar berfformiad gwasanaethau yn erbyn CLGau a DPAau
- Cydweithio â thimau eraill i sicrhau bod gwasanaethau TG yn cyd-fynd ag anghenion busnes
Gofynion:
- Rhaid meddu ar radd berthnasol a/neu gymwysterau arwyddocaol eraill ym maes TGCh, Rheoli Gwasanaethau neu Reoli Busnes neu ddangos profiad perthnasol.
- Sgiliau a phrofiad o reoli a gweithredu ym maes Rheoli Gwasanaethau TGCh mewn sefydliad o faint cymharol gydag ystod amrywiol o wasanaethau sy'n seiliedig ar dechnoleg.
- Profiad o reoli digwyddiadau, problemau a newid a chymorth TGCh arall o ddydd i ddydd.
- Sgiliau dadansoddi a datrys problemau cryf
Ble byddwch wedi'ch lleoli:
Mae'r Uwch-ddadansoddwr Darparu Gwasanaethau TGCh yn rhan o'r adran Darparu Gwasanaethau. Gan fod yn atebol i'r Rheolwr Gwasanaethau Cwsmeriaid, bydd eich meysydd cyfrifoldeb yn cynnwys:
- Systemau Rheoli Gwasanaethau TGCh, Meddalwedd a Gwasanaethau
- Rheoli Gwasanaethau TGCh
- Swyddogaeth a Rheolaeth Desg Gymorth TGCh,
- Rheoli Cysylltiadau Cwsmeriaid TGCh,
- Rheoli Cyflenwyr/Cyflenwadau TGCh
- Rheoli Gweithrediadau TGCh.
Amrywiaeth, Cydraddoldeb a Chynhwysiant
Fel Heddlu, rydym wedi ymrwymo i ddatblygu strwythur cyffredinol cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant ym mhob rhan o Heddlu De Cymru: yn ein gweithlu ac yn y gwasanaethau a ddarparwn.
Mae Heddlu De Cymru yn gyflogwr cyfle cyfartal ac yn benderfynol o ddenu, cyflogi a chefnogi gweithlu sy'n cynrychioli'r gymdeithas amrywiol a wasanaethir ganddo.
Rydym wedi ymrwymo i sicrhau amgylchedd gwaith lle nad oes achosion o aflonyddu, bygwth, bwlio nac erlid.
Croesewir ceisiadau gan grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol a bydd cymorth ar gael i bob ymgeisydd ar gais.
Mae'n rhaid i'r ymgeisydd llwyddiannus fod yn fodlon cael ei fetio hyd at Lefel MV/SC.
Os ydych yn rhan o Ymchwiliad sy'n mynd rhagddo ar hyn o bryd, ni fyddwch yn gymwys i wneud cais ar gyfer y rôl hon
Ni ellir gwneud cais am y cyfle hwn.