Arweinydd Strategol (Camddefnyddio Sylweddau)

Heddlu De Cymru
Staff Heddlu
Swyddfa Comisiynyd Heddlu a Throsedd
K Swyddfa'r Comisynydd Heddlu a Throsedd
Pencadlys, Pen-y-bont ar Ogwr
PO45
£41,718 - £47,058
Llawn Amser
37
Tymor Sefydlog
24
2

08/07/22 12:00

TEITL SWYDD: Arweinydd Strategol – Camddefnyddio Sylweddau

GRADD:  PO4/5 £41,718 – £47,058

LLEOLIAD:  Pencadlys Pen-y-bont ar Ogwr gyda gofyniad i gwmpasu ardal Heddlu De Cymru (mae trefniadau gweithio hyblyg ac ystwyth ar waith).

YN ATEBOL I: Cyfarwyddwr Partneriaethau a Rhaglenni

ORIAU: 37 awr yr wythnos

CYFNOD:  Contract cyfnod penodol 2 flynedd (byddwn secondiad am 24 mis cael ei ystyried am yr rôl hyn)

FETIO: Lefel MV/SC

AR AGOR I: 23.05.2022 - 12.07.2022 12PM

Mae cyfle cyffrous wedi codi i gefnogi gweledigaeth Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu De Cymru, gan gymryd camau i gefnogi'r rheini sydd ag anghenion o ran camddefnyddio sylweddau ledled ardal Heddlu De Cymru.

Rydym am benodi Arweinydd Strategol a fydd yn gyfrifol am ddatblygu polisi strategol ac am reoli gwasanaethau a gomisiynwyd o ddydd i ddydd ar lefel De Cymru. Rydym nhi edrych penodi Arweiniad Strategol sydd gyda uchelgais i newid sut mae camddefnyddio sylweddau yn cael ei ddynesu dros De Cymru, gyda profiad mewn newidaeth rheolaeth ac trawsnewid. 

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn rhywun sydd â phrofiad a dealltwriaeth helaeth mewn perthynas â chamddefnyddio sylweddau ynghyd â dealltwriaeth amlwg o faterion cyfoes sy'n codi yn lleol ac yn genedlaethol, y dirwedd wleidyddol ac o ran partneriaethau ledled De Cymru a rôl a chyfrifoldebau Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu o fewn y dirwedd hon.

Fel yr arweinydd strategol, byddwch yn gyfrifol am ddatblygu a gweithredu'r cyfeiriad strategol ar gyfer y maes polisi hwn, ynghyd â goruchwylio'r broses o ddarparu gwasanaethau a gomisiynwyd. Byddwch yn gyfrifol am feithrin a chynnal cydberthnasau effeithiol â phartneriaid mewn amrywiaeth o sectorau i nodi cyfleoedd ar gyfer gwella'r gwasanaethau a ddarperir i gefnogi'r rheini sydd ag anghenion o ran camddefnyddio sylweddau. Byddwch hefyd yn gyfrifol am feithrin cydberthnasau effeithiol o fewn tîm cefnogi a gyda chydweithwyr yn nhîm ehangach y Comisiynydd, er mwyn sicrhau bod mentrau'n gydnaws ar draws meysydd polisi i gyflawni'r amcanion yng Nghynllun yr Heddlu a Throseddu.

Bydd angen profiad o negodi a dylanwadu arnoch, ynghyd â datblygu polisi a byddwch yn meddu ar sgiliau arwain a rheoli pobl cryf, ynghyd â dull dynamig, gwydn a rhagweithiol o weithio mewn partneriaeth.

Mae'r swydd wedi'i lleoli yn Ne Cymru, ond mae trefniadau gweithio ystwyth ac o bell ar waith, a bydd angen teithio y tu hwnt i Dde Cymru o bryd i'w gilydd.  

Am ragor o wybodaeth cysylltwch â Mark Brace: mark.brace@South-Wales.police.uk

Cynhelir cyfweliadau ar 7 Gorffennaf. 

Cliciwch yma i gael gwybodaeth am sut i gwblhau ein proses ymgeisio ar-lein'

Ni ellir gwneud cais am y cyfle hwn.