Cofrestru diddordeb yn Ymgyrch Llwybr Carlam i Dditectif Heddlu De Cymru

Cyfleoedd Swyddi Gwag yn y Dyfodol

Heddlu De Cymru
Swyddi Swyddogion Heddlu yn y Dyfodol
Ledled yr Heddlu

Rydym yn cynnig cyfle cyffrous i ddilyn ein Rhaglen Garlam i rôl Ditectif. Ar ôl dilyn hyfforddiant cychwynnol yr Heddlu a chyrraedd cerrig milltir allweddol, byddwch yn gweithio mewn rôl Ymchwilydd dan Hyfforddiant cyn dilyn hyfforddiant ymchwilio uwch a lleoliadau arbenigol er mwyn datblygu'r meddylfryd ymchwilio. 

Rydym yn cynnig cyfle newydd cyffrous i gofrestru eich diddordeb mewn bod yn Dditectif yn barod ar gyfer ein hymgyrch Llwybr Carlam i Dditectif nesaf ym 31st Ionawr 2022.

Yn dilyn eich cofrestriad byddwn yn eich gwahodd chi i sesiwn ymgyfarwyddo lle cewch gyfle i gael cipolwg ar rôl Swyddog Heddlu a dysgu mwy am y cymorth sydd ar gael gan ein Tîm Cynrychioli'r Gweithlu. Byddwch hefyd yn clywed gan ein hadrannau recriwtio, iechyd galwedigaethol a fetio a fydd yn mynd drwy'r broses ymgeisio a'r camau cyn cyflogaeth.
Bydd hefyd yn gyfle i chi holi unrhyw gwestiynau am y rôl, y broses recriwtio neu am Heddlu De Cymru.
Gobeithiwn y bydd y digwyddiad yn eich galluogi i wneud penderfyniad gwybodus ynghylch a ydy rôl Swyddog Heddlu yn addas i chi ac 'os gallwch fod y gwahaniaeth rydych eisiau bod'.


Digwyddiadau Ymgyfarwyddo Ar-lein yr Heddlu 4ydd Ionawr 2022 6.00pm-8.00pm

NODWCH: NID YW HYN YN YMGYRCH ACTIF RECRIWTIO – MAE HYN OND I CHI COFRESTRU EICH DIDDORDEB YN YMGYRCH DYFODOL RECRIWTIO I SWYDDOGION HEDDLU.

Ni ellir gwneud cais am y cyfle hwn.