20/11/25 15:00
Hoffech chi gael gyrfa heb ei hail? Os felly... Ymunwch â Ni
Mae Heddlu De Cymru yn dod â miloedd o bobl ynghyd sydd â'r un nod – cadw De Cymru yn ddiogel.
Rydym am sicrhau mai ni yw'r gorau am ddeall ac ymateb i anghenion ein cymunedau. Er mwyn gwneud hyn, mae angen i'r ymgeiswyr gorau o amrywiaeth eang o gefndiroedd wneud cais i ymuno â'n teulu plismona.
Rydym yn chwilio am rywun i #YmunoÂNi fel Swyddog Delweddu Fforensig (Ffotograffydd). Ai chi yw'r un rydym yn chwilio amdano?
Y tîm/Adran y byddwch yn ymuno ag ef/hi:
Mae cyfle cyffrous wedi codi i ymuno â'r Uned Delweddu Fforensig, yr Uned Ymchwilio Gwyddonol ar y Cyd (JSIU), fel Swyddog Delweddu Fforensig (Ffotograffydd) ym Mhen-y-bont ar Ogwr. Mae'r Uned Ymchwilio Gwyddonol ar y Cyd yn drefniant cydweithredol rhwng Heddlu Gwent a Heddlu De Cymru i ddarparu gwasanaethau gwyddonol i'r ddau heddlu.
Y rôl a'ch prif gyfrifoldebau:
Rydym yn chwilio am unigolion ymroddedig â diddordeb brwd a helaeth yn y cyfryngau digidol sy'n awyddus i feithrin eu sgiliau mewn maes busnes ymchwiliol modern sy'n datblygu'n barhaus. Byddwch yn helpu i ddarparu gwasanaethau delweddu arbenigol i gefnogi ymchwiliadau i droseddau mawr a chyffredin ar draws ardaloedd Heddlu Gwent a Heddlu De Cymru.
Fel rhan o'r rôl hon, byddwch yn mynychu lleoliadau troseddau ac yn gwneud gwaith cofnodi gan ddefnyddio amrywiaeth o dechnegau a chyfryngau fel ffotograffiaeth 360, sganiau 3D o'r lleoliad, yn helpu i gyflwyno tystiolaeth ffotograffig, yn rhoi cymorth technegol i swyddogion gweithredol ac i aelodau eraill o'r Uned Ymchwilio Gwyddonol ar y Cyd. Byddwch hefyd yn rhan o rota ar alwad ac yn unol â hynny, mae'n bosibl y bydd angen i chi weithio y tu allan i oriau arferol, gan gynnwys ar benwythnosau.
Pa sgiliau a phrofiad y mae angen i chi eu cynnig i'r rôl:
Sgiliau Hanfodol
Oherwydd natur y gwaith a'r delweddau a gynhyrchir yn yr Uned, rhaid i Ddeiliad y Swydd fod yn ymwybodol y gallant fod o natur sensitif iawn ac weithiau'n drallodus. Swydd llawn amser, barhaol yw hon.
Mae'r Uned Ymchwilio Gwyddonol ar y Cyd yn drefniant cydweithredol rhwng Heddlu Gwent a Heddlu De Cymru i ddarparu gwasanaethau gwyddonol i'r ddau heddlu.
Os ydych yn rhan o ymchwiliad gan yr Adran Safonau Proffesiynol sy'n dal i fynd rhagddo, ni fyddwch yn gymwys i wneud cais am y rôl hon.
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch ag Alex Mcfetrich ar: 01656 655555 est 70653
Mae sawl mantais i weithio i Heddlu De Cymru, o gyfleoedd dysgu a datblygu i gynlluniau y bwriedir iddynt wella eich ffordd o fyw a'ch llesiant, yn ogystal â Chynllun Pensiwn Llywodraeth Leol/Cynlluniau Pensiwn yr Heddlu sy'n hael iawn, gwyliau blynyddol â thâl, gweithio hyblyg a pholisïau sy'n ystyriol o deuluoedd a llawer mwy, cliciwch yma i gael rhagor o wybodaeth.
Eich tro cyntaf yn gwneud cais am rôl gyda Heddlu De Cymru? Gwnewch yn siŵr eich bod yn darllen ein canllawiau ar wneud cais er mwyn cael cynghorion ac awgrymiadau defnyddiol ynglŷn â'r ffurflen gais a'r hyn i'w ddisgwyl, cliciwch yma i gael rhagor o wybodaeth. Noder, rhaid i'r ymgeisydd llwyddiannus fod yn barod i ymgymryd â phroses fetio hyd at y lefel ofynnol.
Ni ellir gwneud cais am y cyfle hwn.