CWNSTABL GWIRFODDOL

Heddlu De Cymru
Swyddogion Gwirfoddol
Heddlu Gwirfoddol
Heddlu De Cymru
Ledled yr Heddlu
16
Parhaol
2

14/11/22 12:00

Oes gennych chi ddiddordeb mewn bod yn Gwnstabl Gwirfoddol?

Gallwch chwarae rôl hanfodol i'n helpu i gyflawni blaenoriaethau plismona ar gyfer De Cymru. Mae bod yn Gwnstabl Gwirfoddol yn cynnig profiad boddhaus a phleserus lle mae gwirfoddolwyr yn teimlo bod eu hangen, eu bod yn cael eu gwerthfawrogi ac yn cael eu datblygu. 

Mae Cwnstabliaid Gwirfoddol yn Swyddogion â gwarant sy'n gwneud gwaith gwerthfawr ac yn creu cyswllt hanfodol rhwng yr heddlu rheolaidd a'u cymunedau lleol. Fel Cwnstabl Gwirfoddol, byddwch yn diogelu ac yn rhoi tawelwch meddwl i bobl De Cymru law yn llaw â swyddogion rheolaidd. Mae gan Gwnstabliaid Gwirfoddol yr un pwerau â Chwnstabl yr Heddlu rheolaidd, maent yn cario'r un offer, yn gwisgo'r un lifrai ac yn dal yr un pwerau i fynychu'r un galwadau. Bydd disgwyl i chi ymrwymo i leiafswm o 16 awr o wasanaeth y mis a bydd eich penodiad yn amodol ar gyfnod prawf o 2 flynedd. Yn ystod y cyfnod hwn, mae'n rhaid i chi gwblhau pob elfen o'ch hyfforddiant a chael ardystiad eich bod yn barod i fynd ar batrôl annibynnol. 

Meini prawf y cais

Noder bod rhaid uwchlwytho tystysgrif eich cymhwyster lefel uchaf ar yr un adeg ag y byddwch yn cyflwyno'ch cais. Os nad oes gennych dystysgrif ddilys, mae'n rhaid i chi gael un cyn dechrau'r broses ymgeisio. 

Barod am yr her? Dyma beth arall sydd angen i chi ei wybod. 

•    Bydd y broses gwneud cais yn mynd yn fyw am 9 y bore ar 5 Medi 2022 ac yn gau am 12 yn y prynhawn ar 4 Hydref 2022.
•    Noder nad yw'r profion ar-lein yn addas i'w cwblhau â dyfeisiau llaw e.e. llechen neu ffôn symudol, felly mae'n rhaid eu cwblhau ar gyfrifiadur/gliniadur. Hefyd, dylech gofrestru a chwblhau'r broses ymgeisio ar yr un ddyfais er mwyn osgoi problemau cydweddoldeb. 
•    Os cewch unrhyw broblemau technegol wrth gwblhau'r profion, bydd y penderfyniad i ailosod y prawf yn cael ei wneud yn ôl disgresiwn Heddlu De Cymru. Noder, gallwn ond ailosod y prawf unwaith. 
•    Sicrhewch eich bod yn dilyn y cyfarwyddiadau ar gwblhau a chyflwyno'r cais ar-lein a'r dystysgrif berthnasol cyn y dyddiad cau. Ni chaiff ceisiadau hwyr eu hystyried. 
•    Mae'n rhaid i ymgeiswyr sydd angen addasiadau/trefniadau rhesymol ar gyfer y prawf ar-lein neu yn ystod y broses gyfweld ar gyfer Cwnstabliaid Gwirfoddol e-bostio Recriwtio Adnoddau Dynol. 
Yn dilyn cwblhau'r profion ar-lein byddwch yn cael gwybod a ydych wedi llwyddo neu wedi methu. Os ydych yn llwyddo, byddwch yn cael eu gwahodd i ddewis amser a dyddiad ar gyfer cyfweliad.

Bydd rhaid i chi fod ar gael ar gyfer un o'r dyddiadau canlynol ar gyfer pob asesiad;

Derbyn – Mawrth 2022 

Mae Heddlu De Cymru yn cadw'r hawl i newid dyddiadau'r profion neu'r rhai sy'n cael eu derbyn fel y bo angen a chyfyngu ar nifer yr ymgeiswyr sy'n mynd i'r cyfweliadau yn unol ag anghenion y sefydliad. 

Ewch i'n gwefan i gael manylion llawn am y rôl, meini prawf cymhwysedd, y broses ymgeisio ac atebion i nifer o'r cwestiynau cyffredin sydd gennych efallai.

Fel cyflogwr cyfle cyfartal, rydym yn croesawu ceisiadau gan bob person sy'n gymwys am y swydd. Fodd bynnag, gan fod ymgeiswyr o gefndiroedd pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig (BAME) yn cael eu tangynrychioli o fewn yr Heddlu ar hyn o bryd, byddem yn enwedig yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr BAMEOs hoffech drafod y cyfleoedd ymhellach, y cymorth a gynigir a'r ymgyrch recriwtio sydd i ddod, cysylltwch â'n Tîm Gweithlu Cynrychioliadol yn Joinus@south-wales police.uk.

Os na allwch ddod o hyd i'r atebion rydych yn chwilio amdanynt, ffoniwch 01656 869225 neu e-bostiwch hr-recruitment@south-wales.police.uk. 

Rydym ar agor o ddydd Llun i ddydd Iau rhwng 9am a 5pm a dydd Gwener rhwng 9am a 4.30pm. 

Cliciwch yma i gael gwybodaeth am sut i gwblhau ein proses ymgeisio ar-lein'

Ni ellir gwneud cais am y cyfle hwn.