Ymgyrch Llwybr Carlam i Dditectif De Cymru Mai 22

Heddlu De Cymru
Swyddog Heddlu
Ledled yr Heddlu
Ditectif Gwnstabl
40
2

13/05/22 12:00

Ydych chi am ddilyn gyrfa ym maes ymchwiliadau?

Ydych chi am wneud gwahaniaeth gwirioneddol i bobl a chymunedau De Cymru?

Rydym yn cynnig cyfle cyffrous i ddilyn ein Rhaglen Garlam i rôl Ditectif. Ar ôl dilyn hyfforddiant cychwynnol yr Heddlu a chyrraedd cerrig milltir allweddol, byddwch yn gweithio mewn rôl Ymchwilydd dan Hyfforddiant cyn dilyn hyfforddiant ymchwilio uwch a lleoliadau arbenigol er mwyn datblygu'r meddylfryd ymchwilio.

Mae Ditectifs yn gyfrifol am ymchwilio i droseddau difrifol a chymhleth a byddant yn rheoli amrywiaeth o ymchwiliadau o'r dechrau i'r diwedd.

Mae'n wir, gall y rôl fod yn heriol a bydd angen i chi fod yn wydn, ond dyma un o'r swyddi mwyaf gwerth chweil posibl. Drwy gydol y cyfnod hwn, bydd ymgeiswyr yn cael y lefel uchaf o hyfforddiant a chymorth. Cyflwynwyd y PEQF (Fframwaith Cymwysterau Addysg Plismona) ddwy flynedd yn ôl fel fframwaith proffesiynol newydd i hyfforddi swyddogion a staff yr heddlu. Mae'r fframwaith yn seiliedig ar gwricwlwm modern newydd sy'n cyd-fynd â'r lefelau addysg a bennwyd yng Nghymru a Lloegr sy'n cefnogi'r broses o ddatblygu plismona fel proffesiwn. Mae'r fframwaith proffesiynol yn cwmpasu llwybrau arbenigol i blismona, ac rydym yn cynnig cyfle cyffrous i gymryd rhan yn ein Rhaglen Mynediad i Raddedigion.

Rhaglen seiliedig ar waith dros ddwy flynedd yw hon, wedi'i chefnogi gan ddysgu mewn swydd a dysgu y tu allan i'r gwaith.

Bydd gofyn i'r ymgeiswyr llwyddiannus gwblhau'r rhaglen PIP 2 Genedlaethol, sy'n gofyn i Ymchwilwyr dan Hyfforddiant lwyddo yn yr Arholiad Ymchwilwyr Cenedlaethol. Mae'r arholiad hwn wedi'i ddylunio i sicrhau bod gan unigolion y wybodaeth gywir, y ddealltwriaeth gywir a'r sgiliau cywir i gymhwyso'r gyfraith a'r weithdrefn berthnasol er mwyn perfformio'n effeithiol fel ditectif.

Ar ôl i ymgeiswyr lwyddo yn yr arholiad hwn, byddant yn cwblhau eu hyfforddiant ac yn parhau i weithio tuag at ddod yn Dditectif Gwnstabl achrededig.

Y cyflog cychwynnol ar gyfer y ddau lwybr yw £21,654 ac mae'n cynyddu i £27,030 ar ôl cwblhau eich cyfnod prawf yn llwyddiannus.

Ar gyfer yr ymgyrch hon, rydym yn derbyn ymgeiswyr ym mlwyddyn olaf rhaglen radd.  Os ydych yn gwneud cais yn eich blwyddyn olaf, bydd angen i chi lanlwytho tystiolaeth gan eich Darparwr Addysg Uwch yn lle'r dystysgrif gradd lawn.

Os ydych eisoes wedi cyflawni neu ym mlwyddyn olaf y Radd Plismona Proffesiynol BSC/BA, ni fyddwch yn gymwys ar gyfer y llwybr mynediad hwn.

Bydd angen i ymgeiswyr hefyd fodloni'r meini prawf cymhwysedd ar gyfer Swyddogion yr Heddlu. Ymunwch a helpwch ni i fod y gorau o ran deall ac ymateb i anghenion ein cymunedau.

Mae Heddlu De Cymru yn croesawu'n benodol ymgeiswyr o grwpiau wedi'u tangynrychioli.

Ymunwch â ni er mwyn ein helpu i fod y gorau am ddeall anghenion ein cymunedau ac ymateb iddynt.


Ydych chi'n credu eich bod yn addas ar gyfer y rôl? Dyma'r wybodaeth ychwanegol sydd ei hangen arnoch:


Bydd y ceisiadau'n agor rhwng 9am ar 3 Mai 2022 a hanner dydd ar 10 Mai 2022.

Bydd ymgeiswyr sy'n llwyddiannus yn y cam sifftio papur yn cael eu gwahodd i fynychu sesiwn prawf ffitrwydd ffug ddydd Sadwrn yr 21ain o Fai, byddwn yn rhoi mwy o fanylion i chi yn nes at yr amser ond edrychwch ar y ddolen ganlynol mewn perthynas â'r safon genedlaethol:-

https://www.joiningthepolice.co.uk/how-to-apply/whats-involved-in-the-medical-and-fitness-tests/preparing-for-the-fitness-test

Nodwch fod disgwyl i'r ymateb i'r hysbyseb hon fod yn uchel ac mae Heddlu De Cymru yn cadw'r hawl i gau'r broses gwneud cais yn gynnar pan fyddwn wedi cael digon o geisiadau.

Dilynwch y cyfarwyddiadau i gwblhau a chyflwyno'r cais ar-lein cyn y dyddiad cau. Ni chaiff ceisiadau hwyr eu hystyried.


Os ydych wedi gwneud cais i fod yn swyddog heddlu ar gyfer Heddlu De Cymru neu unrhyw heddlu arall yn ystod y tri mis diwethaf, ac nad oeddech yn llwyddiannus yn y ganolfan asesu, ni fyddwch yn gymwys i wneud cais y tro hwn.

Nodwch y canlynol os ydych yn cyflwyno ceisiadau i fwy nag un ymgyrch recriwtio i fod yn Swyddog yr Heddlu ar yr un pryd: gofynnir i chi ddewis y cais yr hoffech barhau ag ef. Bydd hyn yn cynnwys pob llwybr mynediad arall fel Swyddog yr Heddlu i Heddlu De Cymru yn ogystal â heddluoedd eraill.


Dylai ymgeiswyr sy'n ymholi am addasiadau rhesymol wneud hynny drwy gysylltu â thîm Recriwtio'r adran AD (gan ddefnyddio'r cyfeiriad e-bost isod).


Caiff y Ganolfan Asesu ei chynnal yn gynnar ym mis  24 – 31 Mai 2022. Noder mai'r rhain fydd yr unig ddyddiadau sydd ar gael ar gyfer yr ymgyrch recriwtio hon.

Mae'r Ganolfan Asesu'n rhan o'r safonau recriwtio cenedlaethol a osodir gan y Coleg Plismona. Mae manylion am broses gyfredol y Ganolfan Asesu yn ogystal â gwybodaeth ychwanegol ar gael drwy'r ddolen ganlynol:
https://recruit.college.police.uk/Officer/after-I-apply/Pages/Constables-Assessment-Centre.aspx

Bydd Asesiad penodol ar gyfer Ditectifs yn dilyn y Ganolfan Asesu.

Ewch i wefan Heddlu De Cymru i gael manylion llawn am yr hyn y mae'r rôl yn ei chynnwys, y meini prawf cymhwysedd, y broses gwneud cais ac atebion i'r cwestiynau cyffredin.


Ceidw Heddlu De Cymru'r hawl i gyfyngu ar nifer yr ymgeiswyr sy'n mynychu'r Ganolfan Asesu a'r niferoedd a gaiff eu derbyn yn dilyn hynny yn sgil gofynion sefydliadol.


Os na allwch ddod o hyd i'r atebion roeddech yn chwilio amdanynt, gallwch hefyd anfon eich ymholiadau dros e-bost i'r tîm Recriwtio AD yn HR-Policeofficercampaigns@south-wales.police.uk neu ffonio 01656 869225.

Gallwch drafod ymholiadau o ddydd Llun i ddydd Iau rhwng 9am a 5pm a rhwng 9am a 4.30pm ar ddydd Gwener.

Cliciwch yma i gael gwybodaeth am sut i gwblhau ein proses ymgeisio ar-lein'

Ni ellir gwneud cais am y cyfle hwn.