SWYDDI GWAG YN HEDDLU DE CYMRU Mai 2022
06/06/22 12:00
A oes gennych ddiddordeb mewn gwneud cais i fod yn Swyddog Cymorth Cymunedol yr Heddlu (PCSO) yn ardal Heddlu De Cymru? Rydym yn awyddus yn benodol os mae ceisiadau yn barod i weithio yn yr ardal Caerdydd.
Mae Swyddogion Cymorth Cymunedol yr Heddlu wrth wraidd ein cymunedau ac yn cyflawni rôl hanfodol drwy gysylltu'r gymuned leol â'r heddlu a sicrhau bod gan bawb y cymorth angenrheidiol.
Rydym bellach yn awyddus i gael ceisiadau gan unigolion o bob rhan o'r gymuned, a hoffem annog ceisiadau gan grwpiau lleiafrifol amrywiol.
Meini Prawf Gwneud Cais
Noder y bydd angen i chi lanlwytho tystiolaeth o'ch tystysgrif Mathemateg a Saesneg lefel 2 pan fyddwch yn cyflwyno eich cais. Os nad ydych yn meddu ar dystysgrif ddilys, rhaid i chi gael un cyn dechrau'r broses gwneud cais neu, fel arall, gallwch sefyll y prawf cyfrifo ac ymresymu ar lafar ar-lein.
Ydych chi'n teimlo y gallech gyflawni'r rôl hon? Dyma beth arall sydd angen i chi ei wybod.
• Bydd y broses gwneud cais yn dechrau am 9.00am 3 Mai 2022 ac yn cau am 12.00pm 3 Mehefin 2022.
• Noder nad yw'r profion ar-lein yn gweithio ar ddyfeisiau llaw e.e. llechen neu ffôn symudol felly rhaid eu cwblhau ar liniadur/cyfrifiadur. Fe'ch cynghorir hefyd i gofrestru a chwblhau'r broses gwneud cais ar yr un ddyfais er mwyn osgoi problemau.
• Os cewch unrhyw broblemau technegol wrth gwblhau'r profion, yna Heddlu De Cymru fydd yn penderfynu a fydd modd ailosod y prawf. Cofiwch, gallwn ond ailosod prawf unwaith.
• Sicrhewch eich bod yn dilyn y cyfarwyddiadau i gwblhau a chyflwyno'r cais ar-lein a'r dystysgrif ddilys cyn y dyddiad cau. Ni chaiff ceisiadau hwyr eu hystyried.
• Rhaid i ymgeiswyr y mae angen addasiadau rhesymol/darpariaeth arall arnynt i sefyll y prawf ar-lein neu yn ystod y cyfweliadau ar gyfer Swyddogion Cymorth Cymunedol yr Heddlu anfon e-bost i flwch post yr Adran Adnoddau Dynol – Recriwtio.
Ar ôl cwblhau'r profion ar-lein, cewch wybod a ydych wedi llwyddo neu fethu. Os byddwch yn llwyddo, cewch eich gwahodd i ddewis amser a dyddiad cyfweliad.
Gall Heddlu De Cymru cau y swydd hon yn gynnar os rydyn yn derbyn ddigon o ceisiadau. Dim ond ceisiadau sydd wedi gwblhau'n llawn fydd yn cael ei ystyried ar y pwynt hwnnw.
Mae Heddlu De Cymru yn cadw'r hawl i newid dyddiadau derbyn neu brofion yn ôl y gofyn a chyfyngu ar nifer yr ymgeiswyr sy'n cael cyfweliad oherwydd anghenion sefydliadol.
Cyfeiriwch at ein gwefan i gael y manylion llawn am yr hyn y mae'r rôl yn ei olygu, y meini prawf cymhwysedd, y broses gwneud cais ac atebion i nifer o'r cwestiynau cyffredin sydd gennych o bosibl.
Fel cyflogwr cyfle cyfartal, croesawn geisiadau gan bob person sy'n gymwys am y swydd. Fodd bynnag, gan fod ymgeiswyr o gefndiroedd pobl dduon, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig (BAME) yn cael eu tangynrychioli o fewn yr Heddlu ar hyn o bryd, byddem yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr BAME yn enwedig. Os hoffech drafod y cyfleoedd ymhellach, y cymorth a gynigir, a'r ymgyrch recriwtio sydd i ddod, cysylltwch â'n Tîm Gweithle Cynrychioliadol drwy e-bostio Joinus@south-wales.police.uk.
Os na allwch ddod o hyd i'r atebion rydych yn chwilio amdanynt, e-bostiwch hr-recruitment@south-wales.police.uk.
Ni ellir gwneud cais am y cyfle hwn.