Prentis Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant
30/03/23 15:00
Hoffech chi gael gyrfa heb ei hail? Os felly... YmunwchâNi
Mae Heddlu De Cymru yn dod â miloedd o bobl at ei gilydd sy'n rhannu'r un nod – cadw De Cymru'n ddiogel.
Mae Rhaglen Brentisiaeth Heddlu De Cymru yn gyfle ardderchog i chi os ydych yn awyddus i ddatblygu eich sgiliau gwaith yn ogystal ag ennill cymhwyster academaidd.
Bydd dod yn rhan o #TîmHDC yn cynnig profiad dysgu unigryw i chi lle byddwch yn cyfrannu at brosiectau bywyd go iawn mewn amgylchedd cymhleth ac amrywiol. Rydym yn gwerthfawrogi unigolrwydd ac yn annog syniadau newydd a chreadigrwydd a fydd yn cyfrannu at ein llwyddiant fel heddlu ac yn gwneud gwahaniaeth mewn cymdeithas. Rydym yn chwilio am bobl sydd â sgiliau a phrofiadau amrywiol sy'n arloesol, yn frwdfrydig, yn uchelgeisiol ac, yn fwy na dim, yn unigolion talentog sy'n dyheu am fod yn arweinwyr y dyfodol ac yn awyddus i ymuno â'n tîm llwyddiannus.
Rhaglen â thâl yw'r rhaglen brentisiaeth, ac fe'i cynhelir am gyfnod o 12 - 18 mis (yn ddibynnol ar fodloni gofynion y cymhwyster) gan ddechrau ym mis Medi 2023. Mae'n brentisiaeth lefel 3 a bydd disgwyl i chi gwblhau cymhwyster Lefel 3 ochr yn ochr â'ch gwaith gyda Heddlu De Cymru. Byddwch yn cael eich cefnogi drwy'r cwrs gan diwtor o'r coleg a gan eich tîm yn y gweithle. Ar ddiwedd y cymhwyster, byddwch yn gallu gwneud cais am rôl barhaol yn Heddlu De Cymru.
Darparu cymorth gweinyddol, cymorth prosiect a dyletswyddau dadansoddi ac ymchwil o ddydd i ddydd ar gyfer y tîm Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant.
Mae hwn yn gyfle datblygu i Cynorthwyydd Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant (EDI). I ddarparu gwasanaeth cymorth gweinyddol wrth weithio gyda Rhaglen Prentisiaethau Heddlu De Cymru.
Mae'r brentisiaeth yn cynnwys cwblhau gofynion cymhwyster prentisiaeth Lefel 3 mewn Gweinyddu Busnes.
Ymgeisydd rhaid meddu ar lefel dda o addysg hyd at lefel TGAU (A-C) o leiaf, sy'n cynnwys Mathemateg a Saesneg, neu allu dangos sgiliau a galluoedd cyfatebol.
Rhaid bod yn gymwys i gofrestru ar gyfer prentisiaeth Lefel 3 mewn Gweinyddu Busnes.
Mae buddiannau niferus i weithio i Heddlu De Cymru, o gyfleoedd dysgu a datblygu i gynlluniau sy'n anelu at wella eich ffordd o fyw a'ch llesiant, yn ogystal â Chynllun Pensiwn Llywodraeth Leol / Cynlluniau Pensiwn yr Heddlu hael, gwyliau blynyddol â thâl, gweithio hyblyg a pholisïau cyfeillgar i deuluoedd a llawer mwy, cliciwch yma i gael rhagor o wybodaeth.
Sylwer er mwyn bod yn gymwys ar gyfer Rhaglen Brentisiaeth HDC rhaid i chi:
- Feddu ar safon dda o addysg i radd TGAU A-C o leiaf, yn cynnwys Mathemateg a Saesneg, neu'r gallu i ddangos sgiliau a galluoedd cyfatebol.
- Bod yn ddinesydd Prydeinig, yn ddinesydd o'r Ardal Economaidd Ewropeaidd, yn ddinesydd y Gymanwlad neu'n wladolyn tramor heb gyfyngiadau ar eich arhosiad yn y Deyrnas Unedig.
- Peidio â bod wedi cwblhau rhaglen brentisiaeth, interniaeth neu raddedig gyda Heddlu De Cymru yn flaenorol.
- Os ydych chi'n gwneud cais am Brentisiaeth Staff Heddlu De Cymru fel cyfle i newid gyrfa, yna mae'n rhaid i'r rôl rydych chi'n ymgeisio amdani fod yn ddisgyblaeth wahanol i unrhyw gymwysterau blaenorol sydd gennych. Er enghraifft, os oes gennych radd TGCh, ni fyddech yn gallu gwneud cais am y brentisiaeth TGCh, ond gallech wneud cais am y brentisiaeth Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant.
Peidiwch â cholli'r cyfle gwych hwn, gwnewch gais heddiw ac ymunwch â #TîmHDC
Mae'n rhaid i'r ymgeisydd llwyddiannus fod yn fodlon cael ei fetio hyd at Lefel RV
Os ydych yn rhan o Ymchwiliad sy'n mynd rhagddo ar hyn o bryd, ni fyddwch yn gymwys i wneud cais ar gyfer y rôl hon
Ni ellir gwneud cais am y cyfle hwn.