Ymgyrch Cwnstabliaid Myfyrwyr Heddlu De Cymru Mai 2022

Heddlu De Cymru
Swyddog Heddlu
Ledled yr Heddlu
Swyddog Heddlu
40
2

01/06/22 13:00

Ydych chi'n chwilio am yrfa newydd, amrywiol a gwerth chweil? Os felly, rydym yn recriwtio swyddogion yr heddlu i ymuno â Heddlu De Cymru. Beth am ymuno â thîm #HDC?

Mae Heddlu De Cymru yn dîm heb ei debyg, sy'n cydweithio i gadw De Cymru'n ddiogel. Mae gyrfa mewn plismona yn gofyn am fedrusrwydd, tosturi, arweinyddiaeth, blaengaredd a gwir ddymuniad i wneud gwahaniaeth mewn cymdeithas. Gall y rôl fod yn heriol, a bydd angen i chi fod yn wydn ac yn ddyfeisgar.  Mae cymorth ar gael, ond mae angen ymrwymiad cadarn ar daith sy'n gofyn am gydbwyso gofynion academaidd a rôl newydd mewn gwasanaeth plismona sy'n gweithredu ddydd a nos. Mae'n swydd heb ei thebyg ac rydym yn chwilio am bobl â sgiliau a phrofiadau amrywiol i ymuno â'n tîm llwyddiannus.


Os yw hyn yn apelio i chi, mae bellach mwy o ffyrdd nag erioed o ymuno â ni fel swyddog yr heddlu.

Pa lwybr y byddwch yn ei ddewis?

Prentisiaeth Gradd Cwnstabliaid yr Heddlu (PCDA):
Prentisiaeth gradd broffesiynol tair blynedd yw hon. Ar ôl ei chwblhau, bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn ennill Gradd mewn Ymarfer Plismona Proffesiynol. Er mwyn gwneud cais ar gyfer y PCDA, rhaid bod ymgeiswyr wedi ennill cymhwyster Lefel 3 (sef dau gymhwyster Safon Uwch neu gymhwyster cyfatebol)
neu wedi cwblhau'r asesiad cyfrifo a rhesymu llafar ar-lein yn llwyddiannus. Mae angen i brentisiaid sy'n cael eu penodi feddu ar TGAU Gradd A-C mewn Mathemateg a Saesneg, neu gymhwyster cyfatebol Lefel 2. Fel arall, bydd angen iddynt gwblhau'r cymhwyster Sgiliau Hanfodol yn ystod eu hyfforddiant er mwyn bodloni gofyniad y Cynllun Prentisiaeth. Bydd Heddlu De Cymru yn talu'r holl ffioedd cwrs sy'n gysylltiedig â'r llwybr mynediad hwn. Mae'r PCDA yn golygu y cewch gyfle i ennill cyflog wrth ddysgu ac ennill gradd.

Rhaglen Mynediad i Raddedigion (DHEP):
Mae'r Rhaglen Mynediad i Raddedigion ar gyfer y rhai hynny sydd eisoes â gradd mewn unrhyw faes pwnc ond sydd am ymuno â'r heddlu. Rhaglen dwy flynedd yw hon sy'n cyfuno dysgu ymarferol mewn swydd a chymhwysedd gweithredol gyda dysgu academaidd. Ar ôl cwblhau'r rhaglen, bydd ymgeiswyr llwyddiannus hefyd yn ennill Diploma mewn Ymarfer Plismona Proffesiynol. Bydd yr heddlu'n talu'r holl ffioedd cwrs sy'n gysylltiedig â'r llwybr mynediad hwn.

Y cyflog cychwynnol ar gyfer y ddau lwybr fydd £21,654 a chynyddu i £27,030 ar ôl cwblhau eich cyfnod prawf yn llwyddiannus.

Pa bynnag lwybr y byddwch yn ei ddewis, bydd disgwyl i chi gyrraedd yr un lefel o gymhwysedd proffesiynol erbyn diwedd eich cyfnod prawf.

Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael y lefel uchaf o hyfforddiant a chymorth a gallwch ddisgwyl rhagolygon gyrfa a buddion ardderchog. Gweler ein gwefan i gael rhagor o fanylion.  Byddwch yn treulio eich chwe mis cyntaf yn dilyn rhaglen hyfforddi lle byddwch yn dysgu'r ddeddfwriaeth a'r prosesau perthnasol ochr yn ochr â sgiliau technegol megis Hyfforddiant Diogelwch Personol, Cymorth Cyntaf a systemau cyfrifiadurol yr Heddlu. Wedyn byddwch yn cael eich lleoli (gyda thiwtor sy'n gwnstabl i ddechrau) gyda thîm ymateb mewn lifrai gan weithio patrwm o sifftiau sy'n cylchdroi yn ystod y dydd (0700-1700), wedyn yn y prynhawn (1500-2300 neu tan 0300 ar ddydd Gwener / dydd Sadwrn) ac wedyn gyda'r nos (2200-0700) saith diwrnod yr wythnos wedi'u dilyn gan bedwar diwrnod gorffwys. Bydd hyn yn cynnwys Gwyliau Cyhoeddus.

Yn ystod eich cyfnod prawf o ddwy neu dair blynedd, bydd yn ofynnol i chi ddangos eich cymhwysedd gweithredol drwy ddelio ag amrywiaeth o wahanol ddigwyddiadau'r Heddlu. Bydd hefyd yn ofynnol i chi ennill y cymhwyster gradd academaidd perthnasol mewn Plismona a gyflwynir gan Brifysgol bartner ddethol yr Heddlu (Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant) a fydd yn gofyn i chi gwblhau 280 awr o astudio y flwyddyn yn eich amser eich hun.

Bydd hyn yn cyfateb, fwy neu lai, i un diwrnod gorffwys ym mhob set o bedwar. Mae'r rhaglen hon yn rhoi boddhad mawr ond mae'n heriol ac, er y bydd yr heddlu yn rhoi rhywfaint o amser dysgu a ddiogelir i chi, bydd angen i chi ymgymryd â chryn dipyn o astudio preifat.

Mae'n rhaid i ymgeiswyr gwblhau elfennau gweithredol ac academaidd y rhaglen yn llwyddiannus er mwyn iddynt gael eu cadw ar ôl eu cyfnod prawf.

Bydd elfennau academaidd yn cynnwys arholiadau, aseiniadau a phrosiect ymchwil/traethawd hir.


Mae Heddlu De Cymru yn annog unigolion o grwpiau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol i ymuno fel bod modd i ni sicrhau gweithlu sy'n cynrychioli'r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu.

Noder y dylai pob ymgeisydd lanlwytho'r dystysgrif ar gyfer y cymhwyster ar y lefel uchaf cyn i chi allu cyflwyno eich cais.  Os nad oes gennych dystysgrif ddilys, rhaid i chi gael gafael ar lythyr sy'n cadarnhau eich canlyniadau cyn dechrau arni yn y ganolfan asesu. Os byddwch yn ennill cymhwyster uwch yn ystod y broses recriwtio, sicrhewch eich bod yn anfon y dystysgrif atom cyn gynted â phosibl er mwyn i ni allu diwygio eich cais yn briodol.

Hefyd, bydd angen i bob ymgeisydd fodloni'r Meini prawf ar gyfer rôl cwnstabl yr heddlu 2020.pdf a gaiff eu pennu'n genedlaethol.

Bydd ymgeiswyr sy'n llwyddiannus yn y cam sifftio papur yn cael eu gwahodd i fynychu sesiwn prawf ffitrwydd ffug ddydd Sadwrn yr 21ain o Fai, byddwn yn rhoi mwy o fanylion i chi yn nes at yr amser ond edrychwch ar y ddolen ganlynol mewn perthynas â'r safon genedlaethol:-

https://www.joiningthepolice.co.uk/how-to-apply/whats-involved-in-the-medical-and-fitness-tests/preparing-for-the-fitness-test


Ydych chi'n teimlo y gallech gyflawni'r rôl hon? Dyma beth arall sydd angen i chi ei wybod.


Bydd y broses gwneud cais yn dechrau am 09:00 ar 03/05/2022 ac yn cau am 12:00 hanner dydd ar 10/05/22.  Nodwch fod disgwyl i'r ymateb i'r hysbyseb hon fod yn uchel ac mae Heddlu De Cymru yn cadw'r hawl i gau'r broses gwneud cais yn gynnar pan fyddwn wedi cael digon o geisiadau. Dim ond ceisiadau wedi'u cwblhau a gaiff eu derbyn bryd hynny, felly dylai ymgeiswyr ystyried hyn ac fe'u cynghorir i gwblhau'r cais yn gynnar a'i gyflwyno'n llawn.


Noder nad yw'r profion ar-lein yn gweithio ar ddyfeisiau llaw e.e. llechen neu ffôn symudol felly rhaid eu cwblhau ar liniadur/cyfrifiadur. Noder hefyd y gallwn ond ailosod prawf unwaith. Fe'ch cynghorir hefyd i gofrestru a chwblhau'r broses gwneud cais ar yr un ddyfais er mwyn osgoi problemau.

Dilynwch y cyfarwyddiadau er mwyn cwblhau a chyflwyno'r cais ar-lein cyn y dyddiad cau. Ni chaiff ceisiadau hwyr eu hystyried.

Nodwch, os byddwch yn gwneud cais ac yn cael eich penodi drwy lwybr mynediad PCDA fel eich lefel uchaf o gymhwyster, nid ydych yn gymwys i drosglwyddo i'r llwybr DHEP os byddwch yn cyflawni gradd ar ôl penodi.  Os byddwch yn cyflawni eich gradd cyn penodi, gallwch wneud cais i drosglwyddo eich cais i biblinell ymgeisydd DHEP.

Rhaid i ymgeiswyr sy'n gofyn am addasiadau rhesymol ar gyfer y ganolfan asesu allu darparu tystiolaeth i gefnogi'r cais. Dylai ymgeiswyr sy'n ymholi am addasiadau rhesymol ychwanegol wneud hynny drwy gysylltu â thîm Recriwtio'r adran Adnoddau Dynol (e-bost isod).


Bydd angen i holl ddarpar swyddogion yr heddlu gymryd rhan mewn proses Fetio Biometrig e.e. er mwyn darparu samplau o olion bysedd – gweler y canllawiau sydd wedi'u hatodi.


Disgwyliwn y bydd yr asesiad yn cael ei gynnal yn ystod wythnos gyntaf 24 Mai 2022. Pan fydd y dyddiadau wedi'u cadarnhau, noder mai'r rhain fydd yr unig ddyddiadau a fydd ar gael ar gyfer yr ymgyrch recriwtio hon.

Ceidw Heddlu De Cymru yr hawl i gyfyngu ar nifer yr ymgeiswyr a ddaw i'r ganolfan asesu, ac felly hefyd y niferoedd a gaiff eu derbyn yn unol â'r gofynion sefydliadol.  Mae hyn yn golygu y gallech gael eich clustnodi i ganolfan asesu yn y dyfodol.

Noder bod y ganolfan asesu yn rhan o'r safonau recriwtio cenedlaethol a osodir gan y Coleg Plismona. Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar ei wefan drwy'r ddolen ynghlwm: -

h


ttps://recruit.college.police.uk/Officer/after-I-apply/Pages/Constables-Assessment-Centre.aspx
Cyfeiriwch at ein gwefan i gael y manylion llawn am yr hyn y mae'r rôl yn ei olygu, y meini prawf cymhwysedd, y broses gwneud cais ac atebion i nifer o'r cwestiynau cyffredin sydd gennych o bosibl.

Os na allwch ddod o hyd i'r atebion rydych yn chwilio amdanynt, gallwch hefyd e-bostio eich ymholiadau i dîm Recriwtio'r adran Adnoddau Dynol yn HR-Policeofficercampaigns@south-wales.police.uk neu ffonio 01656 869225.

Yr oriau agor ar gyfer ymholiadau yw rhwng 9am a 5pm o ddydd Llun i ddydd Iau a rhwng 9am a 4.30pm ar ddydd Gwener.

Cliciwch yma i gael gwybodaeth am sut i gwblhau ein proses ymgeisio ar-lein'

Ni ellir gwneud cais am y cyfle hwn.