15/12/25 15:00
Hoffech chi gael gyrfa heb ei hail? Os felly... Ymunwch â Ni
Mae Heddlu De Cymru yn dod â miloedd o bobl ynghyd sydd â'r un nod – cadw De Cymru'n ddiogel.
Rydym am sicrhau mai ni yw'r gorau am ddeall ac ymateb i anghenion ein cymunedau. Er mwyn gwneud hyn, mae angen i'r ymgeiswyr gorau o amrywiaeth eang o gefndiroedd wneud cais i ymuno â'n teulu plismona.
Bydd bod yn rhan o #TîmHDC yn cynnig profiad dysgu unigryw i chi lle byddwch yn cyfrannu at brosiectau bywyd go iawn mewn amgylchedd cymhleth ac amrywiol. Rydym yn gwerthfawrogi unigoliaeth ac yn annog syniadau newydd a chreadigrwydd a fydd yn cyfrannu at ein llwyddiant fel heddlu ac yn gwneud gwahaniaeth i gymdeithas. Rydym yn chwilio am bobl sydd â sgiliau a phrofiadau amrywiol sy'n arloesol, yn frwdfrydig, yn uchelgeisiol ac, yn fwy na dim, yn unigolion talentog sy'n dyheu am fod yn arweinwyr y dyfodol ac yn awyddus i ymuno â'n tîm llwyddiannus.
Rydym yn chwilio am rywun i #YmunoÂNi fel Rheolwr Technegol Fforenseg Ddigidol, i fod yn gyfrifol am oruchwylio prosesau'r labordy fforenseg ddigidol a rheoli'r adran yn dechnegol. Ai chi yw'r un rydym yn chwilio amdano?
Y tîm/Adran y byddwch yn ymuno ag ef/hi:
Y rôl a'ch prif gyfrifoldebau:
Pa sgiliau a phrofiad y mae angen i chi eu cynnig i'r rôl:
Mae sawl mantais i weithio i Heddlu De Cymru, o gyfleoedd dysgu a datblygu i gynlluniau y bwriedir iddynt wella eich ffordd o fyw a'ch llesiant, yn ogystal â Chynllun Pensiwn Llywodraeth Leol / Cynlluniau Pensiwn yr Heddlu sy'n hael iawn, gwyliau blynyddol â thâl, gweithio hyblyg a pholisïau sy'n ystyriol o deuluoedd a llawer mwy, cliciwch yma i gael rhagor o wybodaeth.
Mae'n rhaid i'r ymgeisydd llwyddiannus fod yn fodlon cael ei fetio hyd at Lefel MV/SC
Sylwch, os ydych yn ymgeisydd mewnol ac yn destun ymchwiliad parhaus i PSD, efallai y bydd oedi cyn i'ch penodiad neu leoliad yn y rôl gael ei ohirio hyd nes y bydd canlyniad. Bydd p'un a yw'r rôl yn agored yn cael ei hystyried fesul achos
Os hoffech gael rhagor o wybodaeth am y rôl, cysylltwch â'r Ditectif Arolygydd Rob Ewin drwy e-bostio (Robert.Ewin@South-Wales.police.uk).
Ai dyma'r tro cyntaf i chi wneud cais am rôl gyda Heddlu De Cymru? Gwnewch yn siŵr eich bod yn darllen ein canllawiau ar wneud cais er mwyn cael cynghorion ac awgrymiadau defnyddiol ynglŷn â'r ffurflen gais a'r hyn i'w ddisgwyl, cliciwch yma i gael rhagor o wybodaeth. Noder, rhaid i'r ymgeisydd llwyddiannus fod yn barod i ymgymryd â phroses fetio hyd at y lefel ofynnol.
Ni ellir gwneud cais am y cyfle hwn.