Heddlu De Cymru Yn Ymuno A Gradd Mewn Ymgyrch Plismona Proffesiynol Ionawr 2023

Heddlu De Cymru
Swyddog Heddlu
Ledled yr Heddlu
Swyddog Heddlu
40
2

01/03/23 12:00

Ydych chi am ddilyn gyrfa gyda Heddlu De Cymru?

Ydych chi am wneud gwahaniaeth gwirioneddol i bobl a chymunedau De Cymru?

Ydych chi wedi ennill Gradd Cyn Ymuno ym maes Plismona Proffesiynol neu a ydych yn eich blwyddyn olaf?

Os felly, mae hwn yn gyfle i ymuno ag un o'r heddluoedd sy'n perfformio orau yn y du.

Mae Heddlu De Cymru yn dod â miloedd o bobl at ei gilydd sy'n rhannu'r un nod – cadw De Cymru'n ddiogel. Bydd Heddlu De Cymru yn dechrau llwybr newydd cyffrous er mwyn i bobl ddod yn swyddogion yr heddlu yn 2023. Mae gyrfa plismona yn gofyn am sgiliau, cyfrifoldeb, arweinyddiaeth, mentergarwch ac awydd gwirioneddol i wneud gwahaniaeth i gymdeithas.

Er mwyn bod yn gymwys i wneud cais i Heddlu De Cymru drwy'r llwybr hwn, mae'n rhaid i ymgeiswyr ennill eu Gradd Cyn Ymuno ym maes Plismona Proffesiynol cyn gwneud cais i ymuno â gwasanaeth yr heddlu. Neu, rhaid iddynt fod ym mlwyddyn olaf eu gradd ar adeg y cais ac ennill eu gradd cyn cael eu penodi. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael budd o raglen hyfforddiant mewn swydd fyrrach.

Rhaid bodloni'r gofynion cymhwysedd lleol a chenedlaethol o hyd ac nid yw ennill y radd yn gwarantu y bydd eich cais yn llwyddiannus.

Ar ôl i chi ymuno â Heddlu De Cymru, byddwch yn dechrau ar gyfnod prawf dwy flynedd ac, yn ystod y cyfnod hwn, byddwch yn ymgymryd â dysgu sy'n seiliedig ar ymarfer ac asesiadau pellach er mwyn dangos eich bod yn gymwys ar gyfer y rôl. Drwy gydol y cyfnod hwn, bydd ymgeiswyr yn cael y lefel uchaf o hyfforddiant a chymorth.

Cyflwynwyd y PEQF (Fframwaith Cymwysterau Addysg Plismona) ddwy flynedd yn ôl fel fframwaith proffesiynol newydd i hyfforddi swyddogion a staff yr heddlu. Mae'r fframwaith yn seiliedig ar gwricwlwm modern newydd sy'n cyd-fynd â'r lefelau addysg a bennwyd yng Nghymru a Lloegr sy'n cefnogi'r broses o ddatblygu plismona fel proffesiwn. Mae'r fframwaith proffesiynol yn cwmpasu llwybrau arbenigol i blismona, ac rydym yn cynnig cyfle cyffrous i gymryd rhan yn ein Rhaglen Mynediad i Raddedigion.

Mae Heddlu De Cymru yn croesawu'n benodol ymgeiswyr o grwpiau wedi'u tangynrychioli. 

Ymunwch â ni er mwyn ein helpu i fod y gorau am ddeall anghenion ein cymunedau ac ymateb iddynt.

Ydych chi'n credu eich bod yn addas ar gyfer y rôl? Dyma'r wybodaeth ychwanegol sydd ei hangen arnoch:


Bydd y broses yn agor rhwng 9am ar 23 Ionawr 2023 a 12pm ar 21 Chwefror 2023.

Bydd Heddlu De Cymru'n lleihau cyfnod yr hysbyseb ar adegau os bydd yn derbyn digon o geisiadau.

Dilynwch y cyfarwyddiadau i gwblhau a chyflwyno'r cais ar-lein cyn y dyddiad cau. Ni chaiff ceisiadau hwyr eu hystyried.


Os ydych wedi gwneud cais i ddod yn swyddog yr heddlu i Heddlu De Cymru neu unrhyw heddlu arall yn y tri mis diwethaf, ac nad oeddech yn llwyddiannus ar unrhyw gam o'r broses recriwtio, ni fyddwch yn gymwys i wneud cais ar yr achlysur hwn.

Nodwch y canlynol os ydych yn cyflwyno ceisiadau i fwy nag un ymgyrch recriwtio i fod yn Swyddog yr Heddlu ar yr un pryd: gofynnir i chi ddewis y cais yr hoffech barhau ag ef. Bydd hyn yn cynnwys pob llwybr mynediad arall fel Swyddog yr Heddlu i Heddlu De Cymru yn ogystal â heddluoedd eraill.


  • Dylai ymgeiswyr sy'n ymholi am addasiadau rhesymol wneud hynny drwy gysylltu â thîm Recriwtio'r adran AD (gan ddefnyddio'r cyfeiriad e-bost isod).

  • Caiff y Ganolfan Asesu ei chynnal yn gynnar ym 24 - 31 Mawrth 2023. Ar ôl i'r dyddiadau gael eu cadarnhau, dyma'r unig ddyddiadau fydd ar gael ar gyfer yr ymgyrch recriwtio hon.

Mae'r Ganolfan Asesu'n rhan o'r safonau recriwtio cenedlaethol a osodir gan y Coleg Plismona. Mae manylion am broses gyfredol y Ganolfan Asesu yn ogystal â gwybodaeth ychwanegol ar gael drwy'r ddolen ganlynol:
https://recruit.college.police.uk/Officer/after-I-apply/Pages/Constables-Assessment-Centre.aspx

Ewch i wefan Heddlu De Cymru i gael manylion llawn am yr hyn y mae'r rôl yn ei chynnwys, y meini prawf cymhwysedd, y broses gwneud cais ac atebion i'r cwestiynau cyffredin.

Er y gallwch wneud cais i ymuno â'r heddlu heb unrhyw allu yn y Gymraeg, disgwylir i bob Swyddog yr Heddlu newydd gyrraedd Cymraeg lefel 2 erbyn diwedd ei gyfnod prawf. Caiff ymgeiswyr gymorth i wneud hyn pan fyddant wedi dechrau yn eu swydd, ond mae croeso iddynt ddechrau dysgu Cymraeg cyn gwneud cais.


Os na allwch ddod o hyd i'r atebion roeddech yn chwilio amdanynt, gallwch hefyd anfon eich ymholiadau dros e-bost i'r tîm Recriwtio AD yn HR-Recruitment@south-wales.police.uk neu ffonio 01656 869225.

Gallwch drafod ymholiadau o ddydd Llun i ddydd Iau rhwng 9am a 5pm a rhwng 9am a 4.30pm ar ddydd Gwener.

Cliciwch yma i gael gwybodaeth am sut i gwblhau ein proses ymgeisio ar-lein'

Ni ellir gwneud cais am y cyfle hwn.