Cynorthwyydd Gweinyddol

Heddlu De Cymru
Staff Heddlu
K Crime & Criminal Justice
Gwasanaethau Cyfiawnder
Bae Caerdydd
SC23
£23,154.00 - £24,462.00
Llawn Amser
37
Parhaol
2

12/04/24 15:00

Hoffech chi gael gyrfa heb ei hail? Os felly... YmunwchâNi 

Mae Heddlu De Cymru yn dod â miloedd o bobl ynghyd sydd â'r un nod – cadw De Cymru yn ddiogel. 

Rydym am sicrhau mai ni yw'r gorau am ddeall ac ymateb i anghenion ein cymunedau. I wneud hyn, mae angen i'r ymgeiswyr gorau o amrywiaeth eang o gefndiroedd wneud cais i ymuno â'n teulu plismona. 

Rydym yn chwilio am rywun i #YmunoÂNi fel cynorthwyydd gweinyddol yn ein huned moduro.  Ai chi yw'r un rydym yn chwilio amdano? 

Y tîm/Adran y byddwch yn ymuno ag ef/hi: 

Mae'r Uned Foduro yn Uned ganolog sy'n rheoli ffeiliau erlyn ar gyfer troseddau traffig ar gyfer De Cymru gyfan, a gweinyddu tocynnau cosb benodedig, rheoli penderfyniadau y tu allan i'r llys, yn ogystal â llawer o swyddogaethau gweinyddol eraill. 

Y rôl a'ch prif gyfrifoldebau: 

Mae'r rôl hon yn cynnwys rheoli nifer o swyddogaethau gweinyddol megis creu Hysbysiadau Gweithdrefn Un Ynad, prosesu tocynnau cosb benodedig a Datgeliad Traffig Ffyrdd. Bydd y rôl yn cynnwys cydweithio â nifer o bartneriaid Cyfiawnder Troseddol allanol a chydweithwyr mewnol ar draws Heddlu De Cymru. 

Pa sgiliau a phrofiad y mae angen i chi eu cynnig i'r rôl:

Byddwch yn unigolyn hunan-gymhellol gyda sgiliau cyfathrebu ysgrifenedig a llafar rhagorol gyda'r gallu i feithrin perthnasoedd proffesiynol. Byddwch yn arddangos ethos o welliant parhaus a sgiliau datrys problemau cryf.

Rydym yn croesawu ymgeiswyr sy'n awyddus ac yn frwdfrydig ac yn gweithio'n dda mewn tîm. 

Mae buddiannau niferus yn gysylltiedig â gweithio i Heddlu De Cymru, o gyfleoedd dysgu a datblygu i gynlluniau sydd â'r nod o wella eich ffordd o fyw a'ch llesiant, yn ogystal â Chynllun Pensiwn Llywodraeth Leol / Cynlluniau Pensiwn yr Heddlu hael, gwyliau blynyddol â thâl, gweithio hyblyg a pholisïau cyfeillgar i deuluoedd a llawer mwy, cliciwch yma i gael rhagor o wybodaeth.

Mae'n rhaid i'r ymgeisydd llwyddiannus fod yn fodlon cael ei fetio hyd at Lefel RV.

Mae’r rol hon yn addas ar gyfer gweithwyr rhan amser/thaglen swydd 

Noder, os ydych yn destun ymchwiliad PSD parhaus, efallai y bydd eich apwyntiad neu leoliad yn y rôl yn cael eu gohirio wrth aros am ganlyniad. Bydd p'un a yw'r rôl yn cael ei chadw'n agored yn cael ei hystyried fesul achos

Os hoffech gael rhagor o wybodaeth am y rôl, cysylltwch â Melanie Tidy

07584 003941 

Eich tro cyntaf yn gwneud cais am rôl gyda Heddlu De Cymru? Gwnewch yn siŵr eich bod yn darllen ein canllawiau ar wneud cais er mwyn cael cynghorion ac awgrymiadau defnyddiol ynglŷn â'r ffurflen gais a'r hyn i'w ddisgwyl, cliciwch yma i gael rhagor o wybodaeth. Noder, bydd yn rhaid i'r ymgeisydd llwyddiannus fod yn barod i ymgymryd â phroses fetio hyd at y lefel ofynnol.

Cliciwch yma i gael gwybodaeth am sut i gwblhau ein proses ymgeisio ar-lein'

Ni ellir gwneud cais am y cyfle hwn.